Rhowch wybod i ni

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn croesawu unrhyw sylwadau, canmoliaeth neu gwynion sydd gennych chi am ein gwasanaethau.

Canmoliaethau, sylwadau cyffredinol ac adborth

Os hoffech chi anfon sylwadau cyffredinol, adborth am wasanaeth neu ganmol gwasanaeth neu gyflogai, gwnewch hynny ar y ffurflen ar-lein isod.

Anfon sylwad neu ganmoliaeth

Gwneud cwyn ffurfiol

Os nad ydych chi’n hapus gyda gwasanaeth rydych chi wedi cael a hoffech chi wneud cwyn. Ydych chi wedi rhoi gwybod i ni?

I ddechrau, cysylltwch â’r person a ddarparodd y gwasanaeth, neu ofyn i siarad â’i reolwr. Gallwch chi ddatrys y rhan fwyaf o broblemau yn y ffordd hon.

Os nad yw’n bosibl ddatrys eich problem, rydych chi’n gallu gwneud cwyn ffurfiol drwy ein ffurflen ar-lein isod.

Anfon cwyn ffurfiol

Fel arall, gallwch chi ofyn am gopi o’n ffurflen gan y person rydych chi eisoes wedi cysylltu â fe. Dywedwch wrtho eich bod chi'n dymuno’ch pryderon gael eu trin yn ffurfiol, neu ysgrifennu atom ni yn:

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ar gyfer sylw’r Swyddog Cwynion Corfforaethol, D/O Gwasanaethau Cyfreithiol, Tŷ Penallta, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG
  • Ffôn: 01443 864221

Y broses gwyno

Byddwn ni’n cydnabod eich cwynion ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gwaith. Byddwn ni’n ceisio datrys eich cwyn o fewn 20 diwrnod gwaith. Os nad yw hynny'n bosibl, byddwn ni’n dweud wrthych chi pam a pha mor hir y bydd yn ei gymryd.

Mae gennym ni ddull dau gam wrth ymdrin â chwynion. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y polisïau canlynol:

Os ydych chi’n dal ddim yn fodlon

Gallwch chi gwyno wrth:

Tudalennau cysylltiedig

Cwynion gwasanaethau i oedolion