Cwestiynau Cyffredin ynghylch Cludiant i'r Ysgol/Coleg
Ydy fy mhlentyn yn gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol/coleg?
I dderbyn cludiant am ddim i'r ysgol ac oddi yno:
- Rhaid i chi fyw o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
- Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda'r dreth gyngor fel rhywun sy'n byw yn yr eiddo yr ydych yn gwneud cais am gludiant ohono.
- Rhaid i'ch plentyn fynychu ei ysgol 'berthnasol'. Yr ysgol berthnasol yw'r ysgol ddalgylch neu'r ysgol agosaf.
- I blant mewn addysg gynradd, rhaid i'r pellter rhwng eich cartref a'r ysgol fod yn fwy na milltir a hanner – mesurir y pellter yn ôl y llwybr cerdded agosaf sydd ar gael.
- I bob disgybl arall, rhaid i'r pellter rhwng y cartref a'r ysgol fod yn fwy na dwy filltir – mesurir y pellter yn ôl y llwybr cerdded agosaf sydd ar gael.
I dderbyn cludiant am ddim i'r coleg ac oddi yno:
- Rhaid i chi fyw o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
- Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda'r dreth gyngor fel rhywun sy'n byw yn yr eiddo yr ydych yn gwneud cais am gludiant ohono.
- Rhaid i'r myfyriwr fod wedi cofrestru ar gwrs amser llawn.
- Rhaid i'r myfyriwr fod yn 16 oed, yn 17 oed, neu'n 18 oed ar ddechrau ei gwrs.
- Rhaid i'r myfyriwr fod yn mynychu ei sefydliad/coleg dalgylch neu'r lle agosaf i'w gartref sy'n cynnig y cwrs neu gwrs cymharol debyg; bydd swyddogion yn penderfynu ar hyn.
Polisi Cartref ir Ysgol
Sut ydw i’n gwneud cais am gludiant am ddim i’r ysgol/coleg?
Ysgol Gynradd
Rhaid i rieni/gofalwyr wneud cais ar-lein i dderbyn cludiant i ddisgyblion ysgol gynradd.
Sylwch: Os nad ydych wedi derbyn cadarnhad bod eich plentyn wedi cael sedd am ddim ar gludiant ysgol, rhaid i chi wneud eich ffordd eich hun i’r ysgol.
Ysgol Uwchradd
Nid oes angen gwneud cais am gludiant ysgol i ddisgyblion sy'n mynychu ysgol uwchradd am y tro cyntaf ar ddechrau blwyddyn 7. Bydd manylion y disgyblion hyn yn cael eu darparu gan ysgol eich plentyn i'r Uned Trafnidiaeth Integredig (ITU) i'w hasesu yn unol â'r Polisi Cludiant i'r Ysgol. Os yw eich plentyn yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim, bydd y trefniadau teithio angenrheidiol yn cael eu gwneud, a byddwch yn cael gwybod yn ystod tymor yr haf.
Sylwch: Ni fydd rhieni/gofalwyr y disgyblion hynny nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol yn cael eu hysbysu’n awtomatig. Os nad ydych wedi derbyn cadarnhad bod eich plentyn wedi cael sedd am ddim ar gludiant ysgol, rhaid i chi wneud eich ffordd eich hun i'r ysgol.
Yn achos derbyniadau yn ystod y flwyddyn neu drosglwyddiadau i ysgolion uwchradd, dylech wneud cais am gludiant.
Coleg
Rhaid i ddysgwyr neu rieni/gofalwyr wneud cais ar-lein i dderbyn cludiant i'r coleg.
Oes angen i fy mhlentyn gadw ei docyn bws?
Oes, PEIDIWCH â thaflu’r tocyn bws. Bydd angen i’ch plentyn ddangos ei docyn bws i’r gyrrwr bob dydd cyn pob taith am weddill ei gyfnod mewn addysg.
Sylwch: Ni roddir tocynnau bws i ddisgyblion oed ysgol gynradd. Bydd gyrwyr bysiau yn cael rhestrau o ddisgyblion sydd â hawl (enw yn unig) i sicrhau mai dim ond y rhai y cadarnhawyd eu bod yn gymwys sy'n cael teithio.
Beth os caiff tocyn bws/trên fy mhlentyn ei golli neu ei ddifrodi?
Os bydd tocyn bws/trên yn cael ei golli neu ei ddwyn neu ei ddinistrio, dim ond ar ôl derbyn tâl bychan y bydd un arall yn cael ei roi.
- £10.00 am newid tocyn trên a bws
I drefnu tocyn bws neu docyn trên arall dylech gysylltu â’r llinell dalu ar 01443 866570.
Beth os nad yw fy mhlentyn wedi derbyn tocyn bws neu lythyr awdurdodi?
Os nad ydych wedi llenwi’r ffurflen derbyn i’r ysgol er mwyn i’ch plentyn fynychu’r ysgol o’ch dewis, yna bydd angen i chi wneud hynny drwy gysylltu â’r tîm derbyn i ysgolion.
Os ydych wedi llenwi’r ffurflen derbyn i’r ysgol ac wedi derbyn llythyr yn cadarnhau eu lle yn yr ysgol, yna bydd angen i chi gysylltu â’r tîm cludiant ysgol.
A all fy ysgol ofyn i’r darparwr trafnidiaeth ganiatáu i’m plentyn deithio heb docyn bws?
Na - Mae seddi wedi'u dyrannu i ddisgyblion cymwys. Os yw dysgwyr ychwanegol yn teithio, yna gallai hyn arwain at orlenwi'r bws.
A all ffrind fy mhlentyn deithio ar y bws ysgol gyda nhw er nad ydynt yn gymwys?
Na - Mae seddi wedi'u dyrannu i ddisgyblion cymwys. Os yw dysgwyr ychwanegol yn teithio, yna gallai hyn arwain at orlenwi'r bws.
Beth os ydym ni’n symud i gyfeiriad newydd?
Os ydych wedi symud cartref yn ddiweddar, bydd angen i chi roi gwybod i'r Uned Trafnidiaeth Integredig, a byddant yn gwirio'r cyfeiriad yn erbyn y meini prawf cymhwyster am gludiant. Os yw eich plentyn yn gymwys, gwneir y trefniadau cludiant priodol.
Os ydym yn symud i gyfeiriad newydd, beth os nad yw fy mhlentyn yn byw yn nalgylch ei ysgol bresennol mwyach?
Os byddwch yn symud i gyfeiriad y tu allan i ardal leol yr ysgol/coleg y darparwyd cludiant iddo, ni fyddwch yn parhau i dderbyn cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol. Gallwch ganfod eich Ysgol Ddalgylch Ar-lein.
Gwiriwr Dalgylchoedd Ysgol
Os ydym yn symud i gyfeiriad newydd, beth os nad yw fy mhlentyn yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd mwyach?
Os byddwch yn symud i gyfeiriad sy'n agosach na'r 1.5 milltir (disgyblion cynradd) a 2 filltir (disgyblion uwchradd) i'r ysgol/coleg y darparwyd cludiant iddo, ni fyddwch yn parhau i dderbyn cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol.
Sut mae dewis rhieni o ysgol yn effeithio ar yr hawl i gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol?
Os dewiswch le i’ch plentyn mewn ysgol heblaw'r ysgol agosaf neu'r ysgol ddalgylch, yna chi sy'n gwbl atebol am drefnu a thalu cost y cludiant i'r ysgol ddewisol.
Mae fy mhlentyn yn 19 oed. A ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim i’r ysgol/coleg?
Ni ddarperir cludiant i ddysgwyr y tu hwnt i'r ail flwyddyn academaidd ar ôl diwedd addysg orfodol. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir darparu cludiant tan ddiwedd y flwyddyn academaidd pryd y mae'r dysgwr yn cyrraedd ei ben-blwydd yn 19 oed. Cyfrifoldeb y dysgwr yw trefniadau teithio ar gyfer unrhyw bresenoldeb dilynol.
A allaf wneud cais am gymorth cludiant ysgol os nad yw fy mhlentyn yn gymwys?
Bydd y Cyngor yn cadw'r hawl, gan ddefnyddio pwerau priodol, i sicrhau bod unrhyw leoedd dros ben sydd ar gael ar lwybr cludiant ysgol contract presennol, yn amodol ar argaeledd, ar gyfer dysgwyr nad ydynt yn gymwys i dderbyn cludiant ysgol am ddim i'w hysgol berthnasol (yn unig).
Gwybodaeth am Deithiau Bysiau
Sut gallaf gael gwybodaeth am amseroedd bysiau ysgol a mannau codi?
Mae manylion yr holl lwybrau cludiant i’r ysgol, darparwyr cludiant, mannau codi ac amseroedd ar gael.
I gael manylion am lwybrau masnachol eraill sydd ar gael i’r disgyblion hynny nad oes ganddynt hawl i gludiant ysgol am ddim, ewch i wefan Traveline Cymru. Mae'r wefan yn darparu gwybodaeth am amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus ac yn eich galluogi i gynllunio'ch taith hefyd.
Ar ba fath o gludiant y bydd fy mhlentyn yn cael ei gludo?
Ym mhob achos, bydd defnydd effeithlon o adnoddau yn pennu’r dull o deithio a ddarperir (yn amodol ar unrhyw anghenion ychwanegol). Gellir darparu cludiant trwy wasanaethau cludiant ysgol wedi’u contractio neu wasanaethau cludiant cyhoeddus presennol a fydd, ynghyd â maint a math y cludiant (bws, bws mini, trên, tacsi, ac ati), yn cael eu pennu gan effeithiolrwydd cost.
A ddarperir cludiant ysgol o'r cartref i'r ysgol?
Fel arfer, ni ddarperir cludiant ysgol o gyfeiriad cartref y disgybl, ond yn hytrach o fan codi cymeradwy ar y prif lwybrau cludiant.
Pa mor hir ddylai fy mhlentyn orfod aros am y cludiant ysgol?
Gofynnir i ddisgyblion fod yn y safle bws dynodedig 10 munud cyn yr amser casglu a drefnwyd ac aros hyd at 20 munud ar ôl yr amser gadael a nodwyd ar yr amserlen. Dylid nodi mai brasamcan o'r amseroedd hyn yn unig yw'r rhain, a gallant amrywio yn ôl amrywiadau yn llif y traffig.
Pa mor hir ddylai'r daith i’r ysgol ei chymryd?
Nid yw'r Cyngor yn pennu terfyn amser ar gyfer teithiau. Fodd bynnag, dylai amseroedd teithio fod yn rhesymol, gan ystyried oedran ac anghenion unigol y dysgwyr, a natur, pwrpas ac amgylchiadau pob taith. Lle mae rhieni/gofalwyr yn mynegi dewis i’w plant fynychu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir (ysgolion ffydd) neu ysgolion Cymraeg/dwyieithog sydd gryn bellter i ffwrdd o’u cartrefi, gall teithiau fod yn hirach yn gyffredinol.
A all fy mhlentyn gael ei gludo i unrhyw gyfeiriad arall heblaw am y cyfeiriad cartref?
Na - Darperir cludiant i ac o'r cyfeiriad cartref neu'r safle bws cydnabyddedig agosaf yn unig. Ni awdurdodir unrhyw gyfeiriad neu fan gollwng arall.
A all fy mhlentyn ddefnyddio gwasanaeth gwahanol i'r un sydd wedi'i ddyrannu?
Na - Mae gan bob cerbyd ysgol rif contract unigol a dim ond disgyblion sydd wedi cael tocyn neu awdurdodiad ar gyfer y cerbyd hwnnw gaiff deithio. Bydd unrhyw un arall yn cael ei droi ymaith gan y gyrrwr.
A oes angen i mi fod yn bresennol i dderbyn fy mhlentyn oddi ar gludiant ysgol?
Oes – yn achos disgyblion cynradd yn unig. Mae'n ofynnol i chi, neu oedolyn cyfrifol, fod ar gael o leiaf 10 munud ynghynt na’r amseroedd casglu a gollwng y cytunwyd arnynt, fel y nodir ar amserlen y bws ysgol, i drosglwyddo neu dderbyn eich plentyn oddi ar gludiant ysgol. Yn ogystal, rhaid i rieni hysbysu'r cynorthwyydd teithwyr ar y cerbyd os bydd person arall yn casglu eu plentyn o'r cerbyd yn y prynhawn.
Os na fydd rhieni/gofalwyr ar gael yn y safle bysiau, cynghorir darparwyr cludiant bod disgyblion i gael eu dychwelyd i’r ysgol neu eu cludo i fan diogel, er enghraifft, yr orsaf heddlu neu swyddfa gwasanaethau cymdeithasol agosaf.
Os na fydd rhieni ar gael i gasglu eu plentyn, yna gellir dileu'r gwasanaeth cludiant iddynt dros dro hyd nes y bydd trefniadau priodol yn eu lle i oedolyn cyfrifol gasglu'r plentyn.
Dylai rhieni/gofalwyr nodi hefyd na chaniateir i ddarparwyr cludiant dderbyn cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu lafar sy’n caniatáu i’w plentyn gael ei ollwng yn y safle heb oruchwyliaeth.
A oes gwregysau diogelwch wedi'u gosod ar bob bws ysgol?
Mae gwregysau diogelwch wedi'u gosod ar bob llwybr bws ysgol dan gontract. Rhaid i bob plentyn wisgo gwregys diogelwch wrth deithio i'r ysgol ac adref. Bydd y cynorthwyydd teithwyr yn cynorthwyo plant oed cynradd lle bo angen i sicrhau eu bod yn eistedd yn gyfforddus a sicrhau eu bod yn gwisgo eu gwregysau diogelwch mewn modd priodol.
Cludiant i Blant ag Anghenion Ychwanegol
A oes gan fy mhlentyn hawl i gludiant anghenion addysgol arbennig?
Darperir cludiant am ddim i bob disgybl sy'n mynychu Canolfannau Adnoddau Arbennig a'n Hysgol Arbennig - Ysgol Cae'r Drindod a'r Ganolfan Adnoddau, nad ydynt yn cael eu cynnal yn eu hysgolion eu hunain, waeth beth fo'u pellter ac amgylchiadau teuluol. Mae darpariaeth arbennig yn cynnwys dosbarthiadau i blant ag anawsterau dysgu dwys a lluosog, anableddau corfforol ac anawsterau dysgu ychwanegol, anghenion dysgu cymhleth, nam ar y clyw, anawsterau lleferydd ac iaith, cyfathrebu cymdeithasol ac awtistiaeth, anawsterau ymddygiad, ac unedau cyfeirio disgyblion.
A oes angen i mi wneud cais am gludiant fy mhlentyn?
Nac oes. Unwaith y bydd derbyniad eich plentyn wedi'i gadarnhau gan banel Mynediad a Chynhwysiant y Cyngor, byddant yn hysbysu'r Uned Trafnidiaeth Integredig.
Pryd fyddaf yn cael gwybod am drefniadau cludiant fy mhlentyn?
Ar ôl derbyn hysbysiad gan y gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, bydd yr Uned Trafnidiaeth Integredig yn ymdrechu i drefnu'r cludiant mwyaf addas o fewn 3 wythnos. Lle ceir oedi y tu hwnt i hyn, bydd yr Uned Trafnidiaeth Integredig yn cysylltu â'r rhiant/gofalwr i roi diweddariad.
Bydd llythyr neu e-bost yn cael ei anfon at rieni/gofalwyr pan fydd y cludiant wedi ei drefnu. Mae'r llythyr hwn yn nodi pa ddarparwr cludiant fydd yn cludo'ch plentyn a hefyd yn rhoi ei rif ffôn. Os oes angen cludiant ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, bydd y tîm cludiant ysgol yn trefnu ac yn eich cynghori yn ystod gwyliau'r haf.
Pa fath o gludiant fydd yn cael ei ddarparu?
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu'r system gludiant orau a mwyaf priodol a fydd yn cludo dysgwyr yn ddiogel, yn gyfforddus a heb lefelau afresymol o straen. Darperir cludiant yn gyffredinol gan dacsi neu fws mini dan gontract, ond os yw'n fwy cost effeithiol i wneud hynny, efallai y cynigir ad-daliad tanwydd i rieni.
Fel rhiant neu ofalwr plentyn sy'n mynd i ysgol/dosbarth AAA, beth ydw i'n gyfrifol amdano?
Dylai rhieni neu ofalwyr fod yn ymwybodol y darperir cludiant i ac o'r cyfeiriad cartref yn unig ac ni fydd unrhyw fan codi a gollwng arall yn cael ei awdurdodi. Eich cyfrifoldeb chi yw mynd â'ch plentyn i'r cerbyd ac oddi yno.
Gwneir pob ymdrech i gasglu/gollwng eich plentyn ar ymyl y ffordd y tu allan i'ch cartref. Dylai rhieni neu ofalwyr felly fod yn barod o leiaf 10 munud cyn yr amser casglu/gollwng a nodir gan y contractwr. Os na fydd rhieni neu ofalwyr yn y cyfeiriad cartref i dderbyn eu plentyn, yna yn anffodus, cynghorir contractwyr i fynd â disgyblion i fan diogel, er enghraifft yr orsaf heddlu neu swyddfa gwasanaethau cymdeithasol agosaf.
A fyddaf yn cwrdd â'r gyrrwr a'r cynorthwyydd teithwyr cyn i'm plentyn ddechrau'r ysgol?
Cyfarwyddir pob gyrrwr a chynorthwyydd teithwyr i gwrdd â phob disgybl newydd a’u rhieni/gofalwyr cyn iddynt gael eu cludo i’r ysgol. Ar yr adeg hon, byddant hefyd yn cadarnhau amseroedd casglu a gollwng.
Beth os nad yw fy narparwr cludiant newydd wedi ymweld â mi a'm plentyn?
Bydd angen i chi roi gwybod i’r Uned Trafnidiaeth Integredig os yw’r darparwr trafnidiaeth wedi methu â threfnu dyddiad i ymweld â chi, naill ai drwy roi gwybod am y broblem ar-lein neu ffonio 01443 815588.
Mae’r gyrrwr a/neu’r cynorthwyydd teithwyr yn newid yn gyson, sy’n peri gofid i fy mhlentyn. Beth ddylwn i ei wneud?
Mae dilyniant a pharhad gyrwyr a chynorthwywyr teithwyr yn bwysig, yn enwedig wrth gludo disgyblion ag anghenion arbennig. Gofynnwn i’n holl ddarparwyr trafnidiaeth gadw newidiadau i yrwyr a chynorthwywyr teithwyr i’r lleiaf posibl, a pheidio â defnyddio gyrwyr a chynorthwywyr teithwyr amgen heblaw pan fo raid ar adegau o salwch a gwyliau. Os byddwch yn gweld bod y gyrrwr a/neu’r cynorthwyydd teithwyr yn newid yn rheolaidd, rhowch wybod i’r Uned Trafnidiaeth Integredig naill ai drwy gysylltu ar-lein neu drwy ffonio 01443 815588.
Pam mae darparwr cludiant fy mhlentyn yn newid?
O bryd i'w gilydd, mae'n angenrheidiol i'r darparwr trafnidiaeth newid. Bydd unrhyw newidiadau i gludiant ysgol yn cael eu cyfleu i rieni/gofalwyr a’r ysgol ar unwaith a bydd cyn lleied o aflonyddwch â phosibl i’r plentyn.
A allaf gadw darparwr cludiant presennol fy mhlentyn?
Wrth dendro am gontractau cludiant ysgol, rhaid i'r Cyngor sicrhau ei fod yn cadw at y ddeddfwriaeth gaffael berthnasol. O'r herwydd, efallai na fydd bob amser yn bosibl cadw at eich darparwr cludiant blaenorol.
Beth sydd angen i mi ei wneud os yw fy mhlentyn yn sâl neu ddim yn mynychu'r ysgol?
Os na fydd eich plentyn yn mynychu'r ysgol, oherwydd salwch neu resymau eraill, yna mae angen i chi gysylltu â'ch darparwr cludiant i'w hysbysu cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn osgoi unrhyw deithiau diangen. Os bydd eich plentyn yn teithio ar ei ben ei hun, neu os bydd yr absenoldeb yn parhau am fwy na 5 diwrnod, rhowch wybod i’r Uned Trafnidiaeth Integredig hefyd drwy ffonio 01443 815588. Bydd angen i chi hefyd gysylltu â’r ysgol i roi gwybod iddynt am yr absenoldeb.
Beth sydd angen i mi ei wneud os ydym yn symud i gyfeiriad newydd?
Os byddwch yn symud cyfeiriad, bydd angen i chi roi gwybod i'r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, a fydd yn penderfynu a yw'ch plentyn yn dal yn gymwys i fynychu'r un ysgol a dosbarth cymorth dysgu. Pan gaiff yr hawl ei chadarnhau, bydd yr Uned Trafnidiaeth Integredig yn adolygu eich cais blaenorol am gludiant ac yn ceisio sefydlu'r trefniant cludiant mwyaf addas. Gall hyn gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith.
Fel rhiant neu ofalwr plentyn sy'n teithio mewn cadair olwyn neu fygi, am beth ydw i'n gyfrifol?
Fel rhiant/gofalwr, mae'n ofynnol i chi sicrhau bod y gadair olwyn/bygi yn cael ei chynnal a'i chadw'n briodol ac yn addas ar gyfer cludiant. Dylid trafod y wybodaeth hon hefyd gyda'r darparwr cludiant pan fyddwch yn ei gyfarfod.
Os na fydd yr offer yn cyrraedd safon resymol, gellir tynnu cludiant yn ôl nes bod y gadair olwyn/bygi yn cyrraedd y safon diogelwch gofynnol.