FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Nid yw rhai o'n ffurflenni ar-lein ar gael ar hyn o bryd wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

ONLINE FORMS: Some of our online forms are currently unavailable whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Y broses asesu ar gyfer gofalyddion Cysylltu Bywydau

Mae’r cynllun yn darparu gwasanaeth i oedolion sy'n agored i niwed gyda gofalyddion ‘rhannu bywydau’ yn eu cymuned leol. Mae cyfle i unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau lleoli oedolion gael cymorth yng nghartrefi gofalyddion a chymunedau lleol.

Rydym yn cynnig lleoliadau yn y chwe ardal awdurdod lleol sef Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

Gallwn ni drefnu:

  • Lleoliadau hirdymor
  • Lleoliadau tymor byr
  • Lleoliadau gofal seibiant
  • Lleoliadau brysCymorth sesiynol

Rydym yn teilwra pob lleoliad yn ôl anghenion a gofynion pob unigolyn. Efallai y bydd rhai pobl am gael rhai oriau o ofal yn ystod y dydd, gofal seibiant, neu leoliad hirdymor i fyw ynddo. Mae Cysylltu Bywydau yn rhoi’r cyfle i bobl gael cymorth mewn amgylchedd cyfeillgar, cartrefol yn y gymuned leol.

Pwy all ddefnyddio’r cynllun?

Mae’r gwasanaeth yn hyblyg ac mae’n rhoi cymorth i amrywiaeth eang o bobl i fyw bywydau mwy annibynnol, datblygu eu cysylltiad â’r gymuned leol, dysgu sgiliau newydd a chael profiadau newydd. Rhagor o wybodaeth ynglŷn â phwy all ddefnyddio'r cynllun.

Trefnu lleoliad

Wrth fynd ati i drefnu lleoliad bydd y gofalydd a’r person sydd angen cymorth yn cael y cyfle i ddod i adnabod ei gilydd yn well ac, os ydynt yn teimlo eu bod yn cyd-dynnu’n dda, byddant yn rhannu eu cartref, eu teulu a’u bywyd cymunedol. Gallai hyn olygu y bydd yr unigolyn yn ymweld â chartref y gofalydd yn gyson, yn ystod y dydd neu dros nos, neu gallai olygu ei fod yn mynd i fyw gyda’r gofalydd fel rhan o leoliad hirdymor.  Weithiau bydd y berthynas yn para gydol oes.

Recriwtio gofalyddion

Mae ein gofalyddion yn dod o bob math o wahanol gefndir ac yn cael eu recriwtio yn dilyn cyfnod asesu a hyfforddiant dwys.  Maen nhw hefyd yn cael cymorth a goruchwyliaeth gyson gan y cynllun.  I gael gwybod sut gallwch chi gymryd rhan ewch i’r adran 'dod yn ofalydd Cysylltu Bywydau.

Taflenni

Storïau digidol

Rydym wedi cynhyrchu nifer o ffilmiau byr am y gwasanaeth sydd ar gael yn ein hadran storïau digidol.

Sut mae’r cynllun yn cael ei reoleiddio?

Mae’r cynllun wedi’i gofrestru, ac yn cael ei archwilio gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Gweld ein hadroddiad archwilio diweddaraf

Cysylltwch â ni