Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd

Dan y ddeddfwriaeth mae’n ddyletswydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i lunio a chynnal strategaeth ar gyfer rheoli’r perygl o lifogydd (Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd).

Mae’r strategaeth yn delio â’r perygl o lifogydd lleol yn unig, a ddiffinnir yn y ddeddf fel y perygl llifogydd canlynol:

  • Dŵr arwyneb sy’n llifo
  • Dŵr daear
  • Dyfrffosydd cyffredin (cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw llifogydd yn y prif afonydd).

Mae’r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd yn esbonio’n glir sut yr eir ati i ddelio â’r perygl o lifogydd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ac mae’n cynnwys y canlynol: -

  • Gwybodaeth am y perygl o lifogydd lleol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan dynnu sylw at yr ardaloedd sydd eisoes wedi cael problemau a'r lefelau cyfredol o ran perygl llifogydd.
  • Esboniad o ran pa sefydliad sy’n gyfrifol am ba feysydd mewn perthynas ag atal a rheoli llifogydd.
  • Gwybodaeth am y mesurau a gyflawnir i leihau’r perygl o lifogydd.
  • Esboniad o ran sut caiff y gwaith ei flaenoriaethuMesurau y gall cymunedau eu cyflawni i wella eu gwydnwch rhag llifogydd, gan nad yw’n bosibl atal yr holl lifogydd.

Mae ein Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd wedi’i chymeradwyo gan y Cabinet a Llywodraeth Cymru.

Asesiad Amgylcheddol Strategol / Arfarniad o Gynaliadwyedd