Gadael yr ysbyty

Os byddwch yn mynd i'r ysbyty, efallai eich bod yn poeni am beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn gadael.

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy’n gadael yr ysbyty yn mynd yn syth nôl adref unwaith y byddant wedi gorffen eu gofal meddygol. Mae angen cymorth a therapi ychwanegol ar bobl eraill yn eu cartref eu hunain am gyfnod byr, gelwir hyn yn Ail-alluogi. Efallai bydd angen cymorth hirdymor parhaus gan rai, naill ai o fewn eu cartref eu hunain neu mewn lleoliad gofal preswyl neu nyrsio.

Ni ddylech gael eich rhyddhau o'r ysbyty hyd nes y byddwch yn feddygol iach a bod asesiadau priodol o’ch anghenion wedi eu cwblhau. Mae hyn oll yn rhan o gynllunio'ch rhyddhad o'r ysbyty er mwyn sicrhau eich bod yn cyrraedd eich dewis leoliad/cartref yn ddiogel gyda'r cymorth cywir.

Gall yr asesiad(au) gael ei/eu gwneud gan nyrs reoli achos neu weithiwr cymdeithasol o’r Cyd-Tîm Rhyddhau o'r Ysbyty a ddarparwyd gan Wasanaethau Cymdeithasol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Gan ddibynnu ar eich anghenion cymorth, gall gweithwyr proffesiynol eraill hefyd fod yn rhan o hyn, megis ffisiotherapydd, therapydd galwedigaethol, nyrs iechyd y meddwl ac ati.

Mae'r Cyd-Tîm Rhyddhau o'r Ysbyty yn cwmpasu’r holl ysbytai lle mae cleifion o Fwrdeistref Sirol Caerffili yn debygol o gael eu derbyn, gan gynnwys:

  • Ysbyty Ystrad Fawr, Ystrad Mynach
  • Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd
  • Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful
  • Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd
  • Ysbyty Neville Hall, Y Fenni 
  • A nifer o ysbytai cymunedol eraill sy’n cefnogi, mewn siroedd cyfagos

Byddwch chi a'ch teulu/ffrindiau yn chwarae rhan lawn yn y broses asesu, a chaiff eich barn sylw teg. Gyda'ch caniatâd, bydd unrhyw bobl arwyddocaol yn eich bywyd hefyd yn cael gwybod a chael cyfle i gyfrannu at gynllunio eich rhyddhad o’r ysbyty. Os hoffech chi dderbyn help wrth roi eich barn, gall eiriolwr annibynnol eich helpu gyda hyn.

 

Cysylltwch â ni