Ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch Gorchymyn Rheoleiddio Traffig o ran Terfynau Cyflymder

Er mwyn gweithredu'r eithriadau 30mya mae Gorchymyn Rheoleiddio Traffig wedi'i wneud.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu map rhyngweithiol sy'n dod â data eithriadau ar gyfer y 23 Awdurdod Priffyrdd at ei gilydd, gan gynnwys yr eithriadau ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ac sy'n darparu syniad o'r cynlluniau cymeradwy. Noder bod y map rhyngweithiol hwn at ddibenion enghreifftiol yn unig.

Noder bod y terfynau cyflymder 20mya newydd yn cael eu cyflwyno yn dilyn newid i ddeddfwriaeth genedlaethol ac nid ydynt yn rhan o'r broses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig.