E-lyfrau ac adnoddau llyfrgell ar-lein

Gallwch lawrlwytho e-Lyfrau, e-Lyfrau Sain ac e-Gylchgronnau AM DDIM os ydych chi'n aelod o'r llyfrgell. Os nad ydych chi'n aelod, ymunwch heddiw.

E-lyfrau, e-lyfrau llafar ac e-bapurau newydd (BorrowBox)

Rydyn ni bellach yn cynnig Borrowbox, lle gallwch chi lawrlwytho 10 e-lyfr a 10 e-lyfr llafar am 14 diwrnod. Mae BorrowBox hefyd yn caniatáu i chi lawrlwytho papurau newydd cenedlaethol a lleol yn rhad ac am ddim i'ch dyfeisiau personol.

Gwrandewch ar e-Lyfrau Sain a darllenwch e-Lyfrau ar eich dyfais, eich tabledi neu'ch ffôn symudol gan ddefnyddio'r App 'BorrowBox'. Mae yna App ar gyfer dyfeisiau Apple ac un ar gyfer dyfeisiau Android e.e. Samsung, Huddle.

Mae e-bapurau newydd yn eich galluogi chi i lawrlwytho papurau newydd yn uniongyrchol i'ch dyfais symudol trwy’r ap BorrowBox. Maen nhw'n cynnwys papurau newydd cenedlaethol fel The Guardian a Daily Mail, a phapurau lleol fel The Western Mail a Rhymney Valley Express.

Chwiliwch am 'BorrowBox'.

Fel arall, lawrlwythwch yn uniongyrchol i'ch cyfrifiadur / gliniadur a throsglwyddwch i e-Ddarllennydd neu chwaraewr MP3.

Ar gyfer e-Lyfrau, bydd angen meddalwedd Adobe Digital Editions arnoch.

I weld pa e-Lyfrau Sain sydd ar gael, gallwch bori llyfrgell 'BorrowBox' heb lawrlwytho unrhyw beth neu fewngofnodi.  Os nad ydych chi'n gwybod eich rhif PIN 4 digid, anfonwch neges e-bost atom ni yn llyfrgelloedd@caerffili.gov.uk gan ddarparu eich enw, eich dyddiad geni a rhif eich cerdyn Smart.

E-gylchgronau

Gallwch chi nawr ddarllen miloedd o gylchgronau am ddim gan ddefnyddio Libby.

Creu cyfrif Libby

I gychwyn, cwblhewch y camau canlynol:

Cam 1: Lawrlwythwch ap Libby

  • Ewch i libbyapp.com yn eich porwr Chrome, Firefox neu Edge (Chromium)

Cam 2: Yn Libby, dilynwch y negeseuon i ddod o hyd i'ch llyfrgell a mewngofnodi gyda'ch Cerdyn Smart Llyfrgell Caerffili. 

Cam 3: Porwch y casgliad o gylchgronau a benthyca un.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi gyda Libby, ewch i Libby Help. Joiwch ddarllen!

Gwefannau Argymelledig a Thanysgrifiad RHAD AC AM DDIM

Mae'r gwefannau canlynol yn gronfeydd data tanysgrifiad sydd ar gael i'n holl aelodau llyfrgell naill ai o'ch dyfais eich hun gan ddefnyddio'ch cerdyn llyfrgell neu drwy ddefnyddio'r cyfrifiaduron yn  Eich Llyfrgell Leol.

Mynediad o lyfrgell yn unig

  • Mae Achau yn darparu cyfrifiad, genedigaeth, priodas, cofnodion marwolaeth a mwy.
  • Mae Find My Past yn darparu mynediad i dros 650 miliwn o gofnodion hanes y teulu gan gynnwys Cyfrifiad 1911.

Mynediad o lyfrgell neu o’ch cartref 

  • Hyd at 31 Rhagfyr 2021, gall cwsmeriaid llyfrgell gael mynediad at "Ancestry" o'u cartref.  Yn gyntaf, bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cyfrif llyfrgell o hafan catalog y llyfrgell ac yna cliciwch ar y ddolen "Ancestry".
  • Mae "Theory Test Pro" yn efelychiad ar-lein realistig iawn o brofion theori gyrru'r DU ar gyfer pob categori cerbyd.  Mae’n cynnwys yr holl gwestiynau prawf swyddogol trwyddedig o’r DSA, y bobl sy’n gosod y profion. 
  • Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig ystod eang o adnoddau wedi eu tanysgrifio i gwsmeriaid Gwasanaeth Llyfrgelloedd Caerffili 
  • Mae Llyfrgelloedd Cymru yn borthol ar gyfer Llyfrgelloedd Cymru– gallwch ddod o hyd i beth sy’n digwydd a llawer mwy. 
Cysylltwch â ni