Dyddiad : 24 Mehefin 2023 12:00pm
Lleoliad : Caerffili
Dydd Sadwrn 24 Mehefin 2023, 12pm - 7pm
Dewch i ddigwyddiad cyntaf erioed Pride Caerffili a fydd yn digwydd rhwng 12pm-7pm ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin 2023.
Gall ymwelwyr ddisgwyl digwyddiad i’r teulu cyfan, gan gydnabod a dathlu’r cyfraniadau gan bobl LHDTC+ yn ein cymdeithas. Ar y diwrnod, bydd adloniant byw a Gorymdaith Balchder eiconig i ddathlu.
Bydd yr orymdaith yn cychwyn o Ysgol Martin Sant, Caerffili am 12pm, gan anelu lawr drwy’r dref ac yn mynd o amgylch Maes Parcio’r Twyn lle bydd yn gorffen.
Bydd yn ddiwrnod gwych llawn cerddoriaeth fyw, adloniant, marchnadoedd, stondinau bwyd a diod, stondinau gwybidaeth a dathlu wrth ddod at ein gilydd mewn cefnogaeth dros y gymuned LHDTC+ ym mwrdeistref sirol Caerffili.
Mae canol y dref yn cynnig dewis hyfryd o siopau annibynnol ac mae amrywiaeth o leoliadau bwyta allan ledled y dref, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ym Maes Parcio’r Twyn, Canol Tref Caerffili, CF83 1JL, lle bydd y ffordd ar gau ar hyd Twyn Road.
Am ymholiadau cyffredinol neu gwybdoaeth am y gorymdaith, anfonwch e-bost i cydraddoldeb@caerffili.gov.uk
Mae’r digwyddiad hwn yn cynorthwyo #DewisLleol i roi hwb ac ennyn cefnogaeth i fusnesau lleol.