Prynu offeryn cerdd

Os yw eich plentyn yn cael gwersi cerddoriaeth mewn ysgol ym mwrdeistref sirol Caerffili, gallwn gynnig cyfle i chi brynu offeryn heb dalu unrhyw dreth ar werth (TAW). Gelwir y cynllun yn Gynllun Cymorth Prynu Offeryn Cerdd (MIPS). 

Gwneir MIPS yn bosibl drwy drefniant rhwng Gwasanaeth Cerdd Caerffili, Gwasanaeth Caffael Caerffili a Chyllid a Thollau EM.

Mae'r meini prawf cymhwysedd fel a ganlyn: -

  • Rhaid i'r myfyriwr fynd i ysgol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili
  • Rhaid bod y myfyriwr yn cael gwersi yn yr ysgol
  • Rhaid bod yr offeryn yn addas ar gyfer anghenion y myfyriwr
  • Rhaid i'r offeryn fod yn gludadwy - ac yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd ar gyfer gwersi yn yr ysgol
  • Rhaid i'r offeryn gael ei roi i'r disgybl / rhiant gan Wasanaeth Cerdd Caerffili
  • Rhaid codi tâl Gwasanaeth Cerdd Caerffili am yr offeryn neu dâl llai heb gynnwys cost TAW

Os oes gennych ddiddordeb yn y cynllun, trafodwch hyn gyda'ch athro. Os yw eich athro o'r farn y byddai'n fuddiol i chi gael eich offeryn eich hun, gofynnwch i'ch rhieni gysylltu â Gwasanaeth Cerdd Caerffili i gael rhagor o fanylion.