Next

Caiff datblygiad plentyn ei gysylltu â chwarae dychmygus a iach, sy'n datblygu sgiliau modur, ffitrwydd ac ymddygiad cymdeithasol a fydd o fudd i blentyn yn nes ymlaen yn ei fywyd. Mae'r Gwasanaethau Parc yn cynnig 173 o feysydd chwarae ar draws y fwrdeistref sirol. Mae'r rhain yn amrywio o siglenni a llithrennau mewn meysydd chwarae traddodiadol, i ardaloedd gemau aml-ddefnydd, parciau sglefrio, waliau cicio a mannau cyfarfod ieuenctid. Mae llawer o'r meysydd chwarae, fel Parc Morgan Jones (5 seren), Parc Waunfawr (5 seren), Parc Rhymni (3 seren), Parc Porset (3 seren) a Pharc Senghennydd (3 seren) wedi ennill cydnabyddiaeth gyda Gwobrau Ansawdd y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau.

I sicrhau bod mynediad a chwarae yn ddi-rwystr ar gyfer pob gallu, rydym yn cynnwys mynediad cynhwysol wrth ddylunio offer pob un o'n cyfleusterau newydd. Mae rhestrau o'n meysydd chwarae ar draws y fwrdeistref sirol ar gael i'w llwytho i lawr yma.

Mwy o ddŵr mwy o firi

Mae'r pad sblasio dŵr 'Mwy o ddŵr mwy o firi' yn cynnig profiad chwarae haf gwirioneddol unigryw. Os ydych chi'n chwilio am hwyl yn y dŵr i'ch plant, a bod yr arfordir yn rhy bell, yna dewch i Barc Morgan Jones yng Nghaerffili. Mae'n addas ar gyfer pob plentyn, ac mae pedwar jet dŵr gan y pad sblasio.

Gemau Olympaidd Ogilvie

Os ydych chi'n chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol, rhowch gynnig ar ein cwrs rhwystrau, "Gemau Olympaidd Ogilvie", ym Mharc Cwm Darran. Mae'r cwrs yn cynnwys 11 gorsaf o drawstiau cydbwyso, ysgolion rhaff a wal ddringo i chi eu taclo a helpu i wella eich ffitrwydd, hyder a chydbwysedd. Casglwch gerdyn sgorio "Gemau Olympaidd Ogilvie" o'r ganolfan ymwelwyr neu llwythwch gopi i lawr yma i weld a enilloch chi fedal Aur, Arian neu Efydd!

Darpariaeth Ieuenctid

Rydym wedi cymryd camau mawr ymlaen er mwyn darparu cyfleusterau gwell i bobl ifanc, fel Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd, parciau sglefrio, mannau cyfarfod ieuenctid a waliau cicio. Rydym wedi gosod amrywiaeth o'r cyfleusterau yma ar draws y sir, ac maent yn darparu cyfleoedd gemau ffurfiol ac anffurfiol i blant hŷn. Cafwyd cymorth i'r fenter hon gan lawer o asiantaethau, grwpiau defnyddwyr a'r heddlu, sy'n cydnabod bod y cyfleusterau hyn yn helpu i oresgyn ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd

Mae Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd yn ffordd wych o annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon anffurfiol mewn amgylchedd diogel. Mae marciau ar bob ardal sy'n addas i chwarae sawl math o chwaraeon megis pêl-droed, pêl-fasged, pêl-rwyd, tennis a hoci. Llwythwch restr o'r Ardaloedd Gemau Aml-ddefnydd i lawr, gyda dolen Google Map, yma.

Parciau Sglefrio

Mae 18 parc sglefrio neu rampiau ar gyfer sglefrwyr a sglefrolwyr ym mwrdeistref sirol Caerffili. Llwythwch restr o'r parciau sglefrio, gyda dolen Google Map, yma.

Mannau Cyfarfod Ieuenctid

Mae 21 o fannau cyfarfod ieuenctid wedi'u sefydlu ar draws y fwrdeistref sirol i roi lleoedd diogel i bobl ifanc gwrdd yn ddiogel. Llwythwch restr o'r mannau cyfarfod ieuenctid i lawr, gyda dolen Google Map, yma.

Waliau cicio

Rydym wedi gosod deg wal gicio pêl-droed, sydd wedi'u dylunio'n arbennig, fel rhan o'n gwelliannau parhaus i ardaloedd chwarae. Mae'r waliau 7 medr o hyd, gyda chegau gôl yn rhan ohonynt, yn ddelfrydol i bobl ifanc lleol gicio pêl neu ymarfer cicio targed. Gobeithio y bydd hyn yn helpu i'w cadw nhw i ffwrdd o waliau, giatiau a gwelyau blodau preswylwyr cyfagos. Llwythwch restr o'r waliau cicio i lawr, gyda dolen Google Map, yma.

Adrodd am Broblem

Er ein bod ni'n cynnal arolygiadau rheolaidd ac yn cynnal a chadw ein hoffer chwarae, yn anffodus mae toriadau a fandaliaeth yn dal i ddigwydd. Cysylltwch â'r Gwasanaethau Parciau os ydych yn dymuno adrodd am broblem gyda'n cyfleusterau.

Gwybodaeth Gyswllt

Gwasanaethau Parciau, Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod, CF81 8AB

Ffôn: 01443 811452 

E-bost: parciau@caerffili.gov.uk

Cynnwys a Awgrymir