FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Nid yw rhai o'n ffurflenni ar-lein ar gael ar hyn o bryd wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

ONLINE FORMS: Some of our online forms are currently unavailable whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Ysbrydoli i Weithio

Mae Ysbrydoli i Weithio yn brosiect cyffrous i bobl yn ardal Caerffili i’w helpu i gael gwaith.

Ble mae ar gael?

Mae'r prosiect ar gael yn yr ardaloedd canlynol:

  • Caerffili - 01495 237921 email inspire2work@caerphilly.gov.uk
  • Blaenau Gwent - 01495 357836
  • Pen-y-bont ar Ogwr - 01656 642697
  • Merthyr Tudful - 01685 725461
  • Torfaen - 01495 766053
  • Rhondda Cyncon Taf - 01443 425373

Ar gyfer pwy yw e?

Mae ar gael i bob person ifanc 16-24 oed nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth ac sy'n byw mewn ardal nad yw'n ardal Cymunedau yn Gyntaf.

Beth gall ei gynnig i chi? 

Mae'n rhoi hwb i unigolion a chyfleoedd ar gyfer gwella sgiliau mewn meysydd y mae cyflogwyr yn galw amdanynt..

  •  Cefnogaeth unigol gyda'ch cynghorydd
  • Cefnogaeth i wella'ch hyder, eich cymhelliant a'ch hunan-barch
  • Cyrsiau galwedigaethol am ddim
  • Cefnogaeth ychwanegol i'r rhai sy'n wynebu rhwystrau rhag gweithio, fel cyflyrau iechyd sy'n cyfyngu ar waith, anghenion gofal plant a thrafnidiaeth

Rhagor o wybodaeth

Ffoniwch ni heddiw 01495 237921.