Gwobrau Chwaraeon Caerffili
Mae Gwobrau Chwaraeon Caerffili yn fenter sy’n cydnabod ymdrech, arloesedd ac ymrwymiad y rheini sydd wedi helpu i wneud mwy o bobl yn fwy actif yn fwy aml ac yn barod i gymryd rhan mewn chwaraeon am oes.
Roedd yr enwebiadau yn agored i bob clwb, ysgol, grŵp cymunedol a gwirfoddolwyr unigol o fewn y fwrdeistref sirol.
Y categorïau enwebiad a’r enillwyr
-
Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn – Mae’r wobr hyfforddwr cymunedol y flwyddyn ar gyfer unigolyn eithriadol sy’n haeddu cydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwirfoddol eithriadol i chwaraeon yn eu cymuned.
-
Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (Dan 18) – Mae’r wobr hon yn cydnabod cyfraniad gwirfoddolwr ifanc wrth gael mwy o bobl i ddechrau, aros a/neu lwyddo mewn chwaraeon/gweithgareddau corfforol drwy gyflwyniadau o safon uchel.
-
Clwb y Flwyddyn – Mae gwobr Clwb y Flwyddyn yn cydnabod y gwaith y mae clybiau o fewn y gymuned yn ei wneud i ddarparu cyfleoedd a darpariaeth chwaraeon i bawb.
-
Gwirfoddolwr y Flwyddyn (18 a throsodd) – Mae’r wobr hon yn cydnabod cyfraniad eithriadol gwirfoddolwr wrth gael mwy o bobl i ddechrau, aros a/neu lwyddo mewn chwaraeon/gweithgaredd corfforol drwy gyflwyniadau o safon uchel.
-
Hyfforddwr Cynhwysol y Flwyddyn – Mae’r wobr hon ar gyfer unigolyn sydd wedi dangos llawer o ymroddiad ac angerdd wrth weithio gyda grwpiau targed penodol megis (Menywod a Merched, Hil, Anabledd ac Amddifadedd)
-
Chwaraeon am Oes yng Nghaerffili – Mae’r gydnabyddiaeth hon ar gyfer unigolion sydd wedi arddangos llawer o frwdfrydedd, ymroddiad ac ymrwymiad wrth gael effaith sylweddol ar ddarparu chwaraeon o fewn eu cymuned.
2017 award winners
- Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn - Sarah Llewellyn
- Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (Dan 18) – Chloe Price
- Clwb y Flwyddyn – Clwb Gymnasteg Bedwas
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn (18 a throsodd) – Jane McCann
- Hyfforddwr Cynhwysol y Flwyddyn – Tyler Price
- Chwaraeon am Oes yng Nghaerffili – David Randall, Julie Proctor, Lyn Hall, Mike Heare, Peter Key, Wayne Thomas