Dod yn ofalydd Cysylltu Bywydau
Mae bod yn ofalydd rhannu bywydau yn waith sy’n rhoi boddhad. Mae ein gofalyddion yn helpu pobl i fyw bywydau llawn a chadarnhaol.
Pwy all fod yn ofalydd?
Gall unrhyw un dros 18 oed wneud cais i fod yn ofalydd.
Rydym yn chwilio am bobl sydd:
- yn awyddus i rannu eu cartref, teulu a bywyd cymunedol gyda pherson arall
- â diddordeb mewn helpu pobl i fyw bywydau llawn, gwneud eu penderfyniadau eu hunain a chael profiadau newydd
- ag amser i’w gynnig i rywun sydd angen helpu â gwahanol feysydd yn eu bywyd
- yn meddu ar gartref sefydlog
- yn sensitif ac agos atoch
- yn gallu gwneud ymrwymiad
Mae gwahanol fathau o leoliadau ar gael i gyd-fynd â’ch ffordd o fyw chi o leoliadau hirdymor i leoliadau tymor byr a lleoliadau brys. Mae ein hadran ‘ynghylch y cynllun' yn cynnig rhagor o wybodaeth.
Does dim rhaid i chi feddu ar unrhyw brofiad o helpu pobl i wneud cais i ddod yn ofalydd, fodd bynnag, mae gan lawer o bobl sy'n ymgeisio rywfaint o brofiad un ai drwy eu gwaith neu eu bywyd personol. Rydym ni’n cynnig rhaglen sefydlu gynhwysfawr yn ogystal â chyrsiau hyfforddiant rheolaidd a chymorth parhaus. Y peth pwysicaf yr ydym yn chwilio amdano yn ein gofalyddion yw awydd gwirioneddol i helpu pobl a rhannu agweddau ar eu bywydau gyda phobl eraill.
Ffioedd
Telir ffi i ofalyddion am bob lleoliad a ddarperir ganddynt. Mae’r rhain yn amrywio yn dibynnu ar y math o leoliad a gynigir gennych.
Sut i gyflwyno cais
Os ydych chi’n teimlo eich bod yn meddu ar y sgiliau a’r gallu i ddod yn ofalydd lleoliadau oedolion, cysylltwch â ni.
Y broses asesu
Pan fyddwch yn gwneud cais, byddwn yn pennu Gweithiwr Cynllun ar eich cyfer a fydd yn trefnu i ddod ymweld â chi ac esbonio’r broses. Os byddwch yn penderfynu bwrw ymlaen â'ch cais, bydd yr un Gweithiwr Cymorth yn eich tywys drwy'r broses asesu.