Ysgolion cynaliadwy ac ADCDF

Mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy yn ymwneud â'r pethau yr ydym yn eu gwneud bob dydd. Mae'n ymwneud â'r materion mawr a bach fel newid hinsawdd, gwrthdaro, pwysau gan ddefnyddwyr a disbyddiad amgylcheddol, a sut maen nhw'n berthnasol i'w gilydd. 

Gall ysgolion wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at ffurfio dyfodol mwy cynaliadwy gan helpu disgyblion, gofalwyr, staff a llywodraethwyr i ddeall ystyr datblygiad cynaliadwy trwy wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd. Gallant wneud hyn drwy'r cwricwlwm y byddant yn ei gyflwyno a'r ffordd mae'r ysgol yn cael ei rhedeg a'i rheoli.

I ysgolion, mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang yn:

  • Rhan o ethos, addysgeg a threfniant yr ysgol
  • Ymwneud â'r neges sy'n gynhenid yn y ffordd mae'r ysgol yn cael ei threfnu a'i rheoli
  • Rhywbeth sydd yn rhaid i'r ysgol 'ei wneud' yn ogystal â'i addysgu
  • Rhywbeth sy'n gofyn am gydweithrediad ar draws yr holl ysgol
  • Rhywbeth y bydd Estyn yn ei arolygu

Eco-Sgolion

Mae'r rhaglen Eco-Sgolion yn fenter ryngwladol, sy'n darparu fframwaith delfrydol i gefnogi datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang mewn ysgolion. Mae Eco-Sgolion yn ymestyn dysgu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth ac yn datblygu agweddau dinasyddiaeth gyfrifol gartref ac yn y gymuned ehangach. Gweinyddir Eco-Sgolion yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus ac fe'i cydlynir yng Nghaerffili gan Swyddog ADC CBSC.

Adnoddau Eco Ysgol:

Rydym wedi casglu amrywiaeth o adnoddau Eco-Ysgol i gefnogi ysgolion sy'n gweithio drwy'r rhaglen Eco-Sgolion.

Am ragor o wybodaeth ewch ar wefan Caerffili Cynaliadwy.