Cysylltu Bywydau - atgyfeiriadau
Mae’n rhaid i atgyfeiriad ddod oddi wrth Reolwr Gofal yng nghynghorau Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy a Thorfaen. Os oes gennych chi, neu rywun yr ydych chi’n ei adnabod, ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio'r cynllun trafodwch hynny â’ch Rheolwr Gofal.
Os ydych yn Rheolwr Gofal sydd am atgyfeirio oedolyn i'r cynllun, defnyddiwch y gyfeireb bwrpasol. Anfonwch y ffurflenni yn y post neu dros e-bost i:
Cynllun Rhannu Bywydau De-ddwyrain Cymru
Tŷ Tredomen
Ystrad Mynach
CF82 7WF
E-bost: adultplacement@caerphilly.gcsx.gov.uk
Os ydych yn ansicr ynghylch y broses atgyfeirio, mae croeso i chi gysylltu â ni i ofyn am gyngor.