Cwestiynau Cyffredin am y Bathodyn Glas
Unwaith mae fy nghais wedi cael ei gymeradwyo, pa mor hir y bydd yn rhaid i mi aros i dderbyn fy mathodyn glas?
Ar ôl i'r cais gael ei gymeradwyo a bod y dystiolaeth ategol o hunaniaeth, preswyliaeth a chymhwysedd yn cael eu gwirio, archebir y bathodyn a byddwch yn ei dderbyn o fewn 10 diwrnod gwaith.
Beth ddylwn i ei wneud os na fyddaf angen fy mathodyn glas bellach?
E-bostiwch bathodynglas@caerffili.gov.uk gydag enw'r ymgeisydd, dyddiad geni a rhif bathodyn glas (Dyma chwe rhif cyntaf y rhif hir ar y bathodyn) a rhowch y rheswm pam nad oes angen y bathodyn mwyach.
Mae perthynas neu ffrind wedi marw, sut ydw i'n canslo eu bathodyn glas?
Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith a gaiff ei gynnig wrth gofrestru marwolaeth. Fel arall, anfonwch e-bost at bathodynglas@caerffili.gov.uk gydag enw'r ymgeisydd, dyddiad geni, rhif y bathodyn glas, (Dyma chwe rhif cyntaf y rhif hir ar y bathodyn), dyddiad y farwolaeth ac enw'r person sy'n cofnodi'r wybodaeth.
Mwy o wybodaeth am fathodynnau glas