Pwy all ddefnyddio’r cynllun rhannu bywydau?
Gall unrhyw un dros ddeunaw oed yr aseswyd ei fod yn unigolyn sydd angen cymorth gofal cymdeithasol gael ei gyfeirio atom ni. Rydym ni'n trefnu lleoliadau i bobl gydag ystod eang o anghenion cymorth, gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu, nam ar y synhwyrau, anableddau corfforol, anghenion iechyd meddwl a phobl hŷn.
Mae’r gwasanaeth a gynigir yn hyblyg iawn a gall fod yn addas i bobl gydag anghenion gofal a chymorth gwahanol, gan gynnwys:
- Pobl sy’n eithaf annibynnol ac sydd angen ychydig o gymorth ychwanegol mewn rhai meysydd penodol yn eu bywydau
- Pobl gydag anghenion gofal a chymorth uwch, ac sydd angen cymorth â nifer o wahanol agweddau ar eu bywydau
- Pobl sy’n chwilio am ddewis amgen i ofal preswyl
- Pobl sydd angen rhywfaint o gymorth a chyfarwyddyd i ehangu eu rhwydweithiau cymdeithasol, datblygu a chynnal eu sgiliau, a chael profiadau newydd
- Pobl ifanc sy’n nesáu at fod yn 18 oed ac sydd wedi bod yn byw gyda gofalyddion maeth ac sydd am barhau i fyw gyda'r un gofalyddion yn dilyn eu pen-blwydd yn 18 oed. Bydd y cynllun yn esbonio proses asesu Cysylltu Bywydau i’r gofalyddion maeth.
Atgyfeiriadau
Yn gyntaf, mae’n rhaid i ni gael atgyfeiriad gan Reolwr Gofal yn awdurdod Baenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy a Thorfaen. Os oes gennych chi, neu rywun yr ydych chi’n ei adnabod, ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio'r cynllun trafodwch hynny â'ch Rheolwr Gofal.
Unwaith y bydd atgyfeiriad wedi dod i law bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion a rhoi gwybodaeth i chi am leoliadau posibl.
Talu am ofal
Os ydych chi’n byw mewn lleoliad hirdymor gofynnir i chi dalu rhent a thâl gwasanaeth i’ch gofalydd. Mae hyn yn talu am y gost o fyw yn y cartref.
Os ydych yn dewis defnyddio’r cynllun rhannu bywydau bydd rhaid i chi gael asesiad i weithio allan faint o arian, os o gwbl, y gallwch fforddio ei dalu tuag at gostau'r gwasanaethau a gewch. Byddwn ni’n cynnal yr asesiad hwn.
Dod o hyd i ofalydd sy’n addas i mi
Ar ôl i ni dderbyn eich atgyfeiriad, bydd Gweithiwr Cynllun yn cysylltu â chi ac yn trefnu i ddod i’ch cwrdd.
Cynllun yn cysylltu â chi ac yn trefnu i ddod i’ch cwrdd. Pan fyddwch yn cwrdd byddant yn eich holi am yr hyn yr ydych yn gobeithio ei gael o’r lleoliad, a byddant yn dechrau dod i’ch adnabod. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, bydd y gweithiwr yn chwilio am ofalydd a all fod yn addas ar eich cyfer.
Y broses paru yw'r rhan bwysicaf o'r gwaith o drefnu lleoliad rhannu bywyd llwyddiannus. Bydd eich gweithiwr cynllun yn chwilio am ofalydd sy'n rhannu'r un diddordebau â chi a’r sgiliau angenrheidiol i'ch cynorthwyo. Ar ôl i ni nodi gofalydd addas, byddwn yn trefnu cyfarfod rhyngoch, ac os ydych yn cyd-dynnu'n dda bydd eich Gweithiwr Cynllun yn trefnu ymweliad cyflwyniadol hirach. Yn ystod yr ymweliad hwn, bydd cyfle i chi ddod i adnabod eich gilydd yn well. Weithiau bydd pobl yn cael sawl ymweliad cyflwyniadol cyn yr eir ati i benderfynu ar leoliad.
O ran lleoliadau hirdymor a gofal seibiant bydd eich gweithiwr hefyd yn trefnu eich bod yn aros dros nos gyda’r gofalyddion, fel y gall y ddau ohonoch "roi cynnig" ar y lleoliad. Bydd eich gweithiwr mewn cysylltiad â chi drwy gydol y broses i ateb unrhyw gwestiynau ac i gael adborth ar y trefniadau cyn belled.
Ym mha ffordd y bydd y cynllun o fudd i mi?
Bydd gofalyddion yn rhannu agweddau ar eu cartref, teulu a bywyd cymunedol gyda chi.
Mae’r cynllun yn helpu gofalyddion a phobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau i feithrin perthnasoedd cryf, fel y bydd y cymorth a gewch yn teimlo'n gwbl naturiol ac yn rhan o’ch bywyd bob dydd.
Mae gofalyddion yn gallu helpu pobl i gynnal a datblygu eu sgiliau a chael profiadau newydd. Gallai’r cymorth eich helpu gyda’r canlynol:
- Datblygu a chynnal eich sgiliau o ran paratoi bwyd, siopa a chyllidebu
- Datblygu a chynnal eich sgiliau i’ch galluogi i wneud gwaith tŷ
- Ehangu eich cylch o gyfeillion a chysylltiadau cymunedol.
- Magu hyder a chynyddu eich annibyniaeth
- Cael gwaith neu addysg
- Mynd i apwyntiadau meddygol
- Mynd ar wyliau
Cynigir y lleoliadau mewn cartrefi teuluol bach gan ofalyddion cymwys a phrofiadol, gyda’r sicrwydd y bydd unrhyw help a gewch yn cael ei fonitro a’i gefnogi’n sensitif gan y cynllun.