Cwestiynau Cyffredin am y Bathodyn Glas

Blue badgeUnwaith mae fy nghais wedi cael ei gymeradwyo, pa mor hir y bydd yn rhaid i mi aros i dderbyn fy mathodyn glas?

Ar ôl i'r cais gael ei gymeradwyo a bod y dystiolaeth ategol o hunaniaeth, preswyliaeth a chymhwysedd yn cael eu gwirio, archebir y bathodyn a byddwch yn ei dderbyn o fewn 10 diwrnod gwaith.  

Beth ddylwn i ei wneud os na fyddaf angen fy mathodyn glas bellach?

E-bostiwch bathodynglas@caerffili.gov.uk gydag enw'r ymgeisydd, dyddiad geni a rhif bathodyn glas (Dyma chwe rhif cyntaf y rhif hir ar y bathodyn) a rhowch y rheswm pam nad oes angen y bathodyn mwyach.

Mae perthynas neu ffrind wedi marw, sut ydw i'n canslo eu bathodyn glas?

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith a gaiff ei gynnig wrth gofrestru marwolaeth. Fel arall, anfonwch e-bost at  bathodynglas@caerffili.gov.uk gydag enw'r ymgeisydd, dyddiad geni, rhif y bathodyn glas, (Dyma chwe rhif cyntaf y rhif hir ar y bathodyn), dyddiad y farwolaeth ac enw'r person sy'n cofnodi'r wybodaeth.

Mwy o wybodaeth am fathodynnau glas

Tudalennau Cysylltiedig

Cerdyn Teitho Rhatach | Lle parcio i bobl anabl