Cysylltwyr cymunedol

Mae gan Gyngor Caerffili Gysylltwyr Cymunedol sy'n gweithio gydag oedolion ledled y fwrdeistref. Byddant yn ceisio ail-gysylltu pobl â'u cymunedau trwy eu helpu i ddod o hyd i weithgareddau a grwpiau addas, gan gysylltu pobl at ei gilydd sydd â diddordebau tebyg ac annog cyfranogiad o fewn eu cymuned. Mae Cysylltwyr Cymunedol yn anelu at:

  • Hybu llesiant
  • Lleihau unigedd cymdeithasol
  • Helpu pobl i deimlo’n rhan o’r gymuned
  • Hybu annibyniaeth
  • Darparu gwybodaeth a chyngor ar grwpiau a gweithgareddau cymunedol addas

Os hoffech wybod mwy cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni