Cymorth ar gyfer anawsterau cyfun gyda'r golwg a'r clyw
Gall anawsterau cyfun gyda'r clyw a'r golwg amrywio o fod yn fyddar a dall i fod yn drwm eich clyw ac yn rhannol ddall.
Bydd y gwasanaeth a gewch yn cael ei ddarparu gan Swyddogion Adsefydlu ar gyfer Nam ar y Golwg.
Mae'r swyddogion hyn yn arbenigwyr ar anawsterau cyfun gyda'r clyw a'r golwg. Byddan nhw'n trafod eich clyw a'ch golwg gyda chi ac unrhyw broblemau sydd gennych ac yn gwneud asesiad arbennig ohonoch.
Nod y gwasanaeth yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau cywir ichi er mwyn ichi fod yn fwy annibynnol yn eich cartref a'ch cymuned.
Mae'r gwasanaeth yn cynnwys:
- cyngor a gwybodaeth - mae hyn yn cynnwys cymorth gyda chyfathrebu, symud a gwybodaeth am wasanaethau lleol
- cyfarpar - gallwn fenthyca cyfarpar arbennig i'ch helpu i ymdopi â cholli eich golwg a'ch clyw
- cymorth ymarferol - mae hyn yn cynnwys cyfathrebwyr ar gyfer apwyntiadau, tywyswyr ar deithiau siopa a gweithgareddau hamdden, cymorth ar gyfer gwasanaethau dydd, help gyda galwadau ffôn a gohebiaeth
- atgyfeiriadau at y gwasanaeth Cefnogi Pobl a gwasanaethau cymorth sy'n ymwneud â thai
I gael rhagor o wybodaeth neu i atgyfeirio rhywun, cysylltwch â'r Tîm Gwybodaeth, Cynghorion a Chymorth.
Efallai y bydd y gwasanaethau canlynol yn ddefnyddiol ichi hefyd: