Paratoi ar gyfer llifogydd

Mae’r digwyddiadau o lifogydd difrifol yr ydym wedi eu gweld ledled y DU dros y blynyddoedd diwethaf yn ein hatgoffa o effeithiau dinistriol llifogydd ar ein bywydau, ein cartrefi, teithio a’n gwaith.

Nid yw ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn wahanol i weddill y DU, ac mae bron pob lleoliad yn gallu bod mewn perygl o gael llifogydd, hyd yn oed os nad ydych yn byw ger afon.

Gall llifogydd ddigwydd yn gyflym iawn felly nawr yw’r amser i feddwl am y peth ac nid aros nes ei fod wedi digwydd. Os ydych wedi paratoi’n ofalus byddwch mewn sefyllfa well i ymdopi os bydd yn digwydd i chi neu eich teulu.

Beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd

Byddwch yn barod

  • Y cam cyntaf wrth baratoi yw darganfod os ydych mewn perygl o lifogydd. Gallwch gael gwybod os yw eich eiddo mewn perygl drwy fynd i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru neu drwy ffonio llinell gymorth Floodline ar 0345 9881188.

  • Os ydych yn byw neu’n gweithio mewn ardal sydd mewn perygl o gael llifogydd, mae’n bosibl y gallwch gofrestru ar gyfer derbyn ‘Rhybudd Llifogydd Uniongyrchol’ a chael rhybudd ymlaen llaw am lifogydd yn rhad ac am ddim. Ffoniwch linell gymorth llifogydd Floodline i weld os oes rhybuddion ar gael yn eich ardal.

  • Dylech ddiweddaru eich ‘Cynllun Argyfwng yn y Cartref’ fel bod eitemau a gallech fod eu hangen yn ystod llifogydd yn cael eu cynnwys. Gallai’r rhain gynnwys, lleoliadau eich prif gyflenwad nwy, trydan a dŵr; manylion cyswllt ar gyfer pobl y mae angen i chi gysylltu â nhw mewn argyfwng; a rhifau polisi yswiriant. Ar ôl ei gwblhau, dylech gadw eich cynllun llifogydd mewn rhywle diogel a hawdd i’w gyrraedd ac mewn ffolder sy’n dal dŵr. Fel arall, gallech baratoi ‘Cynllun Llifogydd Personol’ ar wahân. Mae gan wefan Cyfoeth Naturiol Cymru dempled pwrpasol y gallwch ei lawrlwytho.

  • Dylech gynnwys eitemau ychwanegol yn eich ‘Pecyn Argyfwng yn y Cartref’ fel menig rwber, esgidiau glaw a dillad sy’n dal dŵr.

  • Efallai y bydd angen i chi adael eich cartref yn ystod digwyddiad o lifogydd, felly gwnewch yn siŵr bod eich ‘Bag Argyfwng’ yn gyfredol ac o fewn cyrraedd hawdd.

  • Os nad oes gennych ‘Gynllun Argyfwng Cartref’; ‘Pecyn Argyfwng yn y Cartref’ neu ‘Bag Argyfwng’ eisoes, ewch i’r tudalennau Cynllunio at Argyfwng ar wefan y Cyngor, lle cewch lyfryn o’r enw ‘Beth i’w wneud mewn argyfwng...’ sy’n rhoi cyngor syml ar y camau y gallwch eu cymryd er mwyn eich cadw chi a’ch teulu’n ddiogel, yn ogystal ag egluro beth y mae’r Cyngor ac asiantaethau eraill yn ei wneud i baratoi ar gyfer argyfyngau mawr.

  • Gwnewch arolwg o’ch cartref i nodi’r ffyrdd y gall dŵr llifogydd ddod i mewn i’r eiddo a meddyliwch am ffyrdd i atal hyn rhag digwydd yn ystod llifogydd. Er enghraifft, gallech ystyried cadw bagiau tywod a llenni plastig wrth law i’w rhoi o flaen mynedfeydd eich eiddo. Gallech hefyd ystyried prynu byrddau llifogydd fel dull arall o atal dŵr. Er na all y Cyngor gymeradwyo unrhyw gynnyrch penodol i amddiffyn rhag llifogydd, mae’r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol wedi cynhyrchu ‘Tudalennau Glas’ sef cyfeiriadur o gynnyrch a gwasanaethau llifogydd eiddo sydd wedi ei lunio i roi cyngor a gwybodaeth i chi am yr amrywiaeth o gynnyrch sydd ar gael er mwyn helpu i leihau’r perygl llifogydd i’ch cartref neu’ch busnes.

Mae’r cyngor yn cydnabod mai perchennog yr eiddo preifat sydd â’r prif gyfrifoldeb i ddiogelu’r eiddo rhag perygl llifogydd. Mae hefyd yn ymwybodol o’r ymdrechion sylweddol a wnaed gan Gyfoeth Naturiol Cymru i roi gwybod i berchnogion eiddo mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd o’r risg sy’n eu hwynebu a’u hannog i gynllunio eu trefniadau eu hunain i ddiogelu eu hunain a’u heiddo.

Mae’r cyngor yn cefnogi’r dull gweithredu hwn ac mae’n annog y rhai sy’n byw mewn ardaloedd y nodwyd eu bod mewn perygl o lifogydd i ddilyn cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru. Mewn achos o berygl o lifogydd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae angen i berchnogion eiddo fod yn ymwybodol efallai na fydd gan y Cyngor yr adnoddau angenrheidiol i gefnogi perchnogion eiddo sydd mewn perygl, ac y bydd angen blaenoriaethu. Yn anorfod, gall hyn olygu y bydd peth eiddo yn dioddef llifogydd, ond gyda mesurau ataliol wedi eu cynllunio ymlaen llaw gan y preswylydd, mae modd osgoi neu leihau effaith unrhyw lifogydd.

Beth i’w wneud yn ystod llifogydd

  • Rhowch eich cynllun ‘Argyfwng yn y Cartref’ neu ‘Gynllun Llifogydd Personol’ ar waith.
  • Ffoniwch Rybudd Llifogydd Uniongyrchol i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer eich ardal.
  • Gwrandewch ar eich gorsaf radio/teledu lleol i gael y newyddion diweddaraf am lifogydd.
  • Symudwch bethau gwerthfawr, lluniau ac eitemau sentimental i le diogel, e.e. i fyny’r grisiau.
  • Os yn bosibl dylech symud rygiau ac eitemau dodrefn ysgafn i fyny’r grisiau.
  • Taflwch y llenni dros y rheilen allan o gyrraedd y dŵr llifogydd.
  • Codwch eitemau trydanol trwm fel oergelloedd, rhewgelloedd, peiriannau golchi a’u gosod ar frics.
  • Byddwch yn barod i ddiffodd y nwy a’r trydan (ceisiwch gael help i wneud hynny os oes angen).
  • Er mwyn atal dŵr llifogydd rhag dod i mewn i’ch cartref; rhowch blygiau mewn sinciau a’u pwyso i lawr gyda rhywbeth trwm; plygiwch bibellau dŵr gyda thywelion neu gadachau a datgysylltwch beiriannau golchi a pheiriannau golchi llestri i atal dŵr rhag llifo nôl i mewn. Hefyd caewch gaeadau toiled a rhowch rywbeth trwm arnynt i’w cadw lawr.
  • Rhowch fagiau tywod neu fyrddau llifogydd yn eu lle - ond gwnewch yn siŵr bod yr eiddo’n cael ei awyru.
  • Ewch i nôl eich ‘Pecyn Argyfwng yn y Cartref’ a’ch ‘Bag Argyfwng’ a lle bo’n bosibl ceisiwch fod yn barod i symud eich teulu a’ch anifeiliaid anwes i fyny’r grisiau neu i le diogel gyda ffordd o ddianc.
  • Rhowch wybod i’ch cymdogion, yn enwedig pobl hŷn.Ceisiwch wneud gymaint ag y gallwch mewn golau dydd. Bydd gwneud unrhyw beth yn y tywyllwch yn llawer anoddach, yn enwedig os yw’r trydan wedi methu.

Bod yn ddiogel mewn llifogydd

  • Peidiwch â gadael eich cartref neu fynd i ddŵr llifogydd oni bai bod y gwasanaethau brys yn rhoi cyfarwyddyd uniongyrchol i chi wneud hynny. Gall dŵr llifogydd fod yn hynod o beryglus a chuddio peryglon difrifol.
  • Peidiwch â cheisio cerdded neu yrru trwy ddŵr llifogydd, gall chwe modfedd o ddŵr sy’n llifo’n gyflym eich taro chi drosodd, a bydd dwy droedfedd o ddŵr yn gallu codi eich car.
  • Efallai y bydd cloriau tyllau archwilio yn dod yn rhydd ac efallai y bydd peryglon eraill hefyd na allwch eu gweld.
  • Dylech osgoi cyswllt â dŵr llifogydd lle bo modd oherwydd efallai ei fod wedi ei lygru â charthion neu gemegau.

Beth i’w wneud ar ôl llifogydd:

  • Os ydych wedi gadael eich eiddo, ceisiwch gael gwybod gan y gwasanaethau brys os yw’n ddiogel i chi fynd yn ôl i mewn.
  • Byddwch yn ofalus wrth fynd yn ôl i mewn i’ch eiddo oherwydd efallai fod yno beryglon cudd sydd wedi eu hachosi gan lifogydd, er enghraifft difrod i’r adeilad a haint.
  • Os oes modd tynnwch luniau o’r difrod i’ch eiddo.
  • Ffoniwch Linell Gymorth Brys (24 awr) eich cwmni yswiriant cyn gynted ag y bo modd. Byddant yn gallu rhoi gwybodaeth i chi ar gyfer delio â’ch cais, a darparu cymorth i gael pethau yn ôl i normal.

Glanhau ar ôl llifogydd

  • Cofiwch wrth glirio bod dŵr llifogydd yn gallu cynnwys carthion a chemegau a hyd yn oed os yw wedi’i wanhau dylech bob amser wisgo menig a dillad sy’n dal dŵr, esgidiau glaw a mwgwd wyneb.
  • Dylech lanhau a diheintio eich eiddo gan ddefnyddio cynhyrchion cartref arferol.
  • Defnyddiwch beipen gardd arferol i olchi arwynebau i lawr.
  • Os ydych yn sychu eich eiddo yn naturiol, cadwch ffenestri a drysau ar agor cymaint ag y bo modd.
  • Os ydych yn defnyddio rheolyddion lleithder dylech gau pob ffenestr a drws.
  • Taflwch unrhyw fwyd a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â’r dŵr llifogydd gan y gallai fod wedi ei lygru.
  • Byddwch yn wyliadwrus o fasnachwyr ffug. Dylech bob amser wirio geirda a chael geirda dibynadwy os oes modd.
  • Gwnewch yn siŵr fod pob gwaith trydanol a’ch gwres canolog yn cael eu gwirio gan drydanwyr a pheirianwyr cymwys cyn eu troi yn ôl ymlaen.

Cyngor ac arweiniad pellach

Manylion cyswllt defnyddiol:

  • Gwasanaethau Brys 999 (Argyfwng yn Unig)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

  • Prif Switsfwrdd: 01443 815588
  • Argyfwng Tu Allan i Oriau: 01443 875500
  • Gofal Cwsmer Gweithrediadau Priffyrdd (yn ystod y dydd): 01495 235323

Cyfoeth Naturiol Cymru
www.naturalresourceswales.gov.ukLlinell Gymorth Llifogydd: 0345 9881188
Llinell Ffôn adrodd am ddigwyddiad: 0800 807060

 

Dŵr Cymru Welsh Water
www.dwrcymru.comGwasanaethau ac Argyfyngau Dŵr: 0800 052 0130
Gwasanaethau ac Argyfyngau  Carthffosaeth: 0800 085 3968

 

Y Swyddfa Dywydd
www.metoffice.gov.uk
Desg Tywydd: 0370 900 0100