Siopa yng Nghoed Duon
Mae Coed Duon yn cynnig dewis eang o siopau annibynnol ac ambell frand mawr gan gynnwys Peacocks, Boots, Poundland, Iceland a Superdrug.
Mae pobl yn cael eu denu yma gan yr amrywiaeth o fanwerthwyr ar un o strydoedd mawr lletaf Cymoedd De Cymru. Mae canol y dref hefyd yn gartref i Sefydliad y Glowyr Coed Duon.
Sut i gyrraedd yno
Mae’n hawdd cyrraedd canol tref Coed Duon ar fws, trên neu mewn car. Cymerwch gip ar yr adran cludiant teithwyr lle mae gwybodaeth am weithredwyr bws, trên a thacsi, ynghyd â chostau ac amserlenni.
Os ydych chi’n teithio mewn car, mae digon o lefydd parcio ar gael. Darllenwch yr adran parcio ceir am wybodaeth am le i barcio yng Nghoed Duon.
