Arholiadau cerddoriaeth
Os ydych wedi bod yn dysgu cerddoriaeth am beth amser, efallai y bydd eich athro yn argymell eich bod yn sefyll arholiad. Mae Arholiadau Cerdd â Gradd yn rhan bwysig o addysg a datblygiad cerddorol, ac fe'u cydnabyddir fel rhan o'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol. Mae arholiadau Gradd 5 ac uwch gyfwerth â phwyntiau UCAS, a fydd yn cyfrannu at achrediad mynediad i Brifysgol.
Mae Gwasanaeth Cerdd Caerffili yn cynnal dwy sesiwn arholi leol bob blwyddyn, fel arfer ym mis Mai a mis Rhagfyr. Gosodir y ffioedd am sefyll yr arholiadau gan fyrddau arholi - The Associated Board of the Royal Schools of Music (ABRSM), Trinity Guildhall and Rockschool.
Byddwch yn cael tystysgrif am lwyddo mewn arholiad.
Os byddwch yn dysgu sut i chwarae offeryn cerddorol a hoffech sefyll arholiad cerddoriaeth, dylech drafod hyn yn gyntaf gyda'ch athro cerdd a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am gostau, pryd a lle y cynhelir yr arholiadau, ac i bwy y dylid anfon y cais a'r taliad.
Gallwch chi neu'ch rhieni hefyd gysylltu â Gwasanaeth Cerdd Caerffili i gael rhagor o fanylion.