Date : 29 Ebrill 2023 9:00am
Venue : Yr union lwybrau i'w cadarnhau
Dydd Sadwrn 29 Ebrill 2023
Bydd Cyfres Heriau Caerffili Nikwax yn dychwelyd ddydd Sadwrn 29 Ebrill 2023, gyda'r unfed ar ddeg digwyddiad Cyfres Heriau Caerffili – Yr Efail.
Eleni, mae Gwasanaeth Cefn Gwlad a Thirwedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Grŵp Antur Caerffili, Cerddwyr Caerffili, Cerddwyr Islwyn a phartneriaid eraill unwaith eto yn cynnig HER A HANNER i gerddwyr a rhedwyr o bob gallu.
Fel sy'n arferol… bydd llwybrau Cyfres Heriau Caerffili yn addas i bob lefel ffitrwydd a gallu.
Mae'r llwybrau wrthi'n cael eu cynllunio/cwblhau, a byddwn ni'n cyhoeddi union bellteroedd y llwybrau maes o law.
Dyma'r llwybrau arferol:
- Llwybr 1 – 5 milltir (taith gerdded dan arweiniad) * Cofrestru ar y diwrnod
- Llwybr 9 – 11 milltir (taith gerdded dan arweiniad)
- Llwybr 14 – 16 milltir (her hunan-arweiniol a thaith gerdded dan arweiniad)
- Llwybr 20–22 milltir (her hunan-arweiniol a thaith gerdded dan arweiniad)
Mae'r heriau hunan-arweiniol wedi'u dylunio i gynnwys cerddwyr, loncwyr neu hyd yn oed redwyr.
Cost cofrestru cyw cynnar os ydych chi'n cadw'ch lle cyn 7 Ionawr 2023: £10
£2 ychwanegol o ddisgownt i'r rhai sy'n cofrestru sydd 18 oed ac iau.
Dyddiad cau 26 Ebrill 2023.
I gael rhagor o wybodaeth ac i gystadlu ewch i wefan Cyfres Her Caerffili.