Datganiad polisi tâl 2024 / 2025

Cydraddoldeb:

Fersiwn: Fersiwn 13
Cadarnhawyd y polisi gan: Y Cyngor
Dyddiad: 27 Chwefror 2024
Perthnasol i: Holl gyflogeion Cyngor Caerffili (gan gynnwys Gweithwyr Asiantaeth) ac eithrio cyflogeion dan gontract Ysgolion.
Blwyddyn Adolygu: Blwyddyn Ariannol 2024 - 2025
Cydraddoldeb: Mae'r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg, ac mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais. This document is available in Welsh, and in other languages and formats on request

Cyflwyniad a diben

1.1

O dan Adran 112 Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae gan y Cyngor rym i 'benodi swyddogion ar delerau ac amodau rhesymol fel y gwêl yr Awdurdod yn dda'. Mae'r Datganiad Polisi Tâl hwn yn nodi ymagwedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili tuag at Bolisi Tâl yn unol â gofynion Adran 38 i 43 Deddf Lleoliaeth 2011. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Lloegr gynhyrchu a chyhoeddi Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2012/2013 a phob blwyddyn ariannol wedi hynny, sy'n nodi:

  • Polisïau'r Cyngor o ran pob elfen ac agwedd ar dâl y Prif Swyddogion (diffinnir Prif Swyddogion yn ym mharagraff 5.1 o'r polisi hwn);
  • Y dull o gyhoeddi a chael mynediad at wybodaeth sy'n ymwneud â phob agwedd ar dâl y Prif Swyddogion;
  • Polisi'r Cyngor ar dalu ei gyflogeion ar y tâl isaf (gan gynnwys y diffiniad a ddefnyddir a'r rhesymau dros y diffiniad hwnnw);
  • Y gydberthynas rhwng tâl y Prif Swyddogion a chyflogeion eraill.

1.2

Cyhoeddwyd canllawiau ynghylch y materion hyn gan Lywodraeth Cymru ac, yn unol ag Adran 40 (2) y Ddeddf, roedd gofyn i Awdurdodau Lleol yng Nghymru ystyried y Canllawiau hyn wrth gyflawni eu swyddogaethau o ran paratoi a chymeradwyo datganiadau Polisi Tâl. Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen fframwaith hefyd a oedd yn gosod cyfres gyffredin o egwyddorion lefel uchel a safonau gofynnol ar gyfer adrodd ar drefniadau tâl cydnabyddiaeth uwch o fewn sector cyhoeddus Cymru (gan gynnwys awdurdodau lleol).

1.3

Ym mis Rhagfyr 2016, cyhoeddodd y Comisiwn Staff ddogfen "Cyngor a chanllawiau ar Fframwaith Llywodraeth Cymru ar 'Dryloywder Cydnabyddiaeth Ariannol Uwch Reolwyr yn y Sector Cyhoeddus Datganoledig yng Nghymru'”. Roedd y canllawiau hyn yn disodli unrhyw ganllawiau blaenorol a gyhoeddwyd o dan Adran 40 Deddf Lleoliaeth 2011.

1.4

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau pellach hefyd ym mis Rhagfyr 2020 o'r enw 'Atebolrwydd Tâl o fewn Llywodraeth Leol. Beth i'w gynnwys yn natganiadau polisi tâl blynyddol yr awdurdodau lleol.'

1.5

Mae hwn yn diweddaru'r datganiad Polisi Tâl blaenorol a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Mehefin 2012, ac a ddiweddarwyd â chymeradwyaeth y Cyngor ar 15 Mawrth 2023. Daw'r datganiad hwn i rym ar unwaith, ar ôl iddo gael ei gymeradwyo'n llawn gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror 2024. Yr ystodau cyflog yn y Polisi Tâl hwn yw’r rhai y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer 2023/24 gan fod y dyfarniadau cyflog cenedlaethol ar gyfer 2024/25 yn destun negodi.

1.6

Mae angen gosod y datganiad polisi tâl hwn mewn cyd-destun. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn sefydliad mawr a chymhleth sydd â chyllideb gwerth miliynau o bunnoedd. Mae gan y Cyngor weithlu o ychydig dros 8,600 o gyflogeion a chyllideb refeniw a chyfalaf cyfunol o dros £688.9 miliwn ar gyfer 2022/2023. Yn ogystal, ni yw'r cyflogwr unigol mwyaf yn y Fwrdeistref Sirol.

1.7

Fel cyflogwr, mae gennym ystod eang iawn o swyddogaethau ac rydym yn gyfrifol am ddarparu llawer o wasanaethau hanfodol ar lefel leol. Felly, gall yr ymagwedd gyffredinol i lefelau tâl cyflogeion amrywio rhwng grwpiau o gyflogeion, i adlewyrchu amgylchiadau penodol ar lefel leol, ar lefel Cymru neu ar lefel y Deyrnas Unedig. Mae angen i'r ymagwedd hon fod yn hyblyg pan fydd angen hefyd, er mwyn mynd i'r afael ag ystod o amgylchiadau sy'n newid, boed yn rhagweladwy neu beidio.

Fframwaith deddfwriaethol

2.1

Wrth bennu tâl a chydnabyddiaeth ariannol ei holl gyflogeion, bydd y Cyngor yn cydymffurfio â phob deddfwriaeth cyflogaeth berthnasol. Mae hyn yn cynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010, Rheoliadau Gweithwyr Rhan-amser (Atal Triniaeth Lai Ffafriol) 2000, Rheoliadau Gweithwyr Asiantaeth 2010 a lle bo'n berthnasol, Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth).

2.2

O ran y gofynion Cyflog Cyfartal sy'n cael eu cynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010, mae'r Cyngor yn anelu i sicrhau nad oes gwahaniaethu ar sail tâl yn ein strwythurau tâl ac y gellir cyfiawnhau'r holl wahaniaethau tâl yn wrthrychol drwy ddefnyddio mecanweithiau Gwerthuso Swyddi sy'n bodloni'r prawf cydraddoldeb, sy'n cysylltu cyflogau'n uniongyrchol â gofynion, disgwyliadau a chyfrifoldebau'r rôl.

Cwmpas y polisi tâl

3.1

Mae Deddf Lleoliaeth 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddatblygu a chyhoeddi eu Polisi Tâl ar bob agwedd ar dâl Prif Swyddogion (gan gynnwys pan fyddant yn rhoi'r gorau i'r swydd), a hefyd mewn perthynas â'r 'rhai sydd â'r tâl isaf' yn y Cyngor, gan egluro eu Polisi ar y berthynas rhwng tâl y Prif Swyddogion a grwpiau eraill.

3.2

Dim ond i gyflogeion sydd wedi’u penodi a’u rheoli’n uniongyrchol gan y Cyngor y mae darpariaethau Deddf Lleoliaeth 2011 mewn perthynas â datganiadau Polisi Tâl, yn berthnasol. Felly, nid oes rhaid cynnwys cyflogeion sy'n cael eu penodi a'u rheoli gan Benaethiaid/Cyrff Llywodraethu ysgol yng nghwmpas datganiadau Polisi Tâl. Mae hyn yn adlewyrchu'r sefyllfa unigryw mewn deddfwriaeth cyflogaeth lle caiff holl gyflogeion ysgolion eu cyflogi gan yr Awdurdod Lleol, ond gwneir penderfyniadau ynghylch penodi a rheoli cyflogeion o’r fath gan Benaethiaid/Cyrff Llywodraethu yn bennaf, fel y bo'n briodol.

Strwythur a threfniadau tâl

4.1

Mae'r Cyngor yn cyflogi staff o dan delerau ac amodau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau Llywodraeth Leol sy'n cael eu cynnwys yn eu contractau. Fel sail i'w strwythur tâl a graddio lleol, mae Caerffili yn defnyddio colofn gyflog y trafodwyd yn genedlaethol gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol. Cyflawnwyd ein strwythur Tâl a Graddio lleol trwy gydgytundeb â'r Undebau Llafur, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2009. Diweddarwyd strwythur Tâl a Graddio Cyd-gyngor Cenedlaethol y Cyngor, drwy gydgytundeb â'r Undebau Llafur o ganlyniad i gytundeb tâl y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer 2018-2020, a oedd yn cynnwys cyflwyno Colofn Gyflog newydd i Wasanaethau Llywodraeth Leol y Cyd-gyngor Cenedlaethol. Mae'r strwythur Tâl a Graddio wedi'i ddiweddaru i gael gwared â'r Pwynt Colofn Gyflog 1 ac yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023, yn unol â dyfarniad tâl y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer 2022.

4.2

Mae'r Cyngor yn cyflogi Prif Swyddogion o dan delerau ac amodau'r Cyd-bwyllgor Negodi (HNC) sy'n cael eu cynnwys yn eu contractau. Mae'r Cyd-bwyllgor Negodi ar gyfer Prif Swyddogion yn trafod codiadau cyflog costau byw blynyddol cenedlaethol (y DU) ar gyfer y grŵp hwn, ac ar y sail hon y penderfynir ar ddyfarniad o'r fath. Mae hawl gytundebol gan y Prif Swyddogion a gyflogir o dan delerau ac amodau'r Cyd-bwyllgor Negodi i unrhyw godiad cyflog cenedlaethol a ddyfarnir gan y Cyd-bwyllgor Negodi ac, o ganlyniad, bydd y Cyngor hwn yn talu'r rhain fel y cânt eu pennu yn unol â'r gofynion cytundebol presennol.

4.3

Cytunir ar delerau ac amodau Prif Weithredwyr gan gorff arall, h.y. y Cyd-bwyllgor Negodi ar gyfer Prif Weithredwyr, sydd hefyd yn trafod ar sail genedlaethol. Cytunodd y Cyngor, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019, y byddai pob dyfarniad tâl y cytunir arno'n genedlaethol yn y dyfodol ar gyfer y Prif Weithredwr yn cael ei gymeradwyo'n awtomatig.

4.4

Mae Cyngor Caerffili yn defnyddio proses Gwerthuso Swyddi Cyngor Taleithiol Llundain Fwyaf (GLPC) ar gyfer staff y Cyd-gyngor Cenedlaethol. O ran y Prif Swyddogion, gan gynnwys y Prif Weithredwr, mae'r Cyngor yn defnyddio proses Gwerthuso Swyddi Hay sy'n caniatáu i'r swyddi gael eu meincnodi'n effeithiol yn erbyn y marchnadoedd mewnol ac allanol, fel y cymeradwywyd gan y Cabinet yn 2004. Y prosesau hyn sy'n pennu cyflogau'r rhan helaeth o'r gweithlu nad ydynt yn addysgu, ynghyd â chyfraddau eraill a ddiffinnir yn genedlaethol lle bo'n berthnasol.

4.5

Yn ogystal â threfniadau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol a'r Cyd-bwyllgor Negodi y cyfeiriwyd atynt uchod, mae'r Cyngor yn cydnabod trefniadau eraill a drafodir yn genedlaethol gan gynnwys Graddau Cyflog Cenedlaethol o dan Gytundeb Soulbury a'r Cyfraddau Cyflog Cenedlaethol o dan y Cyd-bwyllgor Negodi ar gyfer Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol. Mae manylion y graddfeydd hyn wedi'u cynnwys yn Atodiadau A - D.

4.6

Mae'r Cyngor hefyd wedi sefydlu cytundebau lleol a gyflawnwyd drwy gydgytundebau gyda'r Undebau Llafur ar gyfer y grwpiau staff hyn.

4.7

Fel arfer, bydd penodiadau newydd yn cael eu gwneud ar waelod y radd berthnasol, er y gellir ei amrywio lle bo angen, yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Pennaeth Gwasanaeth. Yn achlysurol, efallai y bydd angen ystyried y farchnad dâl allanol er mwyn denu a chadw cyflogeion sydd â phrofiad, sgiliau a gallu penodol. Lle bo angen, bydd y Cyngor yn sicrhau bod gofynion o'r fath yn cael eu cyfiawnhau'n wrthrychol drwy gyfeirio at dystiolaeth glir a thryloyw o gymaryddion perthnasol y farchnad, gan ddefnyddio ffynonellau data priodol sydd ar gael y tu mewn a thu allan i'r sector llywodraeth leol a'i fod yn cael ei gynnwys ym mholisi Taliadau Atodol ar sail y Farchnad.

Taliadau atodol

4.8

Mae pob lwfans arall sy'n gysylltiedig â thâl yn ddarostyngedig i gyfraddau sydd wedi'u trafod yn genedlaethol neu'n lleol, ac sydd wedi'u pennu yn unol â mecanwaith cydfargeinio a/neu Bolisi'r Cyngor. Wrth bennu ei strwythur graddio a gosod lefelau tâl cydnabyddiaeth ar gyfer pob swydd, mae'r Cyngor yn ystyried yr angen i sicrhau gwerth am arian yn erbyn y gallu i recriwtio a chadw cyflogeion medrus a phrofiadol a all ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'r cyhoedd.

4.9

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fod yn Gyflogwr Cyflog Byw. Y gyfradd Gyflog Byw flaenorol oedd £10.90 yr awr. Yn weithredol o 1 Tachwedd 2023, cafodd hyn ei gynyddu i £12.00 yr awr. Bydd y Cyngor felly yn parhau i dalu'r gwahaniaeth rhwng y pwynt perthnasol ar y golofn gyflog (mae pwyntiau 2 - 4 ar golofn gyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol yn cael eu heffeithio) fel tâl atodol. Mae'r tâl atodol hwn wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr fel tâl pensiynadwy. Dangosir hyn yng ngraddfeydd cyflog Cyd-gyngor Cenedlaethol y Cyngor yn Atodiad A.

Trefniadau honoraria a gweithredu mewn swydd uwch

4.10

Yn achlysurol, mae’n bosib y bydd unigolion yn cael dyletswyddau dros dro neu gyfrifoldebau sy’n uwch na’u rôl arferol. Mae’r Cyngor yn gweithredu ei gynlluniau Honoraria a Gweithredu mewn Swydd Uwch er mwyn sicrhau bod unigolion yn cael eu talu’n briodol yn unol â’r polisi gwerthuso sy’n berthnasol i’w telerau ac amodau.

Ymddeol yn gynnar, diswyddo gwirfoddol a dileu swyddi

4.11

Mae’r Cyngor wedi cytuno ar bolisïau mewn perthynas ag Ymddeol yn Gynnar drwy Gydsyniad ar y Cyd, Dileu Swyddi, a Diswyddo Gwirfoddol. Rhaid i’r Pwyllgor Iawndal Pensiynau, sef y grŵp o Aelodau Etholedig sydd â grymoedd dirprwyedig i gymeradwyo taliadau o’r fath, gytuno ar unrhyw gost i’r Cyngor drwy cyflogeion yn gadael ei gyflogaeth heb ostyngiad yn eu mynediad at eu pensiwn (heblaw am yn achos dileu swydd yn orfodol). Mae’r cynlluniau’n unol â Rheoliadau 5 a 6 Rheoliadau Llywodraeth Leol (Terfynu Cyflogaeth yn Gynnar) (Iawndal yn ôl Disgresiwn) 2006 a Rheoliadau 12 a 13 Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Buddiannau, Aelodaeth a Chyfraniad) 2007. Mae’r holl bolisïau hyn (ac eithrio dileu swydd yn orfodol) wedi’u seilio ar y gofyniad am achos busnes cadarn sy’n cydbwyso cyflawni gwasanaeth gyda chost, a gyda chymeradwyaeth gan y Pennaeth Gwasanaeth, y Cyfarwyddwr, y Swyddog Adran 151, a’r Pennaeth Gwasanaethau Pobl. Mae’r polisïau ar gael ar y Porth Adnoddau Dynol drwy’r dolenni canlynol:

4.12

Y Cyngor yw’r prif gyflogwr yn yr ardal. Yn wir, mae’r rhan fwyaf o’r cyflogeion sy’n gweithio i’r Cyngor yn byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Felly mae’n rhaid i’r Cyngor ystyried ei rôl o ran gwella llesiant economaidd pobl y Fwrdeistref Sirol.

4.13

Mae argaeledd cyflogaeth o ansawdd da ar delerau ac amodau rhesymol a chyfraddau tâl teg yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd bywyd yn y gymuned ac ar yr economi leol. Mae gan y Cyngor rôl hefyd i osod meincnodau tâl ac amodau i gyflogwyr eraill yn yr ardal am yr un rhesymau.

4.14

Mae’r Cyngor yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth â’i Undebau Llafur cydnabyddedig ar bob mater yn ymwneud â thâl ac amodau gwasanaeth. Cyflawnwyd Cydgytundebau 2009 a 2019 i gyflawni ein Strwythurau Tâl a Graddio gyda chymorth ein partneriaid yn yr Undebau Llafur. Rydym yn parhau i adolygu effeithiau’r Cynllun Ariannol Tymor Canol ar ein gweithlu.

Milltiredd

4.15

Y gyfradd filltiredd bresennol yw 45c y filltir, yn unol â’r swm a gymeradwywyd gan Gyllid a Thollau EM sydd wedi’i eithrio rhag treth.

Tâl y prif swyddogion

Diffiniadau prif swyddogion/lefelau tâl

5.1.

At ddibenion y datganiad Polisi Tâl hwn, mae’r diffiniad o “Brif Swyddogion” fel y mae yn Adran 43 y Ddeddf Lleoliaeth. Mae’r tabl isod yn nodi nifer bresennol y Tîm Arweinyddiaeth:

Teitl y Swydd Nifer o swyddi gwag
Prif Weithredwr 1
Dirprwy Brif Weithredwr 1
Pennaeth Gwasanaeth 3
Prif Weithredwr (Gradd A) 12
Prif Weithredwr (Gradd B) 1

Noder: Mae 8 swydd Gradd B Hay hefyd, sydd heb eu dynodi fel Penaethiaid Gwasanaeth.

5.2

Rhaniad rhywedd y Prif Swyddogion yw 7 benyw a 10 dyn.

5.3

Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019, cytunodd y Cyngor i recriwtio ar gyfer swydd y Prif Weithredwr ar sail barhaol ar gyflog sy’n aros yn ei unfan o £140,000 y flwyddyn. Mae hyn bellach wedi bod yn destun dyfarniadau cyflog cenedlaethol ac yn £153,111.

5.4

Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2022, cytunodd y Cyngor i greu swydd ychwanegol y Dirprwy Prif Weithredwr ar gyflog sy’n aros yn ei unfan o £139,044. Fel y cytunwyd arno yn y cyfarfod, mae'r cyflog hwn sy'n aros yn ei unfan wedi ei addasu yn dilyn cytundeb y dyfarniadau cyflog cenedlaethol a £145,903 yw'r cyflog.

5.5

Mae’r strwythur tâl ar gyfer y Prif Swyddogion eraill fel a ganlyn:

  • Cyfarwyddwyr Corfforaethol - Mae cyflog y swydd o fewn ystod o bedwar pwynt cynyddran rhwng £125,025 ac uchafswm o £138,695 y flwyddyn;
  • Penaethiaid Gwasanaeth (Band A) - Mae cyflog y swydd o fewn ystod o bedwar pwynt cynyddran rhwng £95,900 ac uchafswm o £106,334 y flwyddyn;
  • Penaethiaid Gwasanaeth (Band B) - Mae cyflog y swydd o fewn ystod o bedwar pwynt cynyddran rhwng £74,553 ac uchafswm o £82,617 y flwyddyn.
  • Nid oes trefniant bonws na thâl yn ymwneud â pherfformiad yn berthnasol i dâl Prif Swyddogion.

5.6

Yn unol â phenderfyniad y Cyngor ar 17 Ionawr 2013, ni ddefnyddiwyd y band uwch A+ fel y dangosir yn Atodiad D yn ystod cyfnod y weinyddiaeth flaenorol ac ni ailedrychwyd chwaith ar y mater o dâl Prif Swyddogion. Nid yw wedi’i adolygu gan fod cyfnod y weinyddiaeth honno wedi dod i ben, a bydd angen i unrhyw gynigion yn y dyfodol mewn perthynas â thâl y Prif Swyddogion gael ei benderfynu gan y Cyngor Llawn.

Recriwtio prif swyddogion

5.7

Mae Polisi a Gweithdrefnau’r Cyngor ar gyfer recriwtio Prif Swyddogion wedi’u cynnwys yn y Rheolau Gweithdrefn Cyflogaeth Swyddogion fel sydd wedi’u nodi yn Rhan 4 Cyfansoddiad y Cyngor.

5.8

Bydd penderfyniad ynghylch y tâl a gynigir i Brif Swyddog newydd a benodir yn cael ei wneud yn unol â’r strwythur tâl a pholisïau perthnasol y Cyngor sydd ar waith ar adeg recriwtio.

5.9

Os nad yw’r Cyngor yn gallu recriwtio Prif Swyddog o dan gontract gwasanaeth, neu os oes angen cefnogaeth ar gyfer prosiect penodol neu i gyflenwi pan fydd swydd barhaol Prif Swyddog yn wag, bydd y Cyngor, lle bo angen, yn ystyried penodi unigolion o dan “gontractau ar gyfer gwasanaeth”. Gwneir hyn drwy broses gaffael berthnasol (yn unol â rheolau sefydlog a rheoliadau ariannol), gan sicrhau bod modd i’r Cyngor ddangos gwerth am arian trwy gystadleuaeth i sicrhau’r gwasanaeth perthnasol. Serch hynny, nid oes enghreifftiau o’r trefniant hwn ar hyn o bryd.

5.10

Mae Llywodraeth Cymru’n argymell y dylai’r Cyngor llawn, yn ogystal â chytuno ar y paramedrau ar gyfer gosod tâl Prif Swyddogion, gael cyfle i bleidleisio ar becynnau cyflog mawr sy’n cael eu cynnig mewn perthynas â phenodiadau newydd, yn unol â’u datganiadau cytunedig ar bolisïau tâl. Mae Gweinidogion Cymru’n ystyried mai £100,000 yw’r lefel gywir ar gyfer y trothwy hwnnw.

5.11

At y diben hwn, dylai pecynnau cyflog fod yn gyson â’r categorïau a ddiffinnir ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol yn Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014. Bydd hyn yn cynnwys cyflog, taliadau bonws, ffioedd, lwfansau sy’n daladwy fel mater o drefn, unrhyw lwfans treuliau y mae modd codi treth incwm y DU arnynt, cyfraniad yr awdurdodau perthnasol at bensiwn y swyddog, ac unrhyw fuddion eraill mewn nwyddau y mae gan y swyddog hawl iddynt o ganlyniad i’w gyflogaeth.

5.12

Mae gofyniad i ymgynghori’n benodol gyda’r Panel Tâl Cydnabyddiaeth Annibynnol ynghylch unrhyw fwriad i newid cyflog Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig (y Prif Weithredwr yn ein hachos ni) neu’r Prif Swyddogion nad yw’n gyson â’r newidiadau a wnaed i swyddogion eraill yr awdurdod. Yna, mae gofyn i’r Cyngor roi ystyriaeth briodol i’w hargymhellion ar gyflog y Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig neu’r Prif Weithredwr cyn ystyried unrhyw newidiadau.

Ychwanegiadau at gyflogau prif swyddogion

5.13

Yn ogystal â chyflog sylfaenol, isod mae manylion elfennau eraill o dâl Prif Swyddogion:

  • Mae’r Cyngor yn talu cyfradd filltiredd safonol o 45c y filltir i Brif Swyddogion (sy’n gyson â’r holl gyflogeion eraill) o 1 Gorffennaf 2015 ymlaen, pan fydd Prif Swyddogion yn defnyddio eu cerbyd preifat i gyflawni busnes y Cyngor. Mae’r Cyngor hefyd yn ad-dalu unrhyw dreuliau rhesymol eraill y mae’r Prif Swyddog yn mynd iddynt ar ran y Cyngor pan fydd yn cyflawni busnes y Cyngor, ar ôl iddynt gyflwyno derbynebau ac yn unol ag amodau’r Cyd-bwyllgor Negodi ac amodau lleol eraill.
  • Cost cofrestru â chorff rheoleiddiol os oes gofyn cofrestru er mwyn ymarfer a chyflawni eu swydd benodol. Dim ond i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Swyddog Monitro y mae hyn yn berthnasol ar hyn o bryd.

5.14

Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i benodi Swyddog Canlyniadau ar gyfer Etholiadau a Refferenda penodol. Y Prif Weithredwr sydd â'r cyfrifoldeb dros fod yn Swyddog Canlyniadau ar gyfer y Cyngor ar gyfer pob Etholiad yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r Swyddog Canlyniadau'n bersonol gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau mewn perthynas â chynnal Etholiadau a Refferenda, a chânt eu talu i gyflawni’r swyddogaethau hyn yn unol â ffioedd rhagnodedig. Mae’r ffioedd rhagnodedig ar gyfer Etholiadau Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi’u hatodi yn Atodiad F. Nid yw ffioedd ar gyfer etholiadau sefydliadau eraill yn cael eu pennu na chwaith eu talu gan y Cyngor, e.e. Llywodraeth Cymru sy’n gosod y ffioedd ar gyfer eu hetholiad nhw ac ati. Mae holl daliadau’r Swyddog Canlyniadau mewn unrhyw etholiad yn cael eu gwneud yn gyhoeddus fel rhan o gyfrifon blynyddol y cyngor.

Taliadau wrth derfynu

5.15

Mae ymagwedd y Cyngor tuag at daliadau statudol a dewisol wrth derfynu cyflogaeth Prif Swyddogion, cyn cyrraedd oedran ymddeol arferol, wedi’i nodi yn ei ddatganiad polisi yn unol â Rheoliadau 5 a 6 Rheoliadau Llywodraeth Leol (Terfynu Cyflogaeth yn Gynnar) (Iawndal yn ôl Disgresiwn) 2006 ac [os cânt eu defnyddio] Rheoliadau 12 a 13 Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Buddiannau, Aelodaeth a Chyfraniad) 2007. Er eglurder, nid yw’r Awdurdod yn darparu unrhyw ychwanegiad (“blynyddoedd ychwanegol”) i bensiwn, yn ei daliadau wrth derfynu cyflogaeth.

5.16

Bydd unrhyw daliadau eraill sydd y tu allan i ddarpariaethau neu gyfnodau perthnasol rhybudd cytundebol yn destun penderfyniad ffurfiol a wneir yn unol â’r Cynllun Dirprwyo fel sydd wedi’i nodi yng Nghyfansoddiad y Cyngor.

5.17

Bydd angen i’r Cyngor gymeradwyo unrhyw becyn diswyddo sy’n uwch na’r trothwy presennol a bennwyd gan Weinidogion Cymru, sef £100,000. Bydd aelodau hefyd yn cael gwybod am unrhyw elfennau cytundebol neu statudol yn y pecyn diswyddo, ynghyd â chanlyniadau cadw’r rhain yn ôl yng nghyd-destun cyfraith cyflogaeth.

Cyhoeddi

6.1

Dyma ddiweddariad i’r Datganiad Polisi Tâl. Bydd y datganiad hwn yn dod i rym ar ôl iddo gael ei gymeradwyo’n llawn gan y Cyngor ym mis Mawrth 2023.

6.2

Yn ogystal, yn ôl Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, mae gofyn i’r Awdurdod ddatgelu’r wybodaeth ganlynol mewn perthynas â thâl yn ei Ddatganiad Cyfrifon blynyddol:

  • Nifer y cyflogeion yr oedd eu tâl, ac eithrio cyfraniadau pensiwn, yn uwch na £60,000.
  • Cydnabyddiaeth ariannol ac elfennau’r gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer prif swyddogion statudol a phenaethiaid gwasanaeth cyflogedig penodedig sydd â chyfrifoldeb dros reoli’r Awdurdod.
  • Cyfanswm nifer a chost pecynnau ymadael.
  • Y gymhareb dâl rhwng y Prif Weithredwr a thâl canolrifol yr holl gyflogeion.

Cymharu tâl yn y cyngor

7.1

Mae’r unigolion “ar y tâl isaf” sydd wedi’u cyflogi o dan gontract cyflogaeth gyda’r Cyngor yn cael eu cyflogi ar gyfradd y Cyflog Byw (Sylfaen) newydd o £12.00 yr awr. Mae pob rôl yn ein strwythur graddio sydd yn cael eu talu’n yn unol â phwyntiau 2 - 4 ar golofn gyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer cyflogeion Gwasanaethau Llywodraeth Leol, yn cael tâl atodol i ddod â’r gyfradd i £10.90 yr awr. Ar 1 Tachwedd 2023, £23,152 (Enillion Cyfwerth ag Amser Llawn) y flwyddyn yw hyn ar gyfer wythnos waith safonol 37 awr.

7.2

Caiff y berthynas rhwng y raddfa gyflog ar gyfer y cyflogeion sy’n “cael y tâl isaf” a Phrif Swyddogion y Cyngor ei rheoleiddio gan y prosesau a ddefnyddir ar gyfer pennu strwythurau tâl a graddio fel sydd wedi’u nodi yn y Datganiad Polisi Tâl hwn.

7.3

Mae'r canllawiau statudol o dan y Ddeddf Lleoliaeth yn argymell defnyddio gwahaniaeth tâl fel ffordd o fesur y berthynas rhwng cyfraddau tâl ar draws y gweithlu a thâl uwch reolwyr, fel sydd wedi’i nodi yn “Adolygiad o Dâl Teg yn y Sector Cyhoeddus” Hutton (2010).

7.4

Gofynnodd Llywodraeth y DU i Will Hutton archwilio’r achos o blaid gosod terfyn penodedig ar wasgariad tâl, drwy fynnu na all unrhyw reolwr yn y sector cyhoeddus ennill mwy nag 20 gwaith cymaint â’r unigolyn sydd ar y tâl isaf yn y sefydliad. Daeth Hutton i’r casgliad bod y berthynas â’r enillion canolrifol yn fesuriad mwy perthnasol, ac mae Cod Ymarfer Argymelledig y Llywodraeth ar Dryloywder Data yn argymell cyhoeddi’r gymhareb rhwng y gyfradd dâl uchaf a chyflog cyfartalog canolrifol gweithlu cyfan y Cyngor (gan eithrio athrawon a chyflogeion eraill a gaiff eu penodi a’u rheoli gan ysgolion, yn achos awdurdodau lleol).

7.5

Y cyflog a ddefnyddir ar gyfer cyfrifiadau’r Prif Weithredwr ar gyfer yr holl ddata gwahaniaeth tâl yw £153,111, hynny yw, cyflog y Prif Weithredwr.

Data gwahaniaeth tâl

Mae’r data ar gyfer yr Awdurdod wedi’i gynnwys yn y tabl isod:

Gwahaniaeth cyflog Cymhareb
y gwahaniaeth rhwng cyflog blynyddol y gweithiwr isaf ei dâl yn y Cyngor a’r Prif Weithredwr (ar sail gyfwerth ag amser llawn) fel cymhareb 1:6.61
y gwahaniaeth rhwng cyflog blynyddol y gweithiwr isaf ei dâl yn y Cyngor a’r Prif Swyddog cyfartalog (ar sail gyfwerth ag amser llawn) fel cymhareb 1:4.59
y gwahaniaeth rhwng enillion canolrifol cyflogeion y Cyngor a’r Prif Weithredwr (ar sail gyfwerth ag amser llawn) fel cymhareb. 1:5.89
y gwahaniaeth rhwng enillion canolrifol cyflogeion y Cyngor a’r Prif Swyddogion cyfartalog (ar sail gyfwerth ag amser llawn) fel cymhareb 1:4.09

7.6

Fel rhan o’i waith monitro cyffredinol o gysoni â marchnadoedd tâl allanol, y tu mewn a’r tu allan i’r sector, bydd y Cyngor yn defnyddio’r wybodaeth feincnodi cyflog sydd ar gael fel y bo’n briodol.

Atebolrwydd a gwneud penderfyniadau

8.1

Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, mae’r Prif Weithredwr yn gyfrifol am benderfyniadau mewn perthynas â recriwtio, tâl (heblaw am y rhai a nodwyd yn 8.2), amodau gwasanaeth, a threfniadau dileu swyddi ar gyfer holl gyflogeion y Cyngor, ac eithrio Athrawon gan fod eu prif dâl ac amodau gwasanaeth yn cael eu pennu ar sail ddeddfwriaethol gan Lywodraeth Cymru.

8.2

Y Cyngor fydd yn pennu tâl y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddogion (fel y’u diffinnir ym mharagraffau 5.1.3, 5.1.4 a 5.1.5).

8.3

Mae’r Cyngor wedi sefydlu Is-bwyllgor dirprwyedig, hynny yw'r Pwyllgor Iawndal Pensiynau, i ystyried unrhyw geisiadau gan gyflogeion i adael cyflogaeth y Cyngor gyda mynediad heb ei gyfyngu at eu pensiwn, gyda chost i’r Cyngor (ac eithrio dileu swydd yn orfodol), y mae proses achos busnes cytunedig yn eu cefnogi.

Ailgyflogi

9.1

Ni fydd yr un Prif Swyddog, nac unrhyw gyflogai arall, sy’n gadael cyflogaeth y Cyngor ar sail ymddeol yn gynnar, diswyddo gwirfoddol neu ddileu swydd yn wirfoddol yn cael eu hail-gyflogi’n ddiweddarach yn gyflogai i’r Cyngor neu o dan “gontract gwasanaeth” (yn unol â 5.2.3) heb ganiatâd penodol y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol. Os yw’r ailgyfloget yn ymwneud â swydd y Prif Weithredwr neu Brif Swyddog (fel y’u diffinnir ym mharagraff 5.1.1), bydd angen cymeradwyaeth lawn y Cyngor.

9.2

Ceir eithriad i hyn pan fydd cyflogai’n gadael o dan drefniant Ymddeoliad Hyblyg cytunedig, lle mae eu cyflogaeth barhaus yn cael ei gymeradwyo fel rhan o’r achos busnes ar gyfer rhyddhau buddion pensiwn cronedig.

Adolygu'r polisi

10.1

Mae’r Polisi Tâl hwn yn amlinellu’r sefyllfa bresennol o ran tâl yn y Cyngor, a bydd yn cael ei adolygu’n flynyddol o leiaf a’i adrodd yn llawn i’r Cyngor, er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu egwyddorion tegwch, cydraddoldeb, atebolrwydd, a gwerth am arian ar gyfer yr awdurdod a’i breswylwyr.

Mae'r cyhoeddiad hwn ar gael yn Saesneg. Mae ar gael mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.

Atodiad A: strwythur tâl y cydbwyllgor cenedlaethol 2023/24

Gradd Pwynt Colofn Gyflog 1 Ebrill 2023 Cyflog BywSylfaenol 1 Tachwedd 2023
Gradd 1 2 £22,366 £23,152
Gradd 2 3 £22,737 £23,152
Gradd 3 4 £23,114 £23,152
Gradd 4 5 £23,500
6 £23,893
Gradd 5 7 £24,294
8 £24,702
9 £25,119
10 £25,545
11 £25,979
Gradd 6 12 £26,421
13 £26,873
14 £27,334
15 £27,803
16 £28,282
17 £28,770
Gradd 7 18 £29,269
19 £29,777
20 £30,296
21 £30,825
22 £31,364
23 £32,076
Gradd 8 24 £33,024
25 £33,945
26 £34,834
27 £35,745
Gradd 9 28 £36,648
29 £37,336
30 £38,223
31 £39,186
Gradd 10 32 £40,221
33 £41,418
34 £42,403
35 £43,421
Gradd 11 36 £44,428
37 £45,441
38 £46,464
39 £47,420
Gradd 12 40 £48,474
41 £49,498
42 £50,512
43 £51,515
Nodiadau
Mae’r gyfradd Gyflog Byw Sylfaenol yn berthnasol o 1 Tachwedd 2023 ymlaen.
Tynnwyd Pwynt Cyflog 1 o Golofn Gyflog y Cydbwyllgor Cenedlaethol, yn weithredol o 1 Ebrill 2023 yn unol â dyfarniad cyflog y Cydbwyllgor Cenedlaethol ar gyfer 2022.

Atodiad B: strwythur tâl soulbury 2023 / 24

Seicolegwyr addysg – (graddfa a)

Pwynt Colofn Gyflog Cyflog (o 1 Medi 2021 ymlaen)
1 £42,442
2 £44,474
3 £46,525
4 £48,575
5 £50,627
6 £52,678
7 £54,609
8 £56,540
9 £58,348
10 £60,160
11 £61,848
Nodiadau
Bydd graddfeydd cyflog yn cynnwys 6 phwynt olynol, yn seiliedig ar ddyletswyddau a chyfrifoldebau’n ymwneud â’r swydd a’r angen i recriwtio, cadw a chymell staff.
* Estyniad i’r raddfa i ddarparu ar gyfer pwyntiau asesu proffesiynol strwythuredig.
Tri pwynt cyflog ychwanegol ar ôl pwynt 11 yn dod i rym o 1 Medi 2023.
Mae’r pwyntiau cyflog a ychwanegwyd yn nodi ychwanegu tair ystod cyflog at yr ystodau presennol, sef: A1 – 6, A2 – 7, A3 – 8, A4 – 9, A5 – 10 ac A6 – 11.
Ni fydd pwyntiau cyflog yn cael eu cyfuno â phwyntiau amrediad. Mae hyn yn galluogi'r awdurdodau lleol hynny sydd â heriau recriwtio a chadw ac sydd â'r hyblygrwydd cyllidebol i ddefnyddio'r gofod ychwanegol hwnnw.

Uwch seicolegwyr addysg / prif seicolegwyr addysg (graddfa b)

Pwynt Colofn Gyflog Cyflog (o 1 Medi 2023 ymlaen)
1 £52,678
2 £54,609
3 £56,540
4 £58,348
5 £60,160
6 £61,8948*
7 £62,540
8 £63,836
9 £65,120
10 £66,425
11 £67,706
12 £69,010
13 £70,337
14 £71,621
15 £72,966
16 £74,297
17 £75,637**
18 £76,976**
19 £80,055**
20 £83,257**
21 £86,587**
Nodiadau
Bydd graddfeydd cyflog yn cynnwys dim mwy na phedwar pwynt olynol, yn seiliedig ar ddyletswyddau a chyfrifoldebau’n ymwneud â’r swydd a’r angen i recriwtio, cadw a chymell staff.
* Pwynt isafswm arferol ar gyfer y Prif Seicolegydd Addysgol sy’n cyflawni’r ystod lawn o ddyletswyddau ar y lefel hon.
** Estyniad i’r raddfa i ddarparu ar gyfer pwyntiau graddfa dewisol ac asesiadau proffesiynol strwythuredig.
Tri phwynt ctflog ychwanegol ar ôl pwynt 18 yn dod i rym o 1 Medi 2023.

Seicolegwyr addysg dan hyfforddiant

Pwynt Colofn Gyflog Cyflog (o 1 Medi 2023 ymlaen)
2 £29,872
3 £31,770
4 £33,673
5 £35,572
6 £37,473
Nodiadau
Mae pwynt cyflog 1 yn cael ei ddileu gyda phwynt cyflog 2 yn bwynt cyntaf y raddfa o 1 Medi 2023.

Seicolegwyr addysg cynorthwyol

Pwynt Colofn Gyflog Cyflog (o 1 Medi 2023 ymlaen)
2 £35,228
3 £36,531
4 £37,828
5 £39,341
Nodiadau
Mae pwynt cyflog 1 yn cael ei ddileu gyda phwynt cyflog 2 yn bwynt cyntaf y raddfa o 1 Medi 2023.
Mae pwynt ychwanegol ar ôl pwynt cyflog 4 yn dod i rym o 1 Medi 2023.

Gweithwyr proffesiynol gwella addysg

Pwynt Colofn Gyflog Cyflog (o 1 Medi 2023 ymlaen)
1 £40,540
2 £41,920
3 £43,224
4 £44,545
5 £45,857
6 £47,170
7 £48,550
8 £49,878*
9 £51,425
10 £52,805
11 £54,166
12 £55,484
13 £56,976**
14 £58,308
15 £59,777
16 £61,106
17 £62,440
18 £63,748
19 £65,097
20 £65,794***
21 £67,133
22 £68,301
23 £69,586
24 £70,739
25 £71,971
26 £73,173
27 £74,403
28 £75,650
29 £76,899
30 £78,146
31 £79,382
32 £80,637
33 £81,894
34 £83,180
35 £84,465
36 £85,784
37 £87,083
38 £88,396
39 £89,691
40 £90,985
41 £92,285
42 £93,585
43 £94,883
44 £96,189
45 £97,490
46 £98,794
47 £100,102
48 £101,399
49 £102,700
50 £104,004
51 £108,164****
52 £112,491****
Nodiadau
Graddfeydd cyflog i gynnwys dim mwy na phedwar pwynt yn olynol yn seiliedig ar y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â swyddi a'r angen i recriwtio a chymell staff.
*pwynt isafswm arferol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gwella Addysg sy’n cyflawni’r ystod lawn o ddyletswyddau ar y lefel hon.
** pwynt isafswm arferol ar gyfer Uwch Weithwyr Proffesiynol Gwella Addysg sy’n cyflawni’r ystod lawn o ddyletswyddau ar y lefel hon.
*** pwynt isafswm arferol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gwella Addysg Arweiniol sy’n cyflawni’r ystod lawn o ddyletswyddau ar y lefel hon.
**** estyniad i’r ystod i ddarparu ar gyfer asesiadau proffesiynol strwythuredig.Dau bwynt ychwanegol ar ôl pwynt cyflog 50 yn dod i rym o 1 Medi 2023.

Atodiad C: strwythur tâl gweithwyr ieuenctid a chymunedol y cyd-bwyllgor negodi 2023/24

Gweithiwr cymorth ieuenctid a chymunedol

Pwynt Colofn Gyflog Cyflog (o 1 Medi 2023 ymlaen)
5 £23,496
6 £23,825
7 £24,121
8 £24,799
9 £25,664
10 £26,341
11 £27,434
12 £28,501
13 £29,606
14 £30,750
15 £31,528
16 £32,341
17 £33,141

Gweithiwr cymorth ieuenctid a chymunedol

Pwynt Colofn Gyflog Cyflog (o 1 Medi 2023 ymlaen)
13 £29,606
14 £30,750
15 £31,528
16 £32,341
17 £33,141
18 £33,946
19 £34,745
20 £35,547
21 £36,447
22 £37,467
23 £38,461
24 £39,459
25 £40,465
26 £41,470
27 £42,475
28 £43,493
29 £44,502
30 £45,513
31 £46,195*
32 £47,316*
Nodiadau
*Pwyntiau yn ôl disgresiwn

Atodiad D: strwythur tâl uwch reolwyr y cydbwyllgor cenedlaethol o 1 ebrill 2023 ymlaen

  Cynyddran 1 Cynyddran 2 Cynyddran 3 Cynyddran 4
Prif Weithredwr £153,111 Ddim yn berthnasol Ddim yn berthnasol Ddim yn berthnasol
Dirprwy Brif Weithredwr £145,903 Ddim yn berthnasol Ddim yn berthnasol Ddim yn berthnasol
Cyfarwyddwr £125,025 £129,578 £134,128 £138,695
Band A+ Penaethiaid Gwasanaeth £106,798 £110, 674 £114,554 £118,43
Band A - Penaethiaid Gwasanaeth £95,900 £99,375 £102,849 £106,334
Band B £74,553 £77,238 £79,924 £82,617
Band C £58,858 £60,754 £62,648 £64,547
Band D £52,429 £54,112 £55,795 £57,474
Band E £46,935 £47,966 £48,989 £49,997
Yn unol â phenderfyniad y Cyngor ar 19 Tachwedd 2019: Mae gan swydd y Prif Weithredwr gyflog sy’n aros yn ei unfan.
Yn unol â phenderfyniad y Cyngor ar 22 Tachwedd 2022: Mae gan swydd y Dirprwy Prif Weithredwr gyflog sy’n aros yn ei unfan.
Yn nol â phenderfyniad y Cyngor ar 17 Ionawr 2013: Nid oes Swyddogion wedi'u cyflogi ym Mand A+ ar hyn o bryd.

Atodiad E: pob grŵp cyflogai - prif amodau gwasanaeth

GWYLIAU BLYNYDDOL
Prif Weithredwr a Chyfarwyddwyr (y Cyd-bwyllgor Negodi) 39 diwrnod y flwyddyn (Dim absenoldeb hyblyg)
Prif Swyddogion (y Cyd-bwyllgor Negodi); Y Cyd-gyngor Cenedlaethol; Soulbury; Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol. 30 diwrnod y flwyddyn am hyd at 5 mlynedd o wasanaeth llywodraeth leol barhaus. 34 diwrnod y flwyddyn am 5 mlynedd neu fwy o wasanaeth llywodraeth leol barhaus.
Pan fydd cyflogeion unigol perthnasol yn aelodau o’r cynllun oriau gweithio hyblyg, gallant fanteisio ar 12 diwrnod o absenoldeb hyblyg bob blwyddyn.
ORIAU GWAITH
Prif Weithredwr a Chyfarwyddwyr (y Cyd-bwyllgor Negodi); Prif Swyddogion (y Cyd-bwyllgor Negodi); Y Cyd-gyngor Cenedlaethol; Soulbury; Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol. Mae’r wythnos weithio safonol yn 37 awr, oni bai y’u cyflogir ar gontract ag oriau penodol.
TALIADAU GORAMSER
Prif Weithredwr a Chyfarwyddwyr (y Cyd-bwyllgor Negodi); Prif Swyddogion (y Cyd-bwyllgor Negodi); Dim
Y Cyd-gyngor Cenedlaethol; Soulbury; Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol. Os oes angen i gyflogeion weithio oriau ychwanegol y tu hwnt i’r wythnos waith 37 awr (neu y tu hwnt i’r patrwm gweithio yn eu contract sy’n wythnos waith 37 awr ar gyfartaledd (e.e. oriau rota/blynyddol)), mae ganddynt hawl i dderbyn taliadau chwyddo sy’n cyfateb i amser a hanner eu tâl sylfaenol heblaw pan fyddant yn gweithio ar Wyliau Cyhoeddus a Statudol Ychwanegol, pan delir dwbl y tâl sylfaenol..
Dim ond ar yr adegau ac o dan yr amgylchiadau hynny pan fyddai cyflogeion llawn amser yn gymwys y mae gan gyflogeion rhan-amser hawl i’r taliadau chwyddo hyn. Fel arall, bydd cyflogai rhan-amser yn gweithio wythnos weithio lawn (hynny yw 37 awr) cyn bod y taliadau chwyddo hyn yn berthnasol.
Os bydd gofyn i gyflogeion weithio ar ddiwrnodau gwyliau cyhoeddus a/neu ŵyl y banc fel rhan o’u hwythnos weithio arferol, yn ogystal â’u tâl arferol y diwrnod hwnnw, byddant yn cael y gyfradd arferol am bob awr a weithir ac, yn ogystal, yn cael diwrnod o wyliau yn gyfnewid am bob diwrnod.
Os bydd gofyn i gyflogeion weithio ar ddiwrnod gwyliau cyhoeddus neu ŵyl y banc ar eu diwrnod gorffwys, byddant yn cael tâl dwbl am bob awr a weithir ac, yn ogystal, byddant yn cael diwrnod o wyliau yn gyfnewid am bob diwrnod.
CYNLLUN TÂL SALWCH
Prif Weithredwr a Chyfarwyddwyr (y Cyd-bwyllgor Negodi); Prif Swyddogion (y Cyd-bwyllgor Negodi); Y Cyd-gyngor Cenedlaethol; Soulbury; Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol. Yn ystod y flwyddyn 1af o wasanaeth – tâl llawn am un mis ac (ar ôl cwblhau 4 mis o wasanaeth) 2 fis o hanner tâl.
Yn ystod yr 2il flwyddyn o wasanaeth – 2 fis o dâl llawn a 2 fis o hanner tâl..
Yn ystod y 3edd flwyddyn o wasanaeth – 4 mis o dâl llawn a 4 mis o hanner tâl.
Yn ystod y 4edd a’r 5ed flwyddyn o wasanaeth – 5 mis o dâl llawn a 5 mis o hanner tâl.
Ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth – 6 mis o dâl llawn a 6 mis o hanner tâl.
TALIADAU PENSIWN
Prif Weithredwr a Chyfarwyddwyr (y Cyd-bwyllgor Negodi); Prif Swyddogion (y Cyd-bwyllgor Negodi); Y Cyd-gyngor Cenedlaethol; Soulbury; Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol. Mae’r holl gyflogeion yn gymwys i dalu i mewn i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Mae cyfradd y cyfraniadau y mae cyflogeion a chyflogwyr yn eu cyfrannu yn seiliedig ar enillion pensiynadwy. Gweinyddwr y cynllun sy’n cadarnhau’r bandiau tâl a chyfraddau’r cyfraniadau ar sail flynyddol.

Atodiad F: cyngor bwrdeistref sirol caerffili – ffioedd etholiadau lleol

Ffi swyddog canlyniadau

Ar gyfer cynnal yr Etholiad/Etholiadau gan roi’r Hysbysiadau rhagnodedig, paratoi a chyflenwi papurau Enwebu, penderfynu ar ddilysrwydd, penodi a thalu staff, trefnu a/neu gynnal y Bleidlais, cynnal y Cyfrif, datgan y canlyniad/canlyniadau, gwneud yr holl ddatganiadau niferoedd gofynnol ac, yn gyffredinol, cyflawni’r holl ddyletswyddau y mae gofyn i Swyddog Canlyniadau eu cyflawni o dan Ddeddfau a Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl – gan gynnwys yr holl daliadau, alldaliadau a threuliau yn ôl yr angen.

ETHOLIADAU A YMLEDDIR
Ar gyfer pob Adran Etholiadol / Ward Gymunedol
Am bob 1000 o Etholwyr (neu ran o hynny) £99.32
Ar gyfer y 1000 nesaf o Etholwyr (neu ran o hynny) £56.49
Am bob 250 arall o Etholwyr (neu ran o hynny) £19.09
ETHOLIADAU UN YMGEISYDD
Am bob Adran/Ward un ymgeisydd £89.57
PLEIDLEISIAU POST – (Goruchwyliaeth)* I’w dalu i’r Dirprwy Swyddog Canlyniadau a/neu’r Dirprwy Swyddogion Canlyniadau Cynorthwyol
*Noder –yn hyn o beth, ni ddylai’r Dirprwy Swyddog Canlyniadau na’r Dirprwy Swyddogion Canlyniadau Cynorthwyol hawlio ffi o’r gronfa glercyddol ar gyfer y dyletswyddau hyn.
Anfon (ar gyfer pob papur) 0.40p
(isafswm fesul sedd wag) (30.02)
(isafswm fesul sedd wag) (86.95)
Derbyn (ar gyfer pob papur) 0.40p
(isafswm fesul Adran / Ward) (30.02)
(isafswm fesul sedd wag) (86.95)
CARDIAU PLEIDLEISIO – (Goruchwyliaeth)* i’w talu i’r Dirprwy Swyddog Canlyniadau a/neu’r Dirprwy Swyddog Canlyniadau Cynorthwyol fel uchod
Fesul 1000 neu ran a gyhoeddwyd 36.39
(isafswm fesul sedd wag) 51.94