Cwestiynau Cyffredin Ymgynghori
Fel yr amlinellir yn nogfen ymgynghori Ysgolion yr 21ain Ganrif, o 21 Meditan 28 Medi 2020, roedd tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif ar gael i ateb eich ymholiadau a choladu rhestr ohonyn nhw ar ffurf dogfen 'Cwestiynau Cyffredin'.
Cwestiynau Cyffredin - Mewn perthynas â'r cynnig i ehangu Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod
Cafwyd 1 cwestiwn.
Cwestiwn: Pryd fydd y gwaith wedi'i orffen? - Disgybl Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod
Ateb: Mae'r cynnig i ehangu safle presennol Ysgol a Chanolfan Adnoddau Cae'r Drindod, trwy estyniad newydd i'r adeilad a gofod chwarae awyr agored. Y dyddiad cwblhau disgwyliedig yw Medi 2023, fel y nodwyd yn y ddogfen ymgynghori.
Cwestiynau Cyffredin - Mewn perthynas â'r cynnig i adleoli Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon
Cafwyd 0 cwestiwn
Yn ychwanegol, mae'r tîm wedi bod yn dadansoddi'r ffurflenni ymateb i'r ymgynghoriad a gafwyd hyd yma ac wedi darganfod nifer o themâu sy’n cael eu hailadrodd e.e. rhanddeiliaid a gweithdrefnau cynllunio. Trwy hyn, mae wedi dod yn amlwg bod lefel o ddryswch mewn perthynas â phrosesau statudol ac ar hyn o bryd hoffem ailddatgan bod yr Awdurdod Addysg Lleol yn dilyn y broses ymgynghori yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru fel y nodwyd yn Gorchymyn y Trefniadaeth Ysgolio 2018.
Bydd Adran Gwasanaethau Eiddo'r Awdurdod yn cynnal proses ceisiadau cynllunio ar wahân maes o law.