Islawr Coed Duon
Canolfan wybodaeth galw heibio yw Islawr Coed Duon (wedi'i lleoli o dan Lyfrgell Coed Duon).
Mae Islawr Coed Duon yn ganolfan wybodaeth sy'n darparu mynediad at wybodaeth, cymorth ac eiriolaeth i bob person ifanc rhwng 11 a 25 oed, Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili ac asiantaethau partner.
Mae modd defnyddio Islawr Coed Duon trwy alw heibio, trwy hunan-atgyfeirio a thrwy atgyfeiriad gan asiantaeth.
Rydyn ni ar agor:
- Dydd Mawrth a dydd Iau 12pm–8pm
- Dydd Gwener 10am–5pm
(Sylwch, gan ein bod ni'n gweithio ledled y Fwrdeistref Sirol, gall yr oriau agor gael eu heffeithio weithiau, cysylltwch â 07876 358034)
Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth grŵp LHDTC+ penodol
- Dydd Llun 5.30pm–8.00pm – Yr Islawr
- Bob yn ail ddydd Mawrth yn Llyfrgell Bargod 3.30pm–6.00pm a bob yn ail ddydd Mercher yn Llyfrgell Caerffili 3.30pm–6.00pm
- Dydd Sadwrn olaf y mis 12.00pm–3.00pm – Yr Islawr
Manylion cyswllt
Ffôn: 01495 235511 / 07876 358034
E-bost: yrislawr@caerffili.gov.uk
Dilynwch ni ar Facebook neu Twitter @youth4u1