Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd
Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae cynghorau ledled Cymru yn ehangu argaeledd prydau ysgol am ddim, gan ddechrau gyda’u dysgwyr ieuengaf. Y nod yw y bydd pob disgybl ysgol gynradd yn gallu cael cinio ysgol am ddim erbyn 2024.
O fis Medi 2022, bydd Caerffili yn cynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl yn y Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol.
O 7 Tachwedd 2022 bydd Blwyddyn 2 a phob disgybl oedran meithrin cofrestredig sy’n mynychu ysgol a gynhelir am sesiwn amser llawn, hy yn mynychu meithrinfa AM a PM, yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim pan fyddant yn bresennol ar y diwrnodau hynny
Cwestiynau Cyffredin
Cwestiynau ac atebion cyffredin
Cwestiynau Cyffredin
Amserlen gweithredu’r cynllun yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Meithrin: 3 - 4 oed
Dyddiad cychwyn disgwyliedig y cynllun: 7 Tachwedd 2022
Sylwadau: Bydd yr holl ddisgyblion cofrestredig o oedran meithrin sy’n mynychu ysgol a gynhelir am o leiaf dwy sesiwn a ariennir bob wythnos (ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos) yn gymwys am brydau ysgol am ddim pan fyddan nhw’n bresennol ar y dyddiau hynny.
Derbyn: 4 - 5 oed
Dyddiad cychwyn disgwyliedig y cynllun: 2 September 2022
Sylwadau: Noder gall y dyddiadau hyn newid yn ddibynnol ar unrhyw amgylchiadau annisgwyl a allai godi.
Blwyddyn 1: 5 - 6 oed
Dyddiad cychwyn disgwyliedig y cynllun: 2 September 2022
Sylwadau: Noder gall y dyddiadau hyn newid yn ddibynnol ar unrhyw amgylchiadau annisgwyl a allai godi.
Blwyddyn 2: 6 - 7 oed
Dyddiad cychwyn disgwyliedig y cynllun: 7 November 2022
Sylwadau: Noder gall y dyddiadau hyn newid yn ddibynnol ar unrhyw amgylchiadau annisgwyl a allai godi.
Blwyddyn 3: 7 - 8 oed
Dyddiad cychwyn disgwyliedig y cynllun: September 2023
Sylwadau: I ddisgyblion sy’n mynychu Ysgolion Arbennig – bydd cymhwysedd ar gyfer y cynllun yn seiliedig ar y grŵp blwyddyn y mae’r disgyblion yn cael eu haddysg ynddo ar hyn o bryd, nid eu grŵp blwyddyn o ran oedran na’u grŵp blwyddyn Cwricwlwm Cenedlaethol ‘disgwyliedig’. Noder gall y dyddiadau hyn newid yn ddibynnol ar unrhyw amgylchiadau annisgwyl a allai godi.
Blwyddyn 4: 8 - 9 oed

Blwyddyn 5: 9 - 10 oed
Dyddiad cychwyn disgwyliedig y cynllun: September 2023
Sylwadau: I ddisgyblion sy’n mynychu Ysgolion Arbennig – bydd cymhwysedd ar gyfer y cynllun yn seiliedig ar y grŵp blwyddyn y mae’r disgybl yn cael eu haddysg ynddo ar hyn o bryd, nid eu grŵp blwyddyn o ran oedran na’u grŵp blwyddyn Cwricwlwm Cenedlaethol ‘disgwyliedig’. Noder gall y dyddiadau hyn newid yn ddibynnol ar unrhyw amgylchiadau annisgwyl a allai godi.
Blwyddyn 6: 10 - 11 oed

Blwyddyn 7 - Blwyddyn 13: 11 - 18 oed
Dyddiad cychwyn disgwyliedig y cynllun: Ddim yn berthnasol
Sylwadau: Nid yw’r cynllun yn berthnasol i’r grwpiau blwyddyn hyn.