Cysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
Pan ydych yn cysylltu â ni, gallech ddisgwyl i ni ofyn i chi beth sydd yn holl bwysig i chi a beth all helpu i wella eich sefyllfa. Byddem hefyd yn siarad â chi am eich cryfderau a’ch gallu a beth sydd yn gweithio yn dda yn eich bywyd.
Gall hyn ein galluogi i ddeall yn well pa gefnogaeth sydd angen arnoch ac os:
- ydych yn gallu diwallu eich angen eich hun; neu
- ydych yn gallu diwallu eich angen gyda chymorth a chyngor eraill sydd yn fodlon ei ddarparu
- ydych yn gallu diwallu yr angen gyda chymorth gwasanaethau sydd yn gyrraeddadwy o fewn y gymuned.
Ein pwynt dechreuad yw rhoi digon o wybodaeth a chyngor ac/neu gefnogaeth i bobl i’w galluogi nhw i wneud trefniadau am eu gofal a’u cefnogaeth eu hunain. Gall hyn olygu eich cyfeirio at asiantaeth arall sydd yn gallu darparu’r gofal yr ydych ei angen.
Gallem benderfynu ein bod angen deall eich sefyllfa yn fwy manwl a throsglwyddo’r wybodaeth wedyn i’r Tîm priodol.
Os yw eich gwybodaeth yn cael ei drosglwyddo i Dîm, bydd aelod o staff yn trafod gyda chi pa ganlyniadau yr hoffech eu cyflawni, anghenion gofal a chymorth, sut y gellir eu cyflawni ac os ydych yn gymwys am gymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Gelwir y drafodaeth hon yn asesiad.
Pe byddech angen cefnogaeth barhaol, mae’n debygol y bydd trefniadau ar gyfer eich gofal yn cael eu hysgrifennu mewn i Gynllun Gofal a Chymorth. Gelwir hyn yn gynllun gofal a thriniaeth mewn iechyd meddwl.
Yn syml, dogfen yw’r cynllun Gofal a Chymorth sy’n gymorth i chi wybod beth mae pawb yn ei wneud a phryd maent yn ei wneud ac mi gewch gopi ohono.
Os ydych angen mwy o wybodaeth neu gefnogaeth cysylltwch â’r Tîm Gwybodaeth, Cynghorion a Chymorth.
Os oes gennych Gynllun Gofal a Chefnogaeth, bydd yn cynnwys enwau cyswllt y tîm sydd yn gofalu amdanoch yn barod.
Defnyddiwch y manylion cyswllt canlynol:
- Os oes angen i chi siarad â rhywun am wasanaethau cymdeithasol i oedolion yn ystod yr oriau agor isod, ffoniwch y Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar 0808 100 2500.
- Os oes angen i chi siarad â rhywun am wasanaethau cymdeithasol i blant yn ystod yr oriau agor isod, ffoniwch y Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar 0808 100 1727.
- Os oes angen i chi gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol mewn argyfwng ynghylch gwasanaethau oedolion neu blant pan fydd y swyddfeydd ar gau, ffoniwch y Gwasanaeth Cefnogi Argyfwng Tu Allan i Oriau ar 0800 328 4432.
Oriau agor y swyddfa:
- Dydd Llun i ddydd Iau – 8.30am tan 5pm
- Dydd Gwener – 8.30am tan 4.30pm