Cartrefi preswyl

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw'r rheoleiddwyr ar gyfer gofal cymdeithasol a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru ac mae’n anelu at ddarparu sicrwydd annibynnol ynghylch ansawdd ac argaeledd Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae cyfeirlyfr o wasanaethau gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda AGC ar gael ar wefan AGC.

Mae'r sefydliadau a restrir isod ar restr darparwyr cofrestredig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer darparu gwasanaethau gofal preswyl.

Mae'r rhestr hon at ddibenion gwybodaeth yn unig ac mae'n cynnwys gwybodaeth a oedd yn gywir ar adeg ei chyhoeddi. Mae'n nodi darparwyr cofrestredig a leolir o fewn ffiniau Caerffili yn unig. Mae manylion y darparwyr cofrestredig y tu allan i'r sir ar gael drwy gysylltu gyda’r Tîm Comisiynu - ebost at comteam@caerphilly.gov.uk.

Nid yw bod ar y rhestr darparwyr cofrestredig yn golygu bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cymeradwyo’r sefydliadau neu’n gwarantu ansawdd eu gwasanaethau i gwsmeriaid cyffredinol. At hyn, ni ellir dal y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn atebol am unrhyw benderfyniad a wnewch ar sail y wybodaeth a roddir ar y rhestr hon.

Mae'r adroddiadau arolygu diweddaraf yn cael eu darparu lle maent ar gael.

Gellir eu gweld drwy ddilyn y dolenni o dan fanylion y darparwr.

  • Mae Adroddiadau Monitro yn ymwneud ag ymweliadau rheolaidd a gynhaliwyd gan yr Is-adran Monitro Contractau o fewn y Gwasanaethau Oedolion. Mae rhestr termau  ar gael er gwybodaeth i chi
  • Mae adroddiadau Perfformiad Darparwyr yn ymwneud â’r ymweliadau hynny a gynhelir y tu allan i fonitro rheolaidd.
  • Mae ymweliadau Perfformiad Darparwyr yn cael eu cynnal lle mae pryderon cynyddol am ddarparwr ac felly mae angen mwy o fonitro rheolaidd.

Good Care Guide

Os ydych am fwy o wybodaeth ar yr holl gartrefi gofal nyrsio yn y fwrdeistref, efallai yr hoffech edrych ar wefan Good Care Guide. Fforwm annibynnol yw’r Good Care Guide sydd wedi ei ddatblygu er mwyn galluogi pobl i ddod o hyd, graddio ac adolygu gofal plant a gofal pobl hŷn ledled Prydain.

Rhestr A-Y o gartrefi preswyl i bobl hŷn 

Tai'r Awdurdod Lleol

Ar gyfer adroddiadau monitro blaenorol, cysylltwch â'r Tîm Comisiynu - e-bost comisiynu@caerffili.gov.uk

Cysylltwch â ni

Tudalennau Cysylltiedig

Paying for care