Ynglŷn â hawliau tramwy

Mae tua 800 cilometr (500 milltir) o hawliau tramwy cyhoeddus ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, sy’n cynnig amwynder a hamdden i bawb eu mwynhau.

Beth yw Hawl Dramwy Gyhoeddus? 

Mae hawl dramwy gyhoeddus yn llwybr a gofnodir ar y Map a'r Datganiad Diffiniol o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Gall y llwybrau hyn amrywio o ran eu natur o lwybrau gwledig i lwybrau trefol, ond ni ddylid eu drysu â 'throedffyrdd' sy'n ffyrdd a neilltuwyd ar gyfer cerddwyr wrth ymyl ffordd gerbydau (a elwir fel arfer yn balmant).

Llwybrau troed – sef hawl dramwy ar droed yn unig: 

  • Llwybrau ceffylau – lle mae'r hawl dramwy i bobl ar droed, ar gefn ceffyl neu’n arwain ceffyl ac ar feiciau pedal.
  • Cilffordd Gyfyngedig – (Ffordd a Ddefnyddir yn ffurfiol fel Llwybr Cyhoeddus – neu ‘RUPP’) – lle mae'r hawl dramwy ar droed, ar gefn ceffyl neu’n arwain ceffyl, a hefyd mewn cerbydau heblaw cerbydau a yrrir yn fecanyddol - sy'n rhoi hawl dramwy ar gyfer beiciau pedal a gyrwyr cerbydau a dynnir gan geffylau.
  • Cilffordd Agored i bob Traffig – lle mae'r hawl dramwy ar gyfer traffig cerbydau, ond fe'i defnyddir yn bennaf at y dibenion y defnyddir llwybrau troed a llwybrau ceffylau ar eu cyfer.
  • Lôn Werdd – term nad oes ganddo unrhyw ystyr gyfreithiol.  Yn hytrach, mae'n fwy o ddisgrifiad o natur y llwybr, a all fod ag iddo hawliau tramwy cyhoeddus, neu beidio.  Felly, nid yw'r llwybrau hyn yn cael eu cofnodi ar y map diffiniol.
  • Llwybrau caniataol - lle mae'r tirfeddiannwr (a all fod y Cyngor) wedi rhoi caniatâd i'r cyhoedd gerdded ar draws ei dir. Nid yw'r llwybrau hyn wedi'u cofnodi ar y map diffiniol chwaith. 
Cysylltwch â ni

Elsewhere on the web

Mannau Gwyrdd Caerffili