Sesiynau Costau Byw - Gofalu am Gaerffili

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau galw heibio i helpu trigolion i ddod o hyd i gymorth gyda'r argyfwng costau byw.

Bydd y digwyddiadau yn rhoi cyfle i drigolion siarad wyneb yn wyneb â staff y Cyngor, a all helpu gyda phroblemau gan gynnwys budd-daliadau, tai, dyled, a chymorth bwyd.

Sesiynau galw heibio yw’r digwyddiadau, felly nid oes angen apwyntiad, ac maen nhw'n agored i holl drigolion y Fwrdeistref Sirol. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â thîm Gofal Caerffili i gael mwy o wybodaeth:

Ffôn: 01443 811490  E-bost GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk

Mae tîm Gofalu am Gaerffili ar gael yn ystod oriau swyddfa - Dydd Llun-Dydd Iau (8.30am-5pm) a Dydd Gwener (8.30am – 4.30pm).
 

Dyddiad

Lleoliad

Amser

Gwasanaethau'r Cyngor  a fydd yn bresennol

07/10/22

Morrisons Caerffili
Cwrt y Castell
Caerffili
CF83 1XP
 

11am – 2pm

Gofalu am Gaerffili, Rhenti Tai, Cyflogaeth, Budd-daliadau Tai, Tîm Gofalwyr, Cefnogi Pobl

Dolenni Defnyddiol