Atodiad 1 – meini prawf ar gyfer ceisiadau am adroddiadau

Meini prawf – materion sydd eisoes ar y flaenraglen waith

Bydd y meini prawf canlynol o gymorth i’r Pwyllgor benderfynu a ydyn nhw'n gallu derbyn cais gan aelod o’r cyhoedd neu randdeiliad i roi tystiolaeth mewn cyfarfod Pwyllgor Craffu:

  • Mae'r cais yn cyfeirio at fater sydd eisoes ar flaenraglen waith Pwyllgor Craffu.
  • Nid yw'r cais yn cael ei ystyried yn flinderus nac yn wahaniaethol neu roedd ceisiadau tebyg dro ar ôl tro.
  • Nid yw’r cais yn cael ei wneud i amlygu cwyn benodol (dylai ymdrin â chwynion yn unol â threfn gwyno’r Cyngor).
  • Mae'r aelod o'r cyhoedd neu'r rhanddeiliad wedi rhoi tystiolaeth ar yr un mater o fewn y 12 mis diwethaf.

Meini prawf – materion nad ydyn nhw ar y flaenraglen waith

Bydd y Pwyllgor Craffu yn ystyried y cais ar sail y meini prawf canlynol:

  • Mae'r mater o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu.
  • Mae gan y Pwyllgor Craffu gyfrifoldeb i flaenoriaethu materion yn unol â'r amser sydd ar gael iddo a bydd yn defnyddio'r matrics blaenoriaethu sydd ynghlwm i'w helpu nhw i bennu ei flaenoriaethau.
  • Nid yw'r cais yn cael ei ystyried yn flinderus nac yn wahaniaethol, neu roedd ceisiadau tebyg dro ar ôl tro.
  • Nid yw’r cais yn cael ei wneud i amlygu cwyn benodol (dylai ymdrin â chwynion yn unol â threfn gwyno’r Cyngor).
  • Nid yw'r Pwyllgor Craffu eisoes wedi ystyried y mater o fewn y 12 mis diwethaf.

Sefydliadau trydydd parti

Os yw’r cais yn ymwneud â gofyn i sefydliad trydydd parti fynychu, dylai gael ei nodi y gallai’r Cyngor wneud cais ond nid gorfodi’r sefydliad hwnnw i fynychu.

Canlyniad

Yn dilyn sylwadau a thrafodaethau ag aelodau o’r cyhoedd neu randdeiliaid, mae'r Pwyllgor Craffu yn gallu penderfynu ar y canlynol:

  • Newid, diwygio neu wneud argymhellion i adroddiad.
  • Cynnal gwaith craffu pellach ar y mater a chomisiynu adroddiad pellach neu ymgymryd â gweithgareddau eraill.
  • Galw ar ‘Berson Dynodedig’ i fynychu Pwyllgor Craffu yn y dyfodol.
  • Sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i gynnal adolygiad manwl o fater.

Nodiadau esboniadol

Person dynodedig

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar bwyllgorau craffu awdurdodau lleol i graffu ar ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill yn eu hardal. Rhoddodd Adran 61 o’r Mesur bwerau i Weinidogion Cymru “ddynodi” unigolion a sefydliadau i fod yn destun craffu gan bwyllgorau craffu awdurdodau lleol. Ni fydd hyn yn dod i rym nes i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Gorchymyn y Gweinidog.

Blinderus/parhaus

Mae penderfynu a yw cais yn flinderus yn ymarfer cydbwyso hyblyg, gan ystyried holl amgylchiadau'r achos. Nid oes prawf na diffiniad anhyblyg a bydd, yn aml, yn hawdd ei adnabod. Y cwestiwn allweddol yw a yw’r cais yn debygol o achosi trallod, aflonyddwch neu lid heb unrhyw achos priodol neu gyfiawn.

Cydraddoldeb a'r gymraeg

Mae gwahaniaethu’n digwydd pan fydd person A yn trin person B yn llai ffafriol ar sail gwahaniaethau gwirioneddol neu ganfyddedig, cefndiroedd neu amgylchiadau unigol, o gymharu â’r ffordd y mae’n trin pobl eraill. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhestru’r grwpiau o bobl sydd â’r hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu. Mae gan bobl sy'n perthyn i'r grwpiau hyn yr hyn sy'n cael eu galw yn nodweddion gwarchodedig. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • oedran
  • anabledd
  • hunaniaeth rhywedd ac ailbennu rhywedd
  • priodas neu bartneriaeth sifil (mewn cyflogaeth yn unig)
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn rhoi statws cyfreithiol cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru ac yn rhoi hawliau cyfreithiol i unigolion allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Rhaid peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth gynnal busnes y Cyngor.

Mae grwpiau eraill yn dod o dan amrywiol Gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig, deddfwriaeth a rheoliadau’r Undeb Europeiadd, y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, e.e. Hawliau Dynol.

Rhaid asesu effaith holl bolisïau, gweithdrefnau a phenderfyniadau'r Cyngor er mwyn sicrhau bod y materion uchod wedi'u datblygu'n briodol, eu bod nhw'n destun ymgynghoriad a'u cymeradwyo. Dylai'r adran Asesiad Effaith Integredig mewn adroddiadau gyfeirio at y broses hon.

Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor yn cynnwys rhagor o fanylion am y materion hyn ac mae ar gael, ynghyd ag amrywiaeth eang o ganllawiau penodol (fel asesiadau effaith, cwynion, caffael ac ati), ar wefan y Cyngor.