Next

Ydych chi wedi ymweld â'ch parc lleol?

Ydych chi wedi meddwl beth yw'r gwahaniaeth rhwng ein parciau trefol a'n parciau gwledig? Wedi'r cyfan, yn aml iawn mannau agored sydd â llawer o laswellt a choed yw'r ddau. Ym mwrdeistref sirol Caerffili, mae ein parciau trefol wedi bod yn cynnig llonyddwch a thawelwch yn ein hardaloedd trefol datblygol dros y ganrif ddiwethaf. Maent yn amrywio yn ôl maint, o'r parciau mwyaf fel parciau Waunfawr a Bargoed i'r rhai lleiaf sy'n cynnwys siglenni ar waelod eich stryd, ond maent i gyd yn cynnig cyfle i gael awyr iach ac ymarfer corff. Mae ganddon ni 34 o barciau yn y fwrdeistref sirol, ond rydyn ni wedi dewis chwech o'r rhai mwyaf nodedig. 

The "Nelson" Sculpture at Nelson Wern Park

Yn y gorffennol, roedd y parciau trefol yn cael eu rheoli'n fwy llym ac yn edrych yn llawer mwy ffurfiol, ond wrth i amser fynd yn ei flaen, mae ein parciau wedi datblygu hefyd. Mae'r arwyddion "cadwch oddi ar y gwair" wedi diflannu, a thrwy hynny mae'r gymuned wedi dod i deimlo'n rhan o'r parciau a theimlo mwy o berchnogaeth. Mae ein parciau trefol yn datblygu'n barhaus ac yn cynnig cyfleusterau newydd; maen nhw'n ased gwych ar garreg eich drws.

Mae ein parciau trefol yn dal i gynnwys yr holl gyfleusterau fyddech chi'n disgwyl eu gweld mewn parc traddodiadol, er enghraifft ardaloedd chwarae i blant, caeau chwarae, lleiniau bowls a chyrtiau tennis. Mae'r llwyfan band yn dal ganddon ni! Ond erbyn heddiw, fe ddewch chi o hyd i ardal gemau aml-ddefnydd, campfeydd awyr agored, mannau cyfarfod ieuenctid a rampiau sglefrio. Mae ardaloedd bywyd gwyllt a drysfeydd wedi'u gosod mewn dolydd o flodau gwylltion. Os ydych chi'n chwilio am rywbeth llai anturus, mae'r parciau yn llefydd delfrydol i ymlwybro'n hamddenol, i fwynhau picnic gyda'r teulu neu, yn well fyth, i eistedd ar fainc ac edmygu'r blodau.

Mae ein parciau trefol yn rhan allweddol o'n rhwydwaith o fannau gwyrdd.

Walkers amongst the avenue of trees at Ystrad Mynach Park

Cynnwys a Awgrymir