Ffos Caerffili, Caerffili

Mae safle gweithredol Ffos Caerffili yng nghanol tref Caerffili. Mae’r safle hwn mewn lleoliad strategol yn agos at y prif ganolbwynt manwerthu, cyfnewidfa drafnidiaeth y dref ac, yn bwysicaf oll, castell hanesyddol y dref sy’n gweithredu fel atyniad rhanbarthol i dwristiaid.

Mae’r prosiect yn un allweddol yn Uwchgynllun Creu Lleoedd Tref Caerffili 2035. Bydd y gweithrediad yn ceisio gwella economi gyda'r nos yr ardal ac ategu profiad ymwelwyr â’r castell a'r dref hefyd. Hwn fydd un o’r prosiectau cyntaf i gael ei ddatblygu fel rhan o Gynllun Creu Lleoedd Caerffili 2035, a bydd yn darparu ysgogiad ar gyfer buddsoddi pellach ledled y dref.

Mae gan y safle, sydd tua 0.3 hectar, ganiatâd cynllunio ar gyfer marchnad fasnachol sy'n cynnwys cynwysyddion cludo wedi'u haddasu. Mae gan y datblygiad ddau lawr ac mae’n darparu amrywiaeth o unedau masnachol gydag arwynebedd llawr mewnol gros cyffredinol o 427 metr sgwâr. Mae Ffos Caerffili yn darparu ar gyfer cymysgedd o ddefnyddiau A1 (manwerthu), A3 (bwyd a diod) a B1 (swyddfeydd/dechrau busnesau).

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru gyda buddsoddiad ychwanegol gan y Cyngor a Menter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Mae’r gweithrediad hefyd wedi’i gynorthwyo gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sy’n un o golofnau canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Mae nifer o fasnachwyr marchnad hefyd wedi cael cyllid ychwanegol trwy'r Grant Datblygu Busnes, trwy gymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.