Tîm cymorth dwys

 

Mae’r Tîm Cymorth Dwys yn gweithio ochr yn ochr â theuluoedd sy’n agored i’r Gwasanaethau i Blant i adeiladu ar gryfderau teuluoedd i leihau achosion argyfwng, gwella perthnasoedd teuluol a chadw plant yn ddiogel i fyw gartref gyda’u teuluoedd nhw.

Mae Seicolegydd Plant, Ymwelydd Iechyd, Swyddog Addysg, Eiriolwr Rhieni a Chydlynwyr Cyfarfodydd Teuluoedd yn gweithio ochr yn ochr â Gweithwyr Cymorth i gynorthwyo teuluoedd i ddatblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan alluogi teuluoedd i gyflawni'u canlyniadau dymunol nhw.

Rydyn ni'n helpu teuluoedd i lunio cynllun a chymryd rheolaeth dros eu bywydau, gan edrych ar gryfderau’r teulu a sut mae'r teulu'n gallu dod at ei gilydd er mwyn gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc.

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth neu unrhyw gwestiwn am ofal i blant, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.