Pobl a Sgiliau

Gall blaenoriaeth buddsoddi pobl a sgiliau ddarparu cyllid i helpu i leihau'r rhwystrau i gyflogaeth y mae rhai yn eu hwynebu, a'u cefnogi i symud tuag at gyflogaeth ac addysg.

Gall y thema hon hefyd dargedu cyllid ar gyfer sgiliau i bobl leol er mwyn cefnogi cyflogaeth a thwf lleol.

Diweithdra/Anweithgarwch Economaidd/Bod Heb Waith

Bydd lleihau anweithgarwch economaidd yn gofyn am gynyddu gobeithion a chyfleoedd ymhlith y bobl ifanc hynny y mae diweithdra, o bosibl, eisoes wedi'i hen sefydlu yn eu teulu.

Bydd cyflawni canlyniadau mwy meddal a'u sgileffeithiau dilynol yr un mor bwysig fel bod grwpiau ymylol yn nesáu at y farchnad lafur ac yn symud ymlaen i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Gall gwirfoddoli a mentrau cymdeithasol hefyd gynnig llwybrau pwysig i wella sgiliau a phrofiad a allai arwain at gyfraddau uwch o weithgarwch economaidd.

Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)

Mae angen lleihau nifer y plant a phobl ifanc 11-19 oed sydd mewn addysg ond sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (cyn-NEET), a'r rheiny sy'n 16-24 oed ac yn NEET, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hintegreiddio i'r farchnad lafur mewn modd cynaliadwy , gan felly gyfrannu at ostyngiad mewn diweithdra ymhlith ieuenctid.

Lefelau Sgiliau

Mae sgiliau da yn hanfodol ar gyfer hyder lleol a hyder darpar gyflogwyr y gall swyddi gael eu llenwi â gweithwyr addas sy'n meddu ar y sgiliau priodol. Mae hyn yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd gweithwyr lleol yn gallu cystadlu am swyddi gwag yn llwyddiannus.

Ar hyn o bryd, mae busnesau'n profi anawsterau o ran recriwtio a dod o hyd i gyflogeion sy'n meddu ar y lefelau sgiliau iawn, ac mae angen i weithwyr sy'n wynebu dyfodol ansicr o ganlyniad i'r pandemig gael mynediad at waith newydd neu o fath gwahanol yn gyflym; bydd hyn yn cynnwys ailsgilio, ailhyfforddi a meddu ar lwybr clir yn ôl i mewn i'r farchnad lafur.