Cymorth Masnach Ryngwladol

Eich helpu chi i ddatblygu eich strategaeth allforio, cael mynediad at hyfforddiant a dosbarthiadau meistr, eich cysylltu chi â chynghorwyr allforio arbenigol a'ch helpu chi i wneud y gorau o rwydwaith byd-eang Llywodraeth Cymru a'r Adran Busnes a Masnach Ryngwladol i dyfu eich presenoldeb ar y llwyfan byd-eang.

Pa un a ydych yn bwriadu allforio am y tro cyntaf, neu'n chwilio am gymorth i ehangu i farchnadoedd newydd neu gyfredol, gall ein Swyddog Cymorth Masnach Ryngwladol gefnogi eich taith â'r canlynol:

  • Cyngor/Arweiniad
  • Cyfeirio
  • Trefnu digwyddiadau
  • Nodi a Chreu Cyfleoedd Masnachol
  • Datgloi Potensial Allforio
  • Datblygu a Hyrwyddo eich Presenoldeb i'r Eithaf ar y Llwyfan Rhyngwladol
  • Grantiau ar gyfer: Hyfforddiant, Cyhoeddiadau/Tanysgrifiadau, Ardystiadau/Achrediadau, Marchnata Tramor*, ac ymweliadau â Ffeiriau Masnach ac Arddangosfeydd.* (*yn cael eu hasesu fesul achos)

Cyswllt

I gael gwybodaeth am y newidiadau hyn, cysylltwch â'n Swyddog Cymorth Masnach Ryngwladol: Sarah Gaze GazeSL@caerffili.gov.uk