Cymunedau a Lle

Bydd blaenoriaeth buddsoddi cymunedau a lle yn galluogi lleoedd i fuddsoddi er mwyn adfer eu perthnasoedd a'u mannau cymunedol a chreu'r seiliau ar gyfer datblygiad economaidd ar lefel y gymdogaeth. Nod hyn yw cryfhau cyfansoddiad cymdeithasol ein cymunedau, gan gefnogi'r broses o feithrin balchder mewn lle.

Trefi

Mae'r newid sy'n wynebu ein cymunedau a'n trefi yn cynnig cyfle sylweddol i ddarparu ymyraethau sydd o bwys i gymunedau lleol, gan feithrin hyder a chydnerthedd cymunedol, yn ogystal ag ymdeimlad cryf ac unigryw o hunaniaeth a lle.

Ymyraethau Arfaethedig

  • Harddu tir y cyhoedd yng nghanol ein trefi, i gynnwys gwneud gwelliannau i dir y cyhoedd, tacluso gofodau ar strydoedd, cyflwyno atebion clyfar ar gyfer busnesau, megis storio a rheoli gwastraff, a gwella'r cynllun goleuadau i roi hwb i economi'r nos yng Nghaerffili.
  • Addasu eiddo gwag ac asedau treftadaeth at ddefnydd dros dro a defnydd a arweinir gan y gymuned.
  • Cyllido penodiad Tîm Ymateb Canol y Dref pwrpasol i weithio ledled pob tref yn y Fwrdeistref Sirol yn glanhau, yn gwyrddu ac yn ymgymryd â gwaith harddu a gwella cyffredinol.
  • Darparu Cronfa Gwella Canol Trefi i sicrhau bod y Cyngor yn gallu ymateb yn effeithiol i archwiliadau o ganol trefi.
  • Canolbwyntio ar y stryd fawr a mannau ar gyfer digwyddiadau yng nghanol trefi, a chymryd camau i gynllunio yn erbyn troseddau trwy ddulliau lliniaru ar gyfer cerbydau anghyfeillgar a mesurau diogelwch eraill, megis penodi Cydlynydd Ymyrraeth ac Atal i gyflawni Prosiect Atal Trosedd ac Anhrefn i wella/gefnogi cymunedau lleol a mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Trafnidiaeth a Hygyrchedd

Mae gan Gaerffili rwydwaith eang o lwybrau cerdded a beicio sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth ac sy'n galluogi'r cyhoedd ac ymwelwyr i gyrchu canol trefi, parciau gwledig blaenllaw, mannau gwyrdd, a chanolfannau cyflogaeth.

Bydd datblygu opsiynau Teithio Llesol ymhellach yn cefnogi iechyd a llesiant a thwf twristiaeth, yn ogystal â chyfrannu ar leihau allyriadau trafnidiaeth a gwella ansawdd yr aer.

Ymyraethau Arfaethedig

  • Cefnogi mentrau sy'n hyrwyddo teithio llesol, megis darparu llwybrau beicio/llwybrau newydd neu well, a neilltuo Cyllideb Hyrwyddo Teithio Llesol i hyrwyddo'r defnydd ohonynt.
  • Cynyddu nifer y mannau gwefru Cerbydau Trydan mewn cyrchfannau allweddol.

Digidol

Gall data digidol gynnig dirnadaeth o symudiadau teithio, parcio, gweithgarwch ffonau symudol, rhyngweithio â'r cyfryngau cymdeithasol a'r defnydd o WiFi, a gallant ddarparu dirnadaeth gosteffeithiol o'r defnydd newidiol o'r stryd fawr a threfi.

Ymyraethau Arfaethedig

  • Cynyddu hygyrchedd ac argaeledd seilwaith digidol mewn cymunedau lleol.
  • Nodi safleoedd allweddol y mae angen gwella eu seilwaith digidol, ynghyd ag amryw o safleoedd cyflogaeth.
  • gwella WiFi/cysylltedd digidol yng nghanol trefi, a chynnig cymorth i fusnesau lleol trwy Gronfa Fenter Caerffili i alluogi busnesau i brynu a gweithredu datrysiadau technoleg ddigidol diwydiannol newydd i ychwanegu gwerth at eu cynnig.
  • Datblygu cymhwysiad digidol, e.e. Near me Now, a fydd yn galluogi preswylwyr i gyrchu eu siop, eu banc neu eu bwyty agosaf ar-lein, ac yn caniatáu i gwmnïau annibynnol hysbysebu penodiadau neu gynigion hyrwyddo ar y stryd fawr leol.

Iechyd a Llesiant

Ymyraethau Arfaethedig

  • Hyrwyddo pwysigrwydd cyfleusterau chwaraeon cymunedol a chymryd rhan mewn chwaraeon.
  • Sefydlu rhaglen Grantiau Chwaraeon a Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer grwpiau cymunedol i gefnogi cynghreiriau chwaraeon cymunedol.
  • Darparu meysydd chwarae 3G mewn Ysgol Gymunedol leol i wella darpariaeth y cyfleusterau chwaraeon er mwyn creu Bwrdeistref Sirol sy'n cefnogi ffordd iach o fyw yn unol â'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
  • Darparu ar gyfer Cydlynwyr Ardal iddynt gyfeirio at wasanaethau cyfredol a chysylltu â nhw er mwyn gwella iechyd a llesiant yn y gymuned.
  • Darparu rhaglen o Welliannau i Ystafelloedd Ffitrwydd er mwyn cynyddu nifer y cyfleusterau a gefnogir/grëir, gyda'r nod o gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio cyfleusterau/amwynderau.
  • Cryfhau ein cyfansoddiad cymdeithasol a meithrin ymdeimlad o falchder lleol a pherthyn, a hynny trwy fuddsoddi mewn gweithgareddau sy'n gwella cysylltiadau ac amwynderau corfforol, diwylliannol a chymdeithasol, megis cymuned.

Yr Argyfwng Costau Byw

Ymyraethau Arfaethedig

  • Sefydlu Cronfa Cefnogi yr Argyfwng Costau Byw i ddarparu rhaglenni ac ymgyrchoedd i annog pobl i fanteisio ar fesurau effeithlonrwydd ynni ar gyfer cartrefi, megis pympiau gwres, pympiau dŵr, mwy o insiwleiddio, ac ati.
  • Targedu'r cymunedau mwyaf difreintiedig ledled y Fwrdeistref Sirol â chymorth trwy Raglen Ffabrig yn Gyntaf Effeithlonrwydd Ynni.
  • Darparu cymorth i fanciau bwyd lleol, archfarchnadoedd cymdeithasol a Chynlluniau Cyfran Deg gynorthwyo preswylwyr.

Ymgysylltu â'r Gymuned

Mae gan Gaerffili gryn gryfder yn ei gwead cymdeithasol a'i hysbryd cymunedol, sy'n darparu optimistiaeth mewn perthynas â'r gallu i sefydlu hunaniaeth gref ac amlwg a fydd yn ei helpu i fynd i'r afael â'r heriau y mae'n eu hwynebu, yn ogystal â datblygu ei chyfleoedd.

Bydd cyfranogiad ac ymgysylltiad y gymuned leol o ran nodi'r hyn y mae arni ei angen a'i eisiau mewn perthynas â'r stryd fawr, trefi a mannau gwyrdd ledled Caerffili yn hanfodol ar gyfer ei llwyddiant.

Ymyraethau Arfaethedig

  • Sefydlu Rhaglen Grantiau Cymunedol i'w defnyddio gan grwpiau cymunedol/y trydydd sector/y sector gwirfoddol.

Treftadaeth Naturiol

Mae Llywodraeth Cymru yn glir bod y llwybr i ddatgarboneiddio yn rhoi'r pwys pennaf ar les ein pobl, iechyd ein heconomi, a'r gwaith o amddiffyn a gwella ein hamgylchedd naturiol.

  • Sefydlu Tîm Gwyrdd newydd i gyfrannu at reolaeth effeithiol ar seilwaith gwyrdd y Fwrdeistref Sirol a meithrin cydnerthedd mewn perthynas â thywydd eithafol.
  • Datblygu Strategaeth Seilwaith Gwyrdd

Treftadaeth Ddiwylliannol

Mae treftadaeth ddiwylliannol Caerffili yn cael ei chydnabod a'i gwerthfawrogi gan gymunedau ac ymwelwyr, ac mae'n bwysig i'r Economi Ymwelwyr ac i iechyd a llesiant cymdeithasol, economaidd a diwylliannol dinasyddion.

Mae'r fath amrywiaeth o hanes a diwylliant mewn ardal ddaearyddol gymharol fach yn darparu pwynt gwerthu unigryw a chyfle mawr ar gyfer twristiaeth, iechyd a hamdden, yn ogystal â chyfle sylweddol ar gyfer gweithgarwch ar draws y flaenoriaeth Cymunedau a Lle a'r flaenoriaeth Cefnogi Busnesau Lleol, fel ei gilydd.

Ymyraethau Arfaethedig

  • Darparu cymorth i grwpiau a sefydliadau diwylliant, hanes a threftadaeth sy'n ffurfio'r cynnig lleol o ran diwylliant a threftadaeth, gan gydnabod eu heffaith ar iechyd a llesiant cymdeithasol, economaidd a diwylliannol dinasyddion.

Cyflogaeth/Gweithgarwch Economaidd

Bydd gwella sgiliau lleol trwy gynllunio'r gweithlu, hyfforddiant, prentisiaethau a chyfleoedd i wirfoddoli yn helpu cenedlaethau'r dyfodol i ddod o hyd i waith teilwng, gwerth chweil ac osgoi tlodi mewn gwaith.

Ymyraethau Arfaethedig

  • Datblygu Clwstwr Arloesi ac Academi Sgiliau Rhanbarthol, gan sicrhau cyfraniad rhanbarthol yn seiliedig ar ddadansoddiad rhanbarthol o'r angen.
  • Cyllid ar gyfer cwmpas a chyrhaeddiad  cynyddol busnesau megis Canolfan Arloesi Menter Cymru/Town Square, ac ati, i gynnwys cyflwyno hybiau lloeren i ddarparu estyniad i'r clwb 5-9, bŵt-camp, ac ati, sydd wedi darparu rhaglenni tebyg.
  • Bydd darpariaeth sbarduno a hybu (datblygu unedau cychwyn busnes llai yn y Fwrdeistref Sirol) wedi'u hadeiladu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'r sector preifat, fel ei gilydd, yn cefnogi busnesau i arloesi, ehangu a chyrraedd buddsoddiad newydd.Bydd gwelliannau i unedau cyflogaeth sy'n cydymffurfio â rheoliadau adeiladu ac yn dod yn effeithlon o ran ynni yn lleihau costau cynnal ac yn helpu i sicrhau cynaliadwyedd tenantiaid busnes.