Y broses asesu ar gyfer gofalyddion Cysylltu Bywydau
Pa mor hir fydd y broses yn cymryd?
Fel arfer bydd eich Gweithiwr Cynllun yn cwblhau eich asesiad cyn pen tri mis. Weithiau gall gymryd yn hirach i’w gwblhau os bydd rhaid i ni aros am eirdaon neu os nad yw’r ymgeisydd ar gael i ni allu cynnal ymweliadau asesu. Os bydd unrhyw oedi, bydd eich Gweithiwr Cynllun yn trafod hynny gyda chi. Weithiau bydd mwy o geisiadau nag arfer yn dod i law a bydd rhaid i ni lunio rhestr aros. Os felly, byddwn yn esbonio'r sefyllfa i chi pan fyddwch yn ymgeisio.
Beth sy’n digwydd yn ystod yr asesiad?
Bydd eich Gweithiwr Cynllun yn trefnu i ddod i gynnal cyfres o ymweliadau â chi yn eich cartref i drafod eich cefndir, eich ffordd o fyw, a'r sgiliau a'r profiad sydd gennych o ran helpu pobl. Bydd eich Gweithiwr Cynllun hefyd yn gofyn am eirdaon a gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Os oes gennych bartner, gŵr neu wraig bydd rhaid eu cynnwys nhw yn yr asesiad hefyd a bydd rhaid iddyn nhw hefyd gael geirdaon a gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
O ran lleoliadau hirdymor a gofal seibiant bydd eich gweithiwr hefyd yn trefnu eich bod y person yn dod i aros dros nos gyda chi, fel y gall y ddau ohonoch "roi cynnig" ar y lleoliad. Bydd eich Gweithiwr Cynllun mewn cysylltiad â chi ac yn eich cefnogi drwy gydol y broses hon.
Panel Cymeradwyo Lleoliadau Oedolion
Yn dilyn cwblhau eich asesiad, caiff ei gyflwyno i’r Panel Cymeradwyo. Mae’r Panel Cymeradwyo yn cwrdd bob mis a nhw fydd yn gwneud penderfyniad am eich cais. Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfarfod y Panel Cymeradwyo, gyda'ch Gweithiwr Cynllun, a bydd y panel yn eich holi am eich cais cyn gwneud penderfyniad.
Y broses baru
Ar ôl cael eich cymeradwyo gan y Panel bydd eich Gweithiwr Cynllun yn dechrau chwilio am leoliadau addas i chi. Mae gennym broses paru a chyflwyno sy’n sicrhau eich bod chi a’r person sy’n chwilio am leoliad yn fodlon ar y trefniadau.
Y broses baru yw'r rhan bwysicaf o'r gwaith o drefnu lleoliad rhannu bywydau llwyddiannus. Bydd eich Gweithiwr Cynllun yn edrych ar lawer o wybodaeth am y person sy’n chwilio am leoliad gan ystyried ei ffordd o fyw, ei ddiddordebau a’i anghenion cymorth. Bydd eich swyddog cynllun yn chwilio am ofalydd sy'n debygol o rannu'r un diddordebau â’r sgiliau angenrheidiol i helpu’r person.
Os bydd eich Gweithiwr Cynllun yn meddwl y gallwch gyd-dynnu’n dda â’r person bydd yn cysylltu â chi i drafod hynny. Os ydych yn fodlon cymryd y cam nesaf a chwrdd â’r person, byddwn yn trefnu cyfarfod anffurfiol ar eich cyfer.
O ran lleoliadau hirdymor a gofal seibiant bydd eich gweithiwr hefyd yn trefnu eich bod y person yn dod i aros dros nos gyda chi, fel y gall y ddau ohonoch "roi cynnig" ar y lleoliad. Bydd eich Gweithiwr Cynllun mewn cysylltiad â chi ac yn eich cefnogi drwy gydol y broses hon.