Datganiadau dylunio a mynediad
Mae'r gofyniad i gyflwyno DAS gyda chais cynllunio ond yn berthnasol i:
- Ceisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr ac eithrio:
- Gweithrediadau mwyngloddio
- Datblygiadau gwastraff
- Llacio neu ddiwygio amodau (ceisiadau adran 73)
- cais am newid sylweddol yn y defnydd o dir neu adeiladau
- Ceisiadau cynllunio mewn ardal gadwraeth ar gyfer un neu fwy o anheddau
- Ceisiadau cynllunio mewn ardal gadwraeth lle mae creu arwynebedd llawr o 100 metr sgwâr neu fwy
Nid oes angen DAS ar gyfer cais materion a gedwir yn ôl gan nad yw hwn yn gais am ganiatâd cynllunio.
Fodd bynnag, dylai'r DAS weithredu fel 'dogfen fyw' a dylid cynnwys datganiad cynnydd gyda chais materion a gedwir yn ôl yn diweddaru unrhyw newidiadau sydd wedi digwydd ers cyflwyno'r DAS gwreiddiol.
Noder: Os oes angen DAS ond heb ei gyflwyno neu os nad yw cynnwys y DAS yn rhoi sylw priodol i'r cynnwys gofynnol ar gyfer y cais cynllunio, yna caiff ei ystyried yn annilys.
Strwythur DAS
Dylai DAS arwain y darllenydd yn glir ac yn rhesymegol drwy'r broses ddylunio er mwyn esbonio'r rhesymeg y tu ôl i'r cynnig terfynol.
Bydd y cynnwys yn amrywio yn dibynnu ar y prosiect. Rhaid i'r DAS esbonio o leiaf:
- Yr egwyddorion a'r cysyniadau dylunio sydd wedi'u cymhwyso i'r datblygiad; a
- Sut yr ymdriniwyd â materion yn ymwneud â mynediad i'r datblygiad.
Mae'r strwythur awgrymedig hwn yn dilyn camau'r broses ddylunio yn fras. Mae'n bwysig eich bod yn mynd i'r afael â'r holl benawdau a nodir mewn print bras a'ch bod yn dweud rhywbeth am bob un.
a) Crynodeb o'r cynnig
b) Y Briff a'r Weledigaeth
c) Dadansoddiad o'r Safle a'r Cyd-destun
d) Dehongliad
e) Dehongliad
f) Datblygu Dyluniad
g) Y cynnig
(i) Nodwedd
(ii) Mynediad
(iii) Symudiad
(iv) Cynaliadwyedd Amgylcheddol
(v) Diogelwch Cymunedol
(vi) Ymateb i bolisi cynllunio
Am arweiniad pellach ar sut i gynhyrchu DAS lawrlwythwch y ddogfen Datganiadau Dylunio a Mynediad yng Nghymru Llywodraeth Cymru, Mehefin 2017 (PDF)
Asesiad o'r Effaith ar Dreftadaeth
O 1 Medi 2017, mae angen Datganiad o'r Effaith ar Dreftadaeth i gefnogi ceisiadau penodol am ganiatâd adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth yng Nghymru a bydd yn disodli'r DAS yn y broses ymgeisio am ganiatâd adeilad rhestredig.
Canllaw ar baratoi Datganiad o'r Effaith ar Dreftadaeth (PDF)
Rhagor o wybodaeth
Mae'r dolenni canlynol i'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau ar Ddatganiadau Dylunio a Mynediad.
Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2017
Mae cyngor ar gynnwys DAS wedi'i gynnwys yn nogfen Llywodraeth Cymru: Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 12: Dylunio, wedi'i diweddaru diwethaf 31 Mawrth 2016.