Cwestiynau cyffredin – Llywodraeth Cymru

Pam ydych chi eisiau cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr ledled Cymru?

Bydd cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr ledled Cymru yn:

  • arbed bywydau a lleihau risg a difrifoldeb anafiadau yn sgil gwrthdrawiadau rhwng cerbydau a defnyddwyr ffyrdd bregus
  • gwneud strydoedd yn fwy diogel ar gyfer chwarae, cerdded a seiclo
  • annog mwy o bobl i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy
  • gwneud Cymru'n fwy deniadol i'n cymunedau
  • dod â buddion corfforol a iechyd meddwl
  • lleihau llygredd sŵn, hyrwyddo aer glanach a bydd yn well i'r amgylchedd

Cafodd y ddeddfwriaeth ei chymeradwyo gan Senedd Cymru ym mis Gorffennaf 2022.

Beth yw manteision newid y terfyn cyflymder diofyn?

Mae'r dystiolaeth o bob cwr o'r byd yn glir iawn – mae lleihau terfynau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn credu y gallai gostwng y terfyn cyflymder diofyn i 20mya fod â manteision iechyd sylweddol. Bydd 20mya yn lleihau'r risg o wrthdrawiadau, yn helpu pobl i deimlo'n fwy diogel ac o fudd i les corfforol a meddyliol pobl. Amcangyfrifodd astudiaeth iechyd cyhoeddus diweddar y gallai'r terfyn cyflymder diofyn 20mya arwain at:

  • 40% yn llai o wrthdrawiadau
  • achub 6 i 10 o fywydau bob blwyddyn;
  • ac osgoi anfafu 1200 i 2000 o bobl bob blwyddyn. 

Fydd hyn yn cael effaith ar bob ffordd sy’n 30mya ar hyn o bryd?

Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffyrdd 30mya ond nid pob un.

Mae'r ddeddfwriaeth hon yn newid y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig. Yn gyffredinol, strydoedd preswyl neu brysur i gerddwyr yw'r rhain gyda goleuadau stryd.

Ond nid yw pob ffordd 30mya yn ffyrdd cyfyngedig, ac mae'r rhain yn parhau ar gyflymder o 30mya, a bydd arwyddion arnynt.

Ar gyfer ffyrdd cyfyngedig, gall awdurdodau lleol a'r 2 Asiantaeth Cefnffyrdd greu eithriadau i’r terfyn cyflymder diofyn mewn ymgynghoriad â’u cymunedau.

Rydym wedi cyhoeddi map ar MapDataCymru sy'n dangos pa ffyrdd fyddai'n aros ar gyflymder o 30mya.

Mae gan fy ardal leol derfynau cyflymder o 20mya eisoes. A yw'n rhan o'r fenter hon?

Mae llawer o awdurdodau lleol eisoes wedi cyflwyno terfynau cyflymder o 20mya ledled y wlad oherwydd y buddion cydnabyddedig a chefnogaeth y cyhoedd. Fel rhan o gam cyntaf y broses o gyflwyno 20mya dewisodd 8 setliad gymryd rhan a gwneud eu cyflymder diofyn yn is:

  • Y Fenni a Glannau Hafren, Sir Fynwy
  • Gogledd Caerdydd
  • Bwcle, Sir y Fflint
  • Pentref Cil-ffriw, Castell-nedd a Phort Talbot
  • Llandudoch, Sir Benfro
  • Saint-y-brid, Bro Morgannwg
  • Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin

Cewch ddarllen yr adroddiad monitro cyntaf sy'n manylu ar rai o'r effeithiau y mae cyflwyno 20mya wedi'u cael yn y cymunedau hyn. Mae'r cyflymder cyffredinol wedi lleihau yn yr ardaloedd hyn.

A fydd yr heddlu'n gorfodi'r terfyn cyflymder arfaethedig o 20mya?

Bydd yr Heddlu a GoSafe yn parhau i orfodi 20mya, fel unrhyw derfyn cyflymder arall, i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel i'r holl ddefnyddwyr. Byddant hefyd yn helpu i ymgysylltu â modurwyr a'u haddysgu i sicrhau bod y terfynau cyflymder newydd yn cael eu parchu, ac y cefnogir newid ymddygiad gyrwyr.

A fydd lleihau'r terfyn cyflymder yn effeithio ar lif traffig?

Nid ydym yn credu y bydd terfyn cyflymder o 20mya yn cynyddu nifer y cerbydau sy'n gyrru ar y ffordd. O bosib bydd traffig yn llifo'n fwy llyfn.

Sut fydd terfyn cyflymder is yn hyrwyddo cerdded a beicio?

Mae cyflymder is yn golygu bod pobl yn teimlo'n fwy cyfforddus i gerdded a beicio ac mae'n fwy diogel i blant gerdded i'r ysgol. Bydd pobl hŷn, pobl anabl neu bobl ag anghenion ychwanegol yn teimlo'n fwy abl i deithio'n annibynnol. Mae cyflymder cerbydau un o'r prif resymau pam nad yw pobl yn cerdded neu feicio neu ddim yn caniatáu i'w plant gerdded neu feicio i'r ysgol.

Sut fydd y terfyn newydd o 20mya yn effeithio ar lygredd?

Fe wnaeth astudiaeth gan Goleg Imperial ganfod bod ardaloedd cyfyngedig 20mya yn “niwtral o ran llygredd”.

Mae llawer o bethau'n cyfrannu at lefelau llygredd. Mae nhw'n cynnwys:

  • arddull gyrru,
  • cyflymu
  • brecio,
  • cyflwr cerbyd
  • pellter sy’n cael ei deithio a
  • thymheredd yr injan.

Credwn y bydd y terfynau cyflymder is yn annog mwy o bobl i ddewis ffyrdd llesol o deithio a bydd llai o geir sy’n llygru ar y ffyrdd.

A fydd terfyn cyflymder is yn gwella diogelwch?

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella diogelwch cerddwyr yw lleihau cyflymder cerbydau. Yn y pellter y gall car 20mya stopio, bydd car 30mya yn dal i wneud 24mya. O'r sylfaen dystiolaeth ryngwladol, gellir dod i'r casgliad, ar gyfartaledd, bod person tua pum gwaith yn fwy tebygol o gael ei ladd pan gaiff ei daro gan gerbyd oedd yn teithio ar oddeutu 30mya nag y maent o gerbyd oedd yn teithio tua 20mya.

Pa effaith fydd y terfyn cyflymder yn ei gael ar amseroedd teithio?

Mae amseroedd teithio ar ffyrdd mewn ardaloedd trefol yn tueddu i gael eu penderfynu gan gyffyrdd a signalau, yn hytrach na'r terfyn cyflymder.

Mewn nifer o achosion, ni fydd gostwng y terfyn cyflymder i 20mya yn cael fawr ddim effaith ar amseroedd teithio. Lle mae effaith, mae ein dadansoddiad yn dangos y byddai'r rhan fwyaf o deithiau ond tua 1 munud yn hirach, ond byddai hyn yn gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i gerddwyr a seiclwyr.

Pam na ellir sefydlu'r terfyn 20mya o fewn cyfnod amser fel yn ystod oriau ysgol yn unig?

Ni fyddai hyn yn annog plant i gerdded na beicio o adref, gan y byddai ond yn diogelu plant ger yr ysgol ble y maent eisoes yn fwy diogel oherwydd nifer y disgyblion. Mae 80% o anafiadau i blant ar deithiau sydd ddim i’r ysgol.

Bydd cyflwyno terfyn cyflymder diofyn 20mya yn gwneud plant yn fwy diogel o'r eiliad mae nhw'n gadael cartref - mae wedi'i gynllunio i wneud strydoedd yn fwy diogel i bawb.

A fydd cyflwyno hyn yn golygu gwario arian ar bympiau cyflymder?

Nid oes cynllun i gynnwys ffyrdd o ostegu traffig (gan gynnwys bympiau cyflymder) fel rhan o'r newid i derfynau cyflymder. Mae mesurau 'meddalach' eraill y gellid eu cyflwyno, megis defnyddio terfynau cyflymder byffer, cael gwared ar y llinell ganol, culhau'r ffordd gerbydau yn weledol, gan ddefnyddio plannu ac ati.

A fydd lleihau cyflymder i 20mya yn niweidio fy nghar?

Gall ceir modern yrru ar gyflymder o 20mya heb niweidio'r injan neu gydrannau. Mae cyflymu hyd at gyflymder llai o 20mya, a gyrru ar gyflymder mwy cyson, olygu bod llai o ffrithiant ar y teiar a’r brêc ac mae yn helpu i ymestyn oes injan a blwch gêr.

A fydd gyrru ar gyflymder o 20mya yn golygu fy mod yn defnyddio mwy o danwydd ?

Na. Y ffordd rydyn ni'n gyrru sy’n dylanwadu ar y defnydd o danwydd yn bennaf - mae gyrru ar gyflymder cyson yn well na stopio ac ail-gychwyn. Gall cyflymu hyd at 30mya gymryd ddwywaith yn fwy o ynni â chyflymu hyd at 20mya.

Gall terfyn cyflymder diofyn o 20mya a gyrru’’n esmwyth, helpu i osgoi unrhyw gyflymu ac arafu di-angen, gan arbed tanwydd.

Pam fod beiciau yn cael fy ngoddiweddyd pan dwi'n gyrru ar 20mya ?

Mae terfynau cyflymder yn Rheoliadau Traffig Ffyrdd a Rheolau'r Ffordd Fawr yn berthnasol i gerbydau modur yn unig ac nid i feiciau. Fodd bynnag, mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn nodi y dylai beicwyr fod yn ystyriol o ddefnyddwyr ffyrdd eraill.

Ble arall mae terfynau cyflymder 20mya wedi'u cyflwyno yn y DU?

Mae terfynau cyflymder 20mya mewn grym yn nifer o'r dinasoedd canolig a mwy yn Lloegr a'r Alban ac mae mwy o awdurdodau gwledig yn cyflwyno rhaglenni 20mya estynedig ar raddfa fwy.

Os yw'r Alban hefyd yn gosod terfynau cyflymder diofyn 20mya, bydd hyd at 28 miliwn o bobl yn y DU yn byw mewn awdurdodau lleol lle mai 20mya yw'r norm.

Mae'r wybodaeth hon ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.