Ffair Wanwyn Ystrad Mynach

Date : 25 Mawrth 2023 9:00am

Venue : Ystrad Mynach

Ffair Wanwyn Ystrad Mynach
Ffair Wanwyn Ystrad Mynach

Dydd Sadwrn 25 Mawrth 2023, 9am - 5pm

Dewch draw i ganol tref Ystrad Mynach a chamu i dymor y gwanwyn!

Bydd stondinau bwyd a chrefft, detholiad o reidiau ffair hwyl i blant ac adloniant theatr stryd gwych; bydd y dref yn dod yn fyw wrth i dymor y gwanwyn gyrraedd. Os ydych chi'n chwilio am ychydig o oriau allan gyda'r teulu, beth am ddod draw i Ystrad Mynach ac ymuno yn yr hwyl?

Mae canol y dref yn cynnig dewis hyfryd o siopau annibynnol ac mae amrywiaeth o leoliadau bwyta allan ledled y dref, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Bedwlwyn Road ac Oakfield Street, Canol Tref Ystrad Mynach, CF82 7AB, lle bydd y ffyrdd ar gau.

Edrychwch ar dudalen y digwyddiad ar Facebook, yma.

I holi am ofod masnachu a'r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am y farchnad, gan gynnwys y rhaglen adloniant, stondinau a fydd yn bresennol a'r ffyrdd a fydd ar gau, ewch i www.visitcaerphilly.com/cy/events.

Mae'r digwyddiad hwn yn cynorthwyo #DewisLleol i roi hwb ac ennyn cefnogaeth i fusnesau lleol.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. #UKSPF
 

LU-logo-welsh-translation.png
Cau ffyrdd a systemau traffig: Cau Bedwlwyn Road ac Oakfield Street rhwng 9am ar 24.03.23 a 9pm ar 25.03.23. Bydd system unffordd ar waith ar hyd Pengam Road i gyfeiriad y dwyrain rhwng y cyffyrdd â Bedwlwyn Road a’r ffordd fynediad i faes parcio Oakfield Street / Lidl, gan greu estyniad i’r system unffordd bresennol ar y Stryd Fawr. Rhaid sicrhau bod pob cerbyd wedi’i barcio yn yr ardal hon yn wynebu’r dwyrain, tuag at Lidl / Tesco, erbyn 9pm ar 24.03.23 tan 9pm ar 25.03.23 i sicrhau eu bod nhw’n gallu ymuno â llif y traffig yn y system unffordd dros dro hon.

Mynediad i fanwerthwyr: Byddwch cystal â threfnu derbyn nwyddau cyn 9pm ar 24.03.23 ac ar ôl 9pm ar 25.03.23.

Mynediad i breswylwyr: Ni chaniateir parcio ar Bedwlwyn Road neu Oakfield Road o’r gyffordd â Bedwlwyn Road i gefn Canolfan Gristnogol Siloh o 9pm ar 24.03.23 tan 9pm ar 25.03.23. Rhaid gwneud trefniadau parcio amgen. Bydd gan drigolion Oakfield Road fynediad i’w tai drwy Faes Parcio Oakfield Street tra bydd y ffordd ar gau.

Tacsis: Ni fydd tacsis yn cael mynd ar hyd y ffyrdd a fydd ar gau. Byddwch cystal â threfnu safleoedd casglu a gollwng amgen.

Llwybrau a safleoedd bysiau: Dyma’r newidiadau i’r bysiau a fyddai, fel arfer, yn gwasanaethu’r safle bysiau wrth Ganolfan Gristnogol Siloh yn Bedwlwyn Road:

  • Bydd Llwybr 7 tuag at Bontypridd yn galw ym maes parcio Tesco, A469, Pont Ystrad Mynach, The Royal Oak a Central Café.
  • Bydd llwybrau 50 ac C9 tuag at Gaerffili yn galw yn Lidl ac yna’n troi wrth gylchfan Ysgol Lewis i Ferched ac yn gadael ar hyd Pengam Road, A469 a Phont Ystrad Mynach.
  • Bydd llwybrau C16 ac C17 tuag at Gaerffili yn galw yn The Beech, yna’n gadael ar hyd Pengam Road, A469 a Phont Ystrad Mynach.
  • Bydd llwybr 7 i Goed Duon, 50, C9, C17 tuag at Fargod ac C16 i Nelson yn stopio wrth eu safleoedd bysiau arferol. 

Diolch am eich amser a'ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod prysur hwn.


Please let us know