Gwasanaethau dydd ar gyfer pobl hŷn
Mae amrywiaeth o wasanaethau dydd wedi'u lleoli ar draws y fwrdeistref sirol sy'n:
- Galluogi pobl i gael mynediad at brofiadau cymunedol ystyrlon ac amgylcheddau diogel sydd â chymorth priodol a fydd yn diwallu eu hanghenion iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â darparu gofal seibiant i deuluoedd a gofalwyr.
- Darparu cyfleoedd i sefydlu a chynnal cyfeillgarwch, cymdeithasu a chael mynediad at weithgareddau a gwasanaethau cymunedol.
Mae Gwasanaethau Dydd wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn drwy sicrhau bod yr unigolion y maent yn eu cefnogi yn ganolog i bopeth y maent yn ei wneud drwy:
- Cydnabod bod gan bob unigolyn ei hunaniaeth, ei anghenion, ei ddymuniadau, ei ddewisiadau, ei gredoau a'i werthoedd ei hun.
- Cydnabod gwerth profiadau bywyd drwy ddeall pwysigrwydd gorffennol pob unigolyn, ei brofiad presennol a'i obeithion ar gyfer y dyfodol.
- Deall beth sy'n bwysig i bob unigolyn.
- Cynyddu lles, hunaniaeth ac ymdeimlad o berthyn pob unigolyn.
- Deall a dangos y gallu i gysylltu ag unigolion drwy adnabod ac ymateb i'w teimladau a'u hemosiynau.
- Cynnwys unigolion a'u gofalwyr ym mhob agwedd ar eu gwasanaeth sy'n cynnwys cynllunio, datblygu a'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu.
- Yn gweithio i athroniaeth Mae Gofal Dementia’n Bwysig, bod "teimladau'n bwysig" ac mae hyn yn ganolog i'r holl ofal a ddarperir, gan werthfawrogi'r unigolyn a galluogi pawb sy'n mynychu i fod mor annibynnol â phosibl.
Mae'r gwasanaethau â chyfleusterau llawn o ran cawodydd ac offer arbenigol er mwyn sicrhau bod gofynion cymorth gofal personol yn cael eu bodloni mewn amgylchedd diogel a phreifat.
Canolfannau adnoddau
Lleolir y gwasanaethau mewn amgylcheddau cynnes, cyfeillgar a gofalgar lle gall unigolion gyfarfod ag eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau o'u dewis sy'n cynnwys ymarfer corff ysgafn, hel atgofion a nifer o grefftau a gemau/cwisiau o fewn awyrgylch 'teimlad cartrefol'. Mae'r digwyddiadau, yr adloniant a'r ymweliadau a gynhelir yn rheolaidd ar thema bob amser yn cael derbyniad da ac yn cael eu mwynhau'n fawr gan y rhai sy'n dewis cymryd rhan.
Mae Gwasanaethau Dydd yn cydnabod ei bod yn bwysig bod gardd yn rhan gyfarwydd o fywyd y cartref a bod mannau dymunol yn yr awyr agored sy'n rhoi cyfle i gymryd rhan mewn garddio neu i fwynhau treulio amser yn yr awyr agored yn unig.
Mae'r gwasanaethau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Trefniadau amser cinio:
Mae prydau wedi'u coginio ar gael amser cinio sy'n cynnwys darparu prydau bwyd i unigolion sydd â gofynion dietegol penodol neu gall unigolion ddewis dod â'u pecynnau bwyd eu hunain.
Mae canolfannau adnoddau dydd ar gyfer pobl hŷn wedi'u lleoli fel a ganlyn:
Brondeg, Coed Duon
Eneu’r-glyn, Caerffili
Oaklands, Rhymni
Tîm Cymunedol
Mae'r Tîm Cymunedol yn darparu gwasanaeth yn y gymuned sy'n helpu unigolion i gael mynediad/cymryd rhan mewn gweithgareddau yn eu cymuned eu hunain.
Mae'r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth sesiynol yn y gymuned gyda gweithgareddau yn seiliedig ar ddiddordebau'r unigolyn. Darperir y cymorth hwn mewn ffordd sy'n seiliedig ar deimladau, a chefnogir unigolion i ddefnyddio gweithgareddau yr oeddent yn arfer eu mwynhau neu'n cael cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd yn eu cymuned eu hunain.
Nod y Tîm Cymunedol yw lleihau teimladau o unigedd cymdeithasol ac mae'n annog unigolion i fod mor annibynnol â phosibl ac yn ceisio gwneud i unigolion deimlo eu bod allan gyda ffrind yn hytrach na "bod yn derbyn gwasanaeth".
Gwasanaeth Gwirfoddoli
Mae'r Gwasanaeth Gwirfoddoli yn darparu cyfleoedd i bobl ag anabledd dysgu i gymryd rhan weithredol yn eu cymuned, fel arfer drwy weithgareddau hamdden neu dreulio amser gyda'i gilydd gartref. Caiff gwirfoddolwyr eu paru ag unigolyn/pobl sydd â diddordebau tebyg ac maent yn cyfarfod yn rheolaidd lle gwneir cyfeillgarwch.
Pwy sy'n gallu derbyn gwasanaeth?
Mae person yn gymwys i dderbyn gwasanaeth oddi wrth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol os ydynt yn bodloni'r meini prawf canlynol:
- Cynhaliwyd asesiad o angen gan Dîm Pobl Hŷn Bwrdeistref Sirol Caerffili.
- Mae'r person yn byw o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili.
- Mae'r person yn byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac mae ganddynt asesiad o angen oddi wrth ei hawdurdod lleol sy'n sefydlu ei hawl i wasanaethau.
Am fwy o wybodaeth ar sut i gael mynediad at y gwasanaethau hyn, cysylltwch â Thîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Polisi Cludiant Cynorthwyol y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
Mae Gwasanaeth Cludiant Cynorthwyol y Gwasanaethau Cymdeithasol i oedolion yn wasanaeth cludiant i bobl dros 18 oed, er mwyn iddynt gael gwell mynediad at 'weithgareddau cymunedol' ym mwrdeistref Caerffili. Mae gweithgaredd cymunedol yn wasanaeth gofal a chymorth y mae unigolyn yn mynychu oddi cartref, a ddarperir gan Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion fel rhan o gynllun gofal a chymorth.
Polisi Cludiant Cynorthwyol
Polisi Cludiant Cynorthwyol hawdd ei ddarllen