Caniatâd i weithio ar gwrs dŵr cyffredin

Os ydych eisiau gwneud mathau penodol o waith ar gwrs dŵr neu’n agos at gwrs dŵr, rhaid ichi gael caniatâd cyn dechrau.

Mae’n bosibl na chaiff rhai mathau penodol o waith eu caniatáu’n agos at gwrs dŵr oherwydd y gallai gynyddu perygl llifogydd neu gael effaith amgylcheddol negyddol. Cyn y gallwn roi caniatâd ar gyfer cynllun, bydd angen inni wirio nad yw’n cynyddu perygl llifogydd ac nad yw’n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd.

Os ydych yn dirfeddiannwr neu’n ddatblygwr, rydym yn argymell yn gryf ichi gysylltu â ni cyn gynted ag sy’n bosibl ynghylch unrhyw gynnig, gan ganiatáu digon o amser cyn bod y gwaith i fod i ddechrau. Trwy wneud hyn, gellir canfod a datrys problemau posibl cyn i gynlluniau gael eu datblygu’n llawn, gan leihau costau i’r holl bartïon. Mae manteision eraill yn cynnwys nodi gwelliannau amgylcheddol nad ydynt o angenrheidrwydd yn galw am wariant sylweddol a lleihau’r amser mae arnom ei angen i wneud penderfyniad. 

Sut allaf i wneud cais?

Yn achos prif afon bydd angen ichi wneud cais i Cyfoeth Naturiol Cymru.  

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni ar gyfer gwaith sy’n effeithio ar gwrs dŵr cyffredin. Rydym yn annog pob tirfeddiannwr a datblygwr i drafod ei anghenion gyda ni cyn cyflwyno’r cais. Mae’n bosibl y gallwn awgrymu opsiynau nad oes arnynt angen caniatâd ac nad ydynt yn cael effaith niweidiol ar y cwrs dŵr. Os bydd angen caniatâd arnoch wedyn, gall trafodaethau cyn cyflwyno’r cais sicrhau eich bod yn deall y gofynion yn llawn, ynghyd ag unrhyw ffyrdd posibl eraill o gyflawni’r gwaith nad oes angen caniatâd ar eu cyfer.

Gellir cyflwyno ceisiadau ar-lein. Y ffi cais presennol yw £50 y strwythur neu unrhyw newid sy’n debygol o effeithio ar lif dŵr mewn cwrs dŵr cyffredin.

Ceisiwch ar-lein ar gyfer Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin >

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!

Pa mor hir mae’n ei gymryd?

Mae cyfnod statudol o 2 fis i benderfynu ar geisiadau, a chaiff cais ei ganiatáu, ei wrthod neu ei ganiatáu ag amodau. Hefyd rhoddir amserlen i’r gwaith gael ei gyflawni. Darllenwch y nodiadau arweiniol a ddarperir gyda’ch ffurflen gais i sicrhau eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth mae arnom ei hangen.

Pa fath o waith mae angen caniatâd ar ei gyfer?

Mae’n bosibl y bydd angen caniatâd ar gyfer gwaith parhaol neu waith dros dro sy’n effeithio ar gwrs dŵr cyffredin. Gallai gwaith dros dro gynnwys argáu neu argáu’n rhannol gwrs dŵr i alluogi gwaith parhaol fel gosod pont.

Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr a fydd angen caniatâd ar gyfer eich cynigion neu os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth. Yn aml, mae mwy nag un ffordd o gwblhau gwaith ac efallai y gallwn awgrymu ffordd o gyflawni’r cynllun heb yr angen am ganiatâd.

Faint fydd yn costio?

Y ffi bresennol am wneud cais yw £50 am bob strwythur neu unrhyw newid sy’n debygol o effeithio ar lif y dŵr mewn cwrs dŵr cyffredin. Dylid gwneud sieciau’n daladwy i “Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili” ac ysgrifennu Cais am Ganiatâd Cwrs Dŵr Cyffredin ar y cefn, gan roi rhif cyfeirnod y cais. Er enghraifft, os yw’r cynllun arfaethedig yn cynnwys un strwythur cefnfur ac un dargyfeiriad i gwlfert, bydd yn ofynnol ichi gyflwyno dau gais a fyddai’n costio £50 yr un.

Oes terfyn amser ar y caniatâd?

Pan roddir caniatâd, mae’n ddilys am flwyddyn. Mae hyn oherwydd y gallai effeithiau’r cynllun newid oherwydd pethau sy’n digwydd ar ôl ichi wneud y cais. 

Gan ddibynnu ar eich cynigion, mae’n bosibl y rhoddwn ‘ganiatâd amodol’ ichi wneud y gwaith, er enghraifft, ar adeg benodol o’r flwyddyn, er mwyn lleihau perygl llifogydd a niwed ecolegol posibl.

Camau gorfodi yn erbyn gwaith heb ganiatâd 

Os caiff gwaith ei gwblhau heb ganiatâd, a lle rydym yn barnu y buasai arnoch angen caniatâd, ni allwn roi ôl-ganiatâd. Yn yr achosion hyn, byddwn fel arfer yn cymryd camau i sicrhau y caiff y cwrs dŵr ei adfer i’w gyflwr blaenorol, neu y cymerir camau adferol.

Os ydych wedi sylwi ar waith ar gwrs dŵr cyffredin yn eich ardal chicysylltwch â ni i gael gwybod a yw’r gwaith wedi cael y caniatâd mae arno ei angen. 

Is-ddeddfau Draenio Tir

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gweithredu Is-ddeddfau Draenio Tir. Mae'r rhain yn ein helpu i reoleiddio rhai gweithgareddau sy'n gysylltiedig â chyrsiau dŵr cyffredin. 

Is-ddeddfau Draenio Tir (PDF)

Ymgynghoriad Is-ddeddfau Draenio Tir.

Gwybodaeth bellach

Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth am y broses caniatâd, gydag ymholiadau ynghylch y broses rhoi caniatâd, i gael trafodaeth cyn cyflwyno cais ac i gyflwyno ceisiadau am ganiatâd.