FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Nid yw rhai o'n ffurflenni ar-lein ar gael ar hyn o bryd wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

ONLINE FORMS: Some of our online forms are currently unavailable whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Pontydd i Waith 2

Mae Pontydd i Waith 2 yn brosiect cyffrous yn ardal Caerffili i helpu pobl i gael gwaith. 

Ble mae ar gael?

Mae’r prosiect ar gael yn yr ardaloedd canlynol:

  • Caerffili - 01495 237921 | Ebost pontyddiwaith@caerffili.gov.uk 
  • Torfaen - 01633 647743
  • Blaenau Gwent - 01495 355299
  • Pen-y-bont ar Ogwr - 01656 815317
  • Merthyr Tudful - 01685 727099

Ar gyfer pwy yw e?

Mae ar gael i’r holl breswylwyr sydd: -

  • Yn ddi-waith am fwy na blwyddyn

Neu

  • Yn Economaidd Anweithgar (ddim yn gweithio neu’n hawlio budd-dal)

Beth all ei gynnig i chi?

Gallwn eich helpu i wella’ch sgiliau ac ennill cymwysterau sy’n ofynnol gan gyflogwyr. Gallwn ni helpu gyda:

  • Hunan-barch a hyder
  • Opsiynau gyrfaol
  • Sgiliau chwilio am waith
  • Ffurflenni cais
  • Ysgrifennu ac adeiladu CV
  • Llythyrau eglurhaol
  • Hyfforddiant
  • Cymwysterau FfCCh
  • Profiad gwaith
  • Technegau cyfweld

Am ragor o wybodaeth

Cysylltwch â ni heddiw 01495 237921.