Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Ystrad Mynach 2023

Dyddiad : 18 Tachwedd 2023 9:00am and 01 Rhagfyr 2023 4:53pm

Lleoliad : Canol Tref Ystrad Mynach, CF82 7AA

Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Ystrad Mynach 2023
Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Ystrad Mynach 2023
Edrychwch ar dudalen y digwyddiad ar Facebook, yma:  https://www.facebook.com/events/597142549062353
 
I holi am ofod masnachu, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
 
Gwisgwch yn gynnes a pharatoi ar gyfer tymor y Nadolig wrth i Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf ddod i Ystrad Mynach ar ddydd Sadwrn 18 Tachwedd 2023!
 
Bydd Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf yn Ystrad Mynach eleni yn dod â fflach y Nadolig i ganol y dref ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd, a bydd Cyngor Cymuned Gelli-gaer yn cynnal Groto Siôn Corn, felly peidiwch ag anghofio eich rhestr Nadolig chi!
 
Bydd y ffair yn rhoi cyfle i chi ddechrau ar eich siopa Nadolig yn gynnar, gyda detholiad arbennig o tua 30 stondin bwyd a chrefft, a fydd wedi’u gosod ar hyd y dref ac yn gwerthu anrhegion hardd, o addurniadau Nadolig a gemwaith i fwyd pob blasus a danteithion Nadoligaidd traddodiadol.
 
Bydd ychydig o reidiau ffair i blant bach ar hyd a lled canol y dref, yn ogystal â gwledd o gymeriadau Nadoligaidd yn crwydro safle'r digwyddiad i ddiddanu'r teulu cyfan. Bydd yna hefyd lwyfan cymunedol gyda pherfformiadau Nadoligaidd gan ysgolion, corau, bandiau a chantorion lleol yn helpu cael pawb yn ysbryd y Nadolig.
 
Yn ogystal â'r stondinau a’r adloniant, mae gan y dref ystod wych o siopau canol tref annibynnol. Cydiwch yn eich bagiau siopa chi a dewch draw i ymuno yn yr hwyl Nadoligaidd rhwng 9am a 5pm!
 
Bydd y ffair hefyd yn cynnal seremoni Cynnau Goleuadau Nadolig hudolus Cyngor Cymuned Gelli-gaer am 5pm.
 
Mae'r digwyddiad hwn AM DDIM!
 
Am ragor o wybodaeth, e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
 
Oes diddordeb gennych chi mewn cael stondin yn y digwyddiad hwn? Cysylltwch â digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
 
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'i gynorthwyo gan Gyngor Cymuned Gelli-gaer. Ffyniant Bro Logo

Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
 
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.

Please let us know