Arwyddion traffig ac arwyddion stryd
Os ydych wedi dod ar draws golau, arwydd neu signal traffig sydd wedi torri, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu trefnu ei fod yn cael ei atgyweirio.
Er enghraifft
- Mae arwyddion traffig yn cynnwys pob arwydd sy’n rhoi gwybodaeth gyfeiriadol. Fel rheol, caiff arwyddion traffig eu gosod ar bolion neu bontydd arwyddion wrth ymyl y ffordd, neu yn y llain ganol ar ffordd ddeuol.
- Mae goleuadau traffig yn rheoli llif cerbydau ar y ffordd. Goleuadau traffig yw’r goleuadau coch-melyn-gwyrdd cyfarwydd ar bolion neu bontydd uwchben, sydd i’w gweld gan amlaf ar gyffyrdd.
- Mae goleuadau croesfannau cerddwyr yn cynnwys set o oleuadau traffig yn ogystal â chyfleuster sy’n dangos, drwy olau coch neu wyrdd, pryd y mae’n ddiogel i gerddwyr groesi’r ffordd wrth groesfan pelican.
- Goleuadau Belisha yw goleuadau melyn sy’n fflachio ar ben polion â streipiau du a gwyn wrth ymyl croesfan cerddwyr.
- Pileri bach â golau y tu mewn iddynt yw bolardiau wedi’u goleuo, ac yn aml cânt eu gosod yng nghanol y ffordd neu wrth gyffyrdd ac maent yn cynnwys saeth sy’n dangos i yrwyr pa gyfeiriad y dylent fynd iddo er mwyn pasio’r bolard.
- Mae signalau gwybodaeth i yrwyr yn cynnwys unrhyw arwyddion eraill, dros dro neu barhaol, sy’n rhoi gwybodaeth neu gyfarwyddiadau i ddefnyddwyr ffyrdd. Maent yn cynnwys, er enghraifft, goleuadau traffig neu arwyddion ffyrdd dros dro, neu arwyddion awtomatig sy’n dweud wrth ddefnyddiwr ffordd pa mor gyflym y mae ei gerbyd yn teithio.
Fel arall, ffoniwch dîm gofal cwsmer yr adran briffyrdd.