FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Nid yw rhai o'n ffurflenni ar-lein ar gael ar hyn o bryd wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

ONLINE FORMS: Some of our online forms are currently unavailable whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Cysylltu bywydau – cymorth gofalydd

Mae pob math o help a chymorth ar gael i ofalyddion rhannu bywydau.

Hyfforddiant i Ofalyddion

Caiff holl ofalyddion Cysylltu Bywydau eu hannog i ddilyn cyrsiau hyfforddiant rheolaidd. Bydd eich Gweithiwr Cynllun yn trafod yr hyfforddiant â chi yn ystod eich ymweliadau cyswllt a bydd yn gallu trefnu lle ar gyrsiau i chi.

Dyma rai o'r cyrsiau hyfforddiant hanfodol y disgwylir i bob gofalydd eu mynychu:

  • Cymorth Cyntaf
  • Hylendid Bwyd
  • Hanfodion Gofal
  • Iechyd a Diogelwch
  • Hyfforddiant Deddf Galluedd Meddyliol
  • Diogelu

Mae gofalyddion yn gallu manteisio ar ddewis helaeth o gyrsiau gofal cymdeithasol.  Os hoffech chi gael hyfforddiant mewn maes penodol, trafodwch hynny â'ch Gweithiwr Cynllun.

Cyfarfodydd rheolaidd

Rydym yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd i ofalyddion ac yn rhoi cyfle iddynt gwrdd â gofalyddion Rhannu Bywydau eraill.

Cysylltiadau defnyddiol eraill

  • Swyddfa’r Cynllun 01443 864586. Ar agor 8.30am tan 5pm (Llun – Iau), 8.30am tan 4.30pm (Gwener).  Bydd y swyddfa ar gau ar Wyliau Banc.
  • Cyswllt Brys y Cynllun 07881 705854. Ar agor rhwng 7am a 7pm (Llun - Gwen).
  • Cyswllt Brys y Tu Allan i Oriau (defnyddwyr gwasanaeth Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen)
  • Cyswllt Brys y Tu Allan i Oriau (defnyddwyr gwasanaeth Merthyr Tudful) 01443 425012. Ar agor rhwng 7pm a 7am (Llun - Gwen) a 7pm Gwen tan 7am Llun a Gwyliau Banc.

Ffurflenni

Canllawiau

Safonau Gofynnol Cenedlaethol

Shared Lives Plus – Mae Shared Lives Plus yn sefydliad sy’n cynnwys aelodau ac yn rhwydwaith ar gyfer dulliau o gynorthwyo oedolion sy’n seiliedig ar deuluoedd ac a gyflawnir ar raddfa fach.  

Trethi i Leoliadau Oedolion Gofalyddion Rhannu Bywydau
Fideo CThEM: Rhyddhad Trethi i Ofalyddion Rhannu Bywydau 

Cysylltwch â ni