FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Nid yw rhai o'n ffurflenni ar-lein ar gael ar hyn o bryd wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

ONLINE FORMS: Some of our online forms are currently unavailable whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Dod yn ofalydd Cysylltu Bywydau

Mae bod yn ofalydd rhannu bywydau yn waith sy’n rhoi boddhad. Mae ein gofalyddion yn helpu pobl i fyw bywydau llawn a chadarnhaol. 

Pwy all fod yn ofalydd?

Gall unrhyw un dros 18 oed wneud cais i fod yn ofalydd.

Rydym yn chwilio am bobl sydd:

  • yn awyddus i rannu eu cartref, teulu a bywyd cymunedol gyda pherson arall
  • â diddordeb mewn helpu pobl i fyw bywydau llawn, gwneud eu penderfyniadau eu hunain a chael profiadau newydd
  • ag amser i’w gynnig i rywun sydd angen helpu â gwahanol feysydd yn eu bywyd
  • yn meddu ar gartref sefydlog
  • yn sensitif ac agos atoch
  • yn gallu gwneud ymrwymiad

Mae gwahanol fathau o leoliadau ar gael i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw chi o leoliadau hirdymor i leoliadau tymor byr a lleoliadau brys. Mae ein hadran ‘ynghylch y cynllun' yn cynnig rhagor o wybodaeth.

Does dim rhaid i chi feddu ar unrhyw brofiad o helpu pobl i wneud cais i ddod yn ofalydd, fodd bynnag, mae gan lawer o bobl sy'n ymgeisio rywfaint o brofiad un ai drwy eu gwaith neu eu bywyd personol. Rydym ni’n cynnig rhaglen sefydlu gynhwysfawr yn ogystal â chyrsiau hyfforddiant rheolaidd a chymorth parhaus. Y peth pwysicaf yr ydym yn chwilio amdano yn ein gofalyddion yw awydd gwirioneddol i helpu pobl a rhannu agweddau ar eu bywydau gyda phobl eraill.

Ffioedd 

Telir ffi i ofalyddion am bob lleoliad a ddarperir ganddynt. Mae’r rhain yn amrywio yn dibynnu ar y math o leoliad a gynigir gennych.

Sut i gyflwyno cais

Os ydych chi’n teimlo eich bod yn meddu ar y sgiliau a’r gallu i ddod yn ofalydd lleoliadau oedolion, cysylltwch â ni.

Y broses asesu

Pan fyddwch yn gwneud cais, byddwn yn pennu Gweithiwr Cynllun ar eich cyfer a fydd yn trefnu i ddod ymweld â chi ac esbonio’r broses. Os byddwch yn penderfynu bwrw ymlaen â'ch cais, bydd yr un Gweithiwr Cymorth yn eich tywys drwy'r broses asesu.

Cysylltwch â ni